Triniaeth a therapiau arall

Dylai'r ystod o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru gynnwys ymyriadau seicolegol yn ogystal â seiciatryddol, a dylent gynnig:
- Yr hawl i gael triniaethau effeithiol i reoli symptomau anablu a gofidus salwch meddwl difrifol. - Gwasanaethau iechyd meddwl cynhwysfawr ar gael i'r sawl y mae arnynt eu hangen. - Trefn gyflawn ar gyfer rheoli gofal: asesu, cynllunio, gweithredu ac adolygu gan dîm aml-ddisgyblaethol, ond wedi'i chydlynu gan unigolyn penodol. - Fframwaith deddfwriaethol priodol, sy'n adlewyrchu gwerthoedd yr unigolyn gan sicrhau bod gan y cyhoedd hyder mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Dylai'r ffocws fod ar adfer a gwella yn hytrach nag ar gyfyngu unrhyw gyflwr, ac mae triniaethau cyfoes erbyn hyn yn cynnig llawer gwell cyfle i lwyddo yn hynny o beth.
Amlygir hyn yng Ngham Allweddol 23 Safon 6 y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru: : "Rhaid darparu ystod cynhwysfawr o therapïau seicolegol yn seiliedig ar dystiolaeth ymhob rhan o Gymru, ynghyd â'r hawl i gael gwasanaethau mwy arbenigol."
Y dewis /ystod o driniaeth a therapi y gellir eu hystyried mewn dull holistaidd yw:
- Seicotherapi (Psychotherapy)
Mae seicotherapi yn golygu ‘gwella meddyliol'.
- Daw o'r Groeg am y meddwl (psyche)
- a'r Lladin am wella (therapia)
- Ar hyn o bryd mae dros 300 o ffurfiau ar seicotherapi a chwnsela.
- Yn ôl Barker (1999) mae tair prif swyddogaeth i seicotherapi;
- Cefnogaeth ~ i leihau gofid trwy gynnig arweiniad, sicrwydd, hyrwyddo hunan-barch, galluogi amddiffynfeydd ymdopi.
- Ail-addysgu ~ helpu i wneud newidiadau, ymdrechion i ail-addasu, cyrraedd nodau.
- Ail-adeiladu - archwiliad dyfnach o wrthdaro yr anymwybod, datblygu personoliaeth.
- Cynhaliaeth drefnus am amser penodedig i gynorthwyo unigolion sydd ag anawsterau emosiynol a phroblemau a phrosesau seicolegol. Yn eu plith mae therapi dirnadol, therapi grŵp a therapi teulu.
- Ymyriadau Teulu - Os yw person yn byw gyda'i deulu neu mewn cysylltiad agos â'i deulu (gan gynnwys gofalwyr a phartneriaid). Gall gwaith teulu leihau'r siawns o ddioddef gwaeledd meddwl pellach.
- O gymorth arbennig i bobl sydd wedi dioddef gwaeledd meddwl yn y 3 mis diwethaf neu sydd mewn perygl o ddioddef gwaeledd meddwl.
- Yn gymorth hefyd i bobl sydd â symptomau fel lleisiau neu feddyliau rhyfedd sy'n aros ar ôl gwaeledd meddwl.
- Hyd ac Amodau Ymyriadau Teulu - Ni ddylai hyd ymyriad teulu fod yn hwy na 6 mis, gyda mwy na 10 o sesiynau wedi'u trefnu.
- Yn ôl canllawiau NICE, dylid cynnig ymyriad teulu i holl deuluoedd unigolion â schizophrenia sydd wedi ailwaelu yn ddiweddar, sy'n cael eu hystyried ‘mewn perygl' o ailwaelu, neu sydd â symptomau parhaus ac sy'n byw gyda'u teulu neu mewn cysylltiad agos â'u teulu.
- Eithriadau N.I.C.E. - Ni chynigir Ymyriadau Teulu i unigolion â schizophrenia:
- Nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn trafodaeth wybodus â'r clinigwr sy'n gyfrifol am y driniaeth ac nad yw'r eiriolwr neu'r gofalwr ar gael.
- Lle mae'r unigolyn yn gwrthod caniatáu trafod ymyriadau teulu gyda'i deulu/theulu.
- Lle mae'r teulu'n gwrthod cymryd rhan.
- Adfer
Pan gaiff ei gynnig mewn ysbyty neu ei gydlynu oddi yno, mae hyn yn aml yn cynnwys therapi galwedigaethol i adennill a dysgu sgiliau cymdeithasol a sgiliau byw newydd.
