Datganiad ar ryddhau cleifion iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru yn ystod y pandemig

Yn ymateb i adroddiad y BBC sydd yn datgelu fod bron i 1,700 o gleifion iechyd meddwl yng Nghymru wedi cael eu rhyddhau ar gam gan wasanaethau cymorth yn ystod y pandemig, dywedodd  Cadeirydd Hafal Mair Elliott:

“Mae’n warthus, ond nid yw’n syndod, i ganfod fod nifer sylweddol o gleifion iechyd meddwl bregus wedi eu rhyddhau gan Fwrdd Iechyd Lleol  Betsi Cadwaladr o ganlyniad i’r hyn a ddisgrifir ganddynt fel ‘camgymeriad’: dylai’r Bwrdd fod wedi meddu ar gynllun ystyrlon i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl digonol a fyddai’n cadw cleifion yn ddiogel, ond maent wedi ffoi gan adael y cleifion bregus a’u rhoi mewn peryg. Rydym hefyd yn hynod bryderus fod y nifer a gyhoeddwyd gan y Bwrdd yn wreiddiol yn gyfran fach o’r nifer a effeithiwyd mewn gwirionedd gan hyn oll.

“Roeddem wedi rhybuddio ar ddechrau mis Ebrill nad oedd yna ganllawiau cenedlaethol digonol ynglŷn â sut i gynnal lefel ddiogel o wasanaethau iechyd meddwl ar draws Cymru; ac nid ydym wedi gweld gwybodaeth gredadwy gan Fyrddau Iechyd Meddwl Lleol ynglŷn â’r gwasanaethau  gofynnol sydd ar gael i gleifion a sut y maent yn medru cael mynediad atynt.  Rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd  ar 2ail Ebrill gan rybuddio fod cleifion yn cael eu rhyddhau a bod y cymorth sydd yn cael ei ddarparu i’r sawl sydd â’r angen mwyaf yn cael ei leihau yn sylweddol ond nid oeddem wedi derbyn dim byd mwy na sicrwydd amwys y bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn delio gyda’r materion  yma yn eu cynlluniau lleol – ac er gwaetha ceisiadau diri, nid ydym wedi gweld cynlluniau wrth gefn y Byrddau iechyd Lleol er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol.

“Rhaid i’r Gweinidog i ateb y cwestiwn –  pwy sydd wedi ei gamarwain? Yn ei ddau ymateb i’m llythyron, roedd wedi cadarnhau dro ar ôl tro ei fod wedi derbyn sicrwydd bod y materion yma wedi eu hystyried a bod y gwasanaethau ar gael. Pwy wnaeth rhoi’r sicrwydd yma i Mr Gething,  a pha na wiriwyd hyn? Yn achos Betsi Cadwaladr, gan fod y Bwrdd dal mewn mesurau arbennig, pam nad oedd eu gweithredoedd yn cael eu monitro neu’u craffu?

“Felly nid yw hyn yn syndod o gwbl – ac rydym yn poeni fod y diffyg arweiniad cenedlaethol a chanllawiau yn golygu bod cleifion o bosib wedi eu siomi rhannau eraill o Gymru hefyd”

“Er y bydd yn bwysig i ddysgu’r gwersi, y flaenoriaeth nawr yw datrys y broblem a sicrhau bod cleifion iechyd meddwl yn ddiogel; byddai’n ddechrau da petai’r Gweinidog yn  cyhoeddi canllawiau am y gwasanaethau gofynnol sydd ar gael yng Nghymru; byddai angen diwygio hyn, bob mis, er mwyn dynodi’r lefel gynyddol o wasanaethau wrth i’r pwysau o’r pandemig leihau.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda  Matt Pearce, Pennaeth Cyfathrebu ar e-bost matthew.pearce@hafal.org