Hafal a Phobl Ifanc
Er nad yn darparu gwasanaethau'n uniongyrchol i blant o dan 18, mae Hafal yn croesawi ymwneud pobl ifanc yn y datblygiad o'i wasanaethau. Yn wir, mae gan Hafal nifero bobl ifanc yn aelodau ac mae yn ymwybodol bydd cymaint â 10% o blant a phobl ifanc yn profi rhyw fath o broblem iechyd meddwl a fydd yn gofyn help proffesiynol.
Yn ychwanegol i ddarparu gwasanaethau i oedolion gyda salwch meddwl difrifol, mae Hafal yn darparu gwasanaethau i gynhalwyr trwy Gymru. Yng nghanolbarth Cymru, mae Hafal yn darparu gwasanaethau sydd wedi eu dylunio'n arbennig ar gyfer pobl ifanc 18 oed a throsodd, yn cynnig cymorth a chyngor i gynhalwyr a theuluoedd; mae'r gwasanaeth yma hefyd yn darparu'r cydran iechyd meddwl o wasanaeth i bobl ifanc rhwng yr oedran 10-17 mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Gyrfaoedd Powys.
Mae Grŵp Ymgynghorol annibynnol a oedd wedi ei sefydlu i gynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Wasanaethau Plant ac Iechyd Meddwl yng Nghymru wedi amcangyfrif graddfa'r problemau iechyd meddwl ac anhwyldebau yng Nghymru. Maent yn amcangyfrif:
- Bod mwy na 40% o bobl ifanc gyda ffactorau risg adnabyddadwy
- Bydd 30-40% rhywbryd neu'i gilydd yn profi problem
- Bod gan hyd at 25% anhwylder (yn dibynnu ar yr amgylchedd ac amgylchiadau).
Mae rhai plant a phobl ifanc mewn risg uchel o ddatblygu problemau iechyd meddwl. Mae ffactorau risg yn cynnwys: tlodi; diweithdra neu drosedd, marwolaeth neu golled, gan gynnwys colli cyfeillgarwch; a dylanwadau genetig, megis hanes teuluol o broblemau iechyd meddwl. Am restr gynhwysfawr o ffactorau risg ymwelwch â gwefan y Sefydliad Iechyd Meddwl ar www.mentalhealth.org.uk
Mae ffactorau risg arall sydd yn gysylltiedig gyda phlant a phobl ifanc sydd yn byw yn yr un amgylchedd teuluol neu yn ymddwyn fel cynhalwyr ar gyfer brawd neu chwaer, rhieni neu oedolion hŷn sydd gyda phroblemau iechyd meddwl.
Mae'r amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl sydd yn gallu effeithio plant a phobl ifanc yn cynnwys:
- anhwylderau datblygiadol - oedi mewn llefaredd neu reoli'r bledren
- anhwylderau arfer - problemau cysgu, baeddu a thiciau
- anhwylderau emosiynol - pryder, ffobiâu ac iselder ysbryd
- anhwylderau ymddygiad - herfeiddiad, dwyn, cynnau tân, triwantiaeth ac ymosodedd
- anhwylderau gorginetig - anhwylder sylw diffyg gorginetig
- anhwylderau bwyta- anorecsia nerfosa neu bwlimia nerfosa
- syndromau ôl-drawmatig
- anhwylderau somatig- seiciatryddol - lludded cronig
- anhwylderau seiciatryddol - sgitsoffrenia ac iselder manig
Mae cychwyniad sgitsoffrenia plentyndod (o dan 12 mlwydd oed) yn glefyd anghyffredin, mae amcangyfrifon yn amrywio rhwng 0.14 - 1.0 o bob 10,000 y boblogaeth. Y consensws yw bod cyfraddau o salwch seiciatryddol, gan gynnwys anhwylderau sgitsoffrenia yn cynyddu'n gyflym yn ystod llencyndod, er "bod data epidemiolegol cynrychioladol ar y trawsgludiad o sgitsoffrenia plentyndod ddim eto'n bodoli" (Dan Hayes, Early Onset Psychosis, plentyndod a llencyndod, gweithgor EI DOH).
Yn nol dogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru, Strategaeth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Llanciau, Busnes Pawb: "Mae defnydd sylweddau gan blant yn eu llencyndod yng Nghymru yn endemig ac mae cyfradd y camddefnydd yn cael ei ddarogan i fod yn uwch nag yw yn Lloegr ac mae'n berthynol i nodweddion o amddifadedd, dieithriad a gwaharddiad cymdeithasol".
Am wybodaeth gyffredinol ar iechyd meddwl a wnewch chi wneud defnydd os gwelwch yn dda o www.icheydmeddwlcymru.net a www.hafal.org ac am fanylion pellach ar faterion am gamddefnydd sylweddau, hunan-niwed a hunanladdiad mewn pobl ifanc, efallai y byddwch yn ei ddarganfod yn ddefnyddiol i edrych ar www.mentalhealth.org.uk
Os ydych yn bryderus am iechyd meddwl eich plentyn rydym yn argymell eich bod yn cysylltu gyda'ch YC neu'r nyrs ysgol. Mae Hafal yn hapus i gynnig cyngor a chymorth yn uniongyrchol i bobl ifanc 18 oed neu hŷn a gall hefyd ddarparu cyngor ar gyfer pobl iau yn anuniongyrchol trwy rieni, ysgolion a sefydliadau ieuenctid.
|