- Therapïau amgen
Enw arall ar y rhain yw 'therapïau ategol' a gellir eu cynnig law yn llaw â thriniaethau confensiynol yn seiliedig ar feddyginiaeth. Mae therapïau amgen yn cynnwys: therapi celf, therapi cerdd, aromatherapi ac adweitheg.
Bydd yr adran hon yn cael ei datblygu ymhellach gyda rhagor o wybodaeth am bob adran, ond yn y cyfamser gallwn gynnig y cysylltiadau canlynol:
Y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig - deall salwch meddwl; achosion a thriniaethau.
Rethink Mae gan Rethink ragor o wybodaeth am driniaethau a therapi.
Mae gwybodaeth ychwanegol, defnydd ac ymchwil gyfredol ar therapïau ategol ar gael yn adran ‘Gwybodaeth am Iechyd Meddwl' - ‘Strategaethau, triniaeth a therapïau' o safle'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn www.mentalhealth.org.uk
Therapïau Cyflenwol
Dros y blynyddoedd diweddar, mae therapïau cyflenwol wedi cynyddu mewn poblogrwydd fel ffordd o drin anhwylderau corfforol neu feddyliol - a chynnal lles. Dangosodd arolwg o 2005, a gomisiynwyd gan y Diagnostic Clinic yn Llundain bod 68 y cant o bobl yn credu yn effeithiolrwydd therapïau cyflenwol. Amcangyfrifir ar hyn o bryd bod 1 ym mhob 5 o Brydeinwyr yn defnyddio gofal iechyd cyflenwol - gan wario £130 miliwn y flwyddyn - a bod 50,000 o ymarferwyr therapïau cyflenwol yn y DU.
Gyda'r cynnydd hwn mewn poblogrwydd cafwyd galwadau i therapi cyflenwol gael mwy o rôl mewn gofal prif ffrwd. Yn 2004, cyflwynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, gynnigion i alluogi cynnig meddyginiaethau cyflenwol ar y GIG. Mewn araith y llynedd fe ddadlodd o blaid hyn drwy ddweud: "Rwy'n credu y bydd hyn yn arwain at well iechyd ac yn y pen draw yn lleihau costau i'r GIG drwy annog cleifion i chwarae mwy o ran wrth warchod eu hiechyd eu hunain".
O ganlyniad i boblogrwydd cynyddol therapïau cyflenwol, a'u defnydd cynyddol yn brif ffrwd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn 2004 y byddai therapïau cyflenwol yn cael eu rheoli'n fanylach. Mis Mawrth diwethaf, fe lansiodd Llywodraeth y Cynulliad y Cynllun Gwobrwyo Triniaeth Cyflenwol ar gyfer Cymru er mwyn cydnabod yr enghreifftiau gorau o ofal iechyd integredig.
- Felly beth yw meddyginiaeth gyflenwol?
Therapïau ‘cyflenwol' yw yn union hynny: therapïau sy'n cyflenwi neu'n ategu meddyginiaeth Orllewinol gonfensiynol pan y'i defnyddir ar y cyd (er nad yw o reidrwydd yn cynnig dewis amgen i feddyginiaeth gonfensiynol, fel yr awgrymir gan y term ‘meddyginiaeth amgen'). Defnyddir meddyginiaeth gyflenwol gan nifer o bobl i drin ac atal amrywiaeth eang o gyflyrau ac afiechydon, ond cred rhai ei fod hefyd yn chwarae rhan mewn bywyd iach yn gyffredinol ac wrth hyrwyddo iechyd a lles unigolyn.
- Ydi therapi cyflenwol yn gweithio?
Mae hwn yn bwynt dadleuol. Mae llawer o'r dystiolaeth am effeithiolrwydd therapïau cyflenwol yn anecdotaidd, ac mae tystiolaeth wyddonol yn tueddu i fod yn anghyson. Dywed Hafal: "Dim ond triniaethau a therapïau sydd wedi'u cymeradwyo gan ddadansoddiad gwyddonol y byddwn yn eu hargymell. Mae ymchwil gwyddonol i therapi cyflenwol wedi dangos bod rhai therapïau yn gweithio mewn rhai achosion, ond mewn nifer o achosion, nid oes tystiolaeth o gwbl ar gael. Fodd bynnag, mae'n rhaid gadael i bobl wneud eu dewisiadau eu hunain."
Awgrym Hafal - Os oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio therapïau cyflenwol, holwch eich Meddyg Teulu i ofalu nad oes unrhyw sgil effeithiau negyddol.
