Fy Nghaethiwed am 30 Mlynedd ……a sut wnes i fynd yn rhydd!

Fel pawb arall, mae’r rheolau presennol sydd yn ceisio ein hamddiffyn rhag y coronafeirws dal yn fy nghyfyngu   – gadewch i ni obeithio y bydd yr holl gyfyngiadau yma yn diflannu i ni ddechrau rheoli’r afiechyd.   

Yn y cyfamser, rwy’n dathlu cael fy rhyddhau o gaethiwed dipyn hirach – rwy’n cyfeirio at Adran 37/41 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl sydd wedi rheoli fy mywyd ers 1989. Ar 23 Ebrill eleni, roedd Tribiwnlys wedi fy rhyddhau o’r diwedd o hualau’r ddeddf hon!

Am y tro cyntaf am hanner fy mywyd rwy’n teimlo fel aelod normal o’r gymdeithas. Rwy’n teimlo’n rhydd.   

Gadewch i mi esbonio mwy…

 

Nôl yn y ganrif ddiwethaf…

Nid ydych yn cael eich gosod o dan Adran 37/41 heb reswm ac rwyf am fod yn onest ynglŷn â pham y digwyddodd hynny i mi – gan gynnwys y pethau difrifol i mi wneud tra’n dioddef afiechyd hynod ddifrifol ac rwyf wir yn sori am hyn.

31 mlynedd yn ôl, roeddwn yn yr ysbyty ag afiechyd meddwl difrifol. Roeddwn yn clywed nyrsys yn mynd ac yn dod ac roeddwn yn holl baranoid ac wedi dychryn. Roeddwn wedi chwalu ffrâm lluniau er mwyn eu hatal rhag dod yn agos ataf, a hynny er mwyn eu bygwth. Yn anffodus, roedd  nyrs wedi cael cwt ar ei llaw. Rwy’n teimlo’n wael am hyn – hyd yn oed heddiw, mae’r euogrwydd yn ddychrynllyd.

Wedi hyn, trodd fy myd  ben i waered gan y defnyddiwyd y Ddeddf Iechyd Meddwl fel modd i gymryd rheolaeth hirdymor o’m mywyd. Fe’m danfonwyd i  garchar ym Mryste am bythefnos, yn bell o gartref, heb unrhyw ymwelwyr. O’r fan honno, fe’m danfonwyd i   Northampton – St Andrews – a oedd hyd yn oed ymhellach o’m cartref ac roeddwn yno am bron i flwyddyn. Roedd yn rhy bell i mi dderbyn ymwelwyr. Os nad oeddwn yn ymddwyn, roeddwn yn cael fy ngosod mewn ystafell  ‘wag’ – dim ond waliau, dim ffenestri. Rhaid oedd aros yno am 24 awr. Nid oedd y staff yn dangos unrhyw dosturi – nid oes hawl ganddynt i ddangos emosiwn.

Wedi hynny, mi wnes i fynd i Caswell yn fy nhref enedigol ac roedd hyn dipyn gwell. Roedd gweld fy nheulu mor bwysig. Roeddwn dal yn sâl iawn – yn hynod negatif a’n  paranoid. Ar un pwynt, nid oeddwn wedi bwyta nac yfed am 11 diwrnod. Cefais ail farn gan feddyg a oedd wedi fy ngorfodi i dderbyn therapi electrogynhyrfol (ECT). Cefais 12 sesiwn a oedd yn hollol ddychrynllyd. Teimlais fel nad oeddwn wedi cael dewis. Yn ffodus, aeth fy Modryb i weld yr ymgynghorydd a dywedodd  “dim mwy”.

