Ymdopi gyda’r coronafeirws

Mae’r coronafeirws  (sy’n cael ei adnabod fel COVID-19) wedi effeithio ar fywydau pawb ohonom ac o bosib yn achosi pryder a gorbryder i chi. Tra ei fod yn bwysig ein bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf, mae yna bethau y mae modd i ni wneud er mwyn rheoli ein lles yn ystod y cyfnod hwn. Mae yna rai ffynonellau o wybodaeth allweddol ar gael sydd yn ymwneud â chadw’n ddiogel a chynnal eich iechyd meddwl:

Gwybodaeth am y coronafeirws:

Gwybodaeth am iechyd meddwl:

 

Gwybodaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth Hafal  

Mae Hafal wedi cadarnhau cynlluniau lleol a chenedlaethol er mwyn rheoli sgil-effaith y coronafeirws ar ein gwasanaethau, gan sicrhau bod yna gymorth hanfodol yn cael ei gynnal tra hefyd yn cadw pawb mor ddiogel ag sydd yn bosib. Rydym hefyd yn derbyn y newyddion diweddaraf ar  y sefyllfa ac yn derbyn cyfarwyddyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Er mwyn sicrhau ein bod yn medru parhau  i gefnogi’r sawl sydd yn derbyn ein gwasanaethau, rydym yn gweithio ar draws Cymru er mwyn cydlynu ein hymateb. Rydym wedi apwyntio tîm o fewn y mudiad er mwyn delio gyda materion Covid 19 ac mae hyn yn cael ei arwain gan Judith Major, sef ein Cydlynydd Cenedlaethol.

Lles ein cleientiaid a’n staff yw ein prif flaenoriaeth. Rydym yn cymryd pob cam posib  fel rhagofalon a bydd yn adolygu’r sefyllfa ac yn diweddaru ein gwybodaeth yn gyson.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, yna cysylltwch gyda’ch tîm staff a gwasanaethau  lleol neu drwy ffonio’r Brif Swyddfa ar 01792 816600 (sydd ar agor yn ystod oriau swyddfa arferol).

 

Cefnogaeth i bobl ar draws Cymru

Mae Addewid Hafal yn darparu cefnogaeth barhaus, cyngor a chyfeillgarwch i bobl sydd y tu hwnt i’n gwasanaethau, a hynny drwy ein cymuned ar-lein, e-bost, ffôn a’r cyfryngau cymdeithasol.

Mewn ymateb i’r coronafeirws, byddwn yn sicrhau bod  Addewid Hafal yn parhau i gael ei weithredu a’i gyflenwi ar draws Cymru. Os ydych yn teimlo bod eich iechyd meddwl yn cael ei effeithio gan y coronafeirws, yna darllenwch Addewid Hafal.

Yn Hafal, rydym yn cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl – gyda phwyslais arbennig ar y rhai hynny ag afiechyd meddwl difrifol – a’u gofalwyr a’u teuluoedd; rydym hefyd yn cefnogi eraill sydd ag ystod o anableddau a’u gofalwyr a’u teuluoedd.

Mae Hafal wedi ymrwymo i ddarparu help, cefnogaeth, cyngor a chyfeillgarwch i bobl yng Nghymru, gan gynnwys gofalwyr, a gan ein bod yn teimlo mor gryf ynglŷn ag hyn, rydym am dderbyn cyfrifoldeb ein hunain er mwyn sicrhau na fyddwn yn gadael pobl i ymdopi ar ben eu hunain.

Os ydych angen ein help, byddwn yn cadw ein Haddewid.

Dyma rai ffyrdd yr ydych yn medru manteisio ar ein cefnogaeth a’n gwasanaethau:

Noder: Am help mewn argyfwng, yna cysylltwch gyda’r llinell gymorth CALL 0800 132 737 / neu mae modd danfon neges destun ‘help’ i 81066 neu ffoniwch y Samariaid ar 116 123.