Wrth drafod ‘meddyginiaethau traddodiadol', dywed Sefydliad Iechyd y Byd: "Dim ond ar gyfer defnyddiau o aciwbigo, rhai meddyginiaethau perlysieuol ac ar gyfer rhai o'r therapïau corfforol y mae tystiolaeth wyddonol o dreialon clinigol ar hap yn gryf. Mae angen ymchwil pellach i bennu effeithlonrwydd a diogelwch nifer o'r ymarferion a'r planhigion meddyginiaethol eraill." (Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.who.int/mediacentre/factsheet/fs134/en/)
Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn cytuno, gan ddweud: "Mae llawer o'r ymchwil presennol i'r defnydd o therapïau cyflenwol mewn iechyd meddwl i'w gael ar ffurf adroddiadau achos yn unig, heb fawr o dreialon clinigol cynhwysfawr nac adolygiadau ymchwil wedi'u cynnal. Os oes ymchwil ar gael, mae'n aml yn anodd cael ato."
Fodd bynnag, roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Dywysog Cymru ac a gynhyrchwyd gan yr economydd, Christopher Smallwood, y llynedd, yn awgrymu y gall cyflyrau fel pwysau meddwl elwa o therapïau cyflenwol (awgrymwyd y gallai meddyginiaeth perlysieuol yn arbennig fod yn fuddiol wrth drin iselder).
Awgrym Hafal - Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn defnyddio ymarferwyr sydd â'r cymwysterau priodol. Ar gael gafael ar ymarferwyr â'r cymwysterau priodol, ewch i wefan y Ffederasiwn Therapïau Cyfannol (www.fht.org.uk*) neu wefan Cymdeithas Meddyginiaeth Gyflenwol Prydain (www.bcma.co.uk*)
- Felly beth yw'r prif therapïau sydd ar gael? Edrychwn ar rai enghreifftiau poblogaidd...
|
Enw'r Therapi
|
Beth mae'n ei olygu
|
|
Aciwbigo
|
Math o feddyginiaeth Tsieineaidd draddodiadol a ddefnyddir i reoli salwch a chynnal iechyd, mae aciwbigo'n golygu gosod nodwyddau main yn y corff i annog ymateb iachaol.
|
|
Techneg Alexander
|
Therapi symudiad sy'n cynnwys cefnogaeth ymarferol wrth i athro eich cynorthwyo i roi'r gorau i arferion symud gwael.
|
|
Aromatherapi
|
Ychwanegir olewau naws botanegol i fath neu eu tylino i'r croen, eu hanadlu i mewn yn uniongyrchol neu eu tryledu (cymysgu) i arogleuo ystafell gyfan ar gyfer effaith therapiwtig.
|
|
Meddyginiaeth perlysieuol
|
Defnyddir echdyniadau (extracts) meddyginiaethol o berlysiau i drin nifer o gwynion neu i hyrwyddo lles. Gellir defnyddio'r rhain mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys tabledi ac eli.
|
|
Homeopathi
|
I drin anhwylder, gweinyddir dosau bychan o fwynau fyddai'n cynhyrchu'r un symptomau mewn person iach.
|
|
Hypnotherapi
|
Cymell cyflwr hypnotig ac ymlaciol a chael at y meddwl isymwybodol fel y gellir adalw atgofion yn haws ac y gellir derbyn awgrymiadau iachaol.
|
|
Tylino'r corff
|
Perfformio symudiadau llaw ar groen y corff, gan gynnwys rhwbio a rhoi pwysau, er mwyn trin amrywiaeth o anhwylderau neu i hyrwyddo teimlad o les.
|
|
Therapi maethol
|
Defnyddio diet i drin anhwylderau ac atal salwch drwy gywiro unrhyw ddiffygion neu
anghydbwysedd fitaminau, mwynau a maetholion eraill.
|
|
Adweitheg
|
System arbenigol o dylino traed sy'n gweld yr holl gorff wedi'i fapio ar wadn y droed: caiff y pwyntiau cyfatebol ar y droed eu tylino i drin anhwylderau drwy'r corff cyfan.
|
|
Reiki
|
System Siapaneaidd o sianelu egni iachaol i mewn i'r cleient. Bydd ymarferwr yn gosod ei ddwylo dros y cleient (ond nid o reidrwydd yn eu cyffwrdd).
|
|
Shiatsu
|
Dull Siapaneaidd o dylino sy'n rhoi pwysau ar bwyntiau penodol o'r corff i adfer cydbwysedd egni'r corff.
|
|
T'ai chi
|
Crefft ymladd Tsieineaidd sy'n seiliedig ar lif esmwyth o symudiadau corfforol sy'n annog cyflwr ymlaciol a chydbwysedd.
|
|
Yoga
|
Yn tarddu o India, ymarfer ysbrydol yw yoga sy'n cynnwys ymarferion ac ymddaliadau
corfforol, technegau anadlu a myfyrdod.
|
*Sylwer nad yw Hafal yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol
Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)
|