Roeddwn i yn Caswell am ddwy flynedd, ac roedd yna ddigwyddiad pan oeddwn wedi gwthio nyrs ac fe’m danfonwyd i ysbyty diogel  Ashworth yn Lerpwl. Nid oeddwn yn ofn trais corfforol ond yn feddyliol, roeddwn wedi dychryn.  Roeddwn ar ward anhwylder personoliaeth ac roedd y rhan fwyaf o fenywod yn dioddef  y salwch hwn – ac yn anffodus, roedd rhai ohonynt wedi ceisio lladd eu hunain yn y toiledau. Roeddwn mor ofnus i fynd i’r toiled fel nad oeddem yn yfed. Dywedwyd wrthym  y dylem weiddi  “cyllell” pe bawn yn gweld rhywun yn ceisio lladd ei hun yn  y toiled fel y byddai rhywun yn medru rhedeg yno er mwyn torri’r rhaff. Nid oedd unrhyw ymdrech wedyn i geisio deall yr hyn a oedd  wedi digwydd.

Nid oedd unrhyw urddas yn Ashworth. Roedd y nyrsys fel swyddogion carchar. Diolch byth, mi wnes i fynd yn ôl i  Caswell ar ôl wyth mis yno. Roedd yn brofiad dipyn gwell ac roeddwn yn well erbyn hynny gan fy mod yn cymryd Clozaril, sydd yn gweithio i mi.

 

Ac ers hynny…

Rwyf wedi profi sawl uchafbwynt ac isafbwynt – ac efallai y byddaf yn rhannu’r stori honno ar ryw ben!

Ond drwy gydol yr holl amser, rwyf wedi byw yng nghysgod y Ddeddf Iechyd Meddwl sydd wedi fy nghaethiwo o fewn ei rheolau er nad oeddwn mewn cell.

Yn olaf, roedd Tribiwnlys wedi penderfynu fis diwethaf bod modd fy rhyddhau o hualau’r Ddeddf ac roeddwn yn rhydd!

 

Y Darn Technegol

  • Mae Adran 37 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn caniatáu Llysoedd yr Ynadon a’r Goron i ddanfon claf, sydd yn euog o drosedd y mae modd ei garcharu, i’r ysbyty yn hytrach na charchar
  • Mae Adran 41 (“Gorchymyn Cyfyngu”) yn caniatáu i Lysoedd y Goron i ychwanegu cyfyngiadau at orchymyn Adran 37: mae hyn yn golygu bod y Swyddfa Gartref yn penderfynu pryd ydych yn gadael a phryd ydych yn medru gadael yr ysbyty; ac os caiff ei gytuno eich bod yn cael gadael yr ysbyty, mae hyn yn seiliedig ar amodau penodol ac mae modd eich danfon yn ôl i’r ysbyty os nad ydych yn cydymffurfio gyda’r amodau yma.

 

Tro Nesaf

Mae’r profiad yr wyf wedi disgrifio isod wedi fy ysbrydoli i herio’r Ddeddf Iechyd Meddwl a chanfod ffyrdd gwell. Byddaf yn trafod y thema hon tro nesaf ond darllenwch “Cyfraith Jo” – fy syniadau ynglŷn â sut i lunio cyfraith a fydd yn ffrind i gleifion ac yn cadw pawb yn ddiogel.

****

Yn y cyfamser, os ydych chi neu’r rhai hynny yr ydych yn gofalu amdanynt yn wynebu trafferthion yn ystod yr argyfwng presennol, yna peidiwch ag oedi cysylltu gyda’ch gwasanaethau lleol am help. Mae’r cyngor penodol sydd gan Hafal ar gyfer y sawl sydd ag afiechyd meddwl ar gael yma.

 

Mae Jo Roberts yn ymgyrchydd iechyd meddwl a oedd ar ddiwedd derbyn y Ddeddf Iechyd Meddwl am dros 30 mlynedd. Yn y gorffennol mae hi wedi derbyn triniaeth orfodol. Yn y gorffennol, mae wedi derbyn triniaeth orfodol; roedd ychydig o’r driniaeth honno yn hynod annymunol  ac wedi ei dychryn. Mae’n ymgyrchu am Ddeddf Iechyd Meddwl flaengar sydd yn addas i’r Unfed Ganrif ar Hugain – sef Deddf sydd yn rhoi bargen deg i gleifion a  gofalwyr yng Nghymru a thu hwnt. Darllenwch mwy…