Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Bywyd Cymdeithasol

Social Life

Gall bywyd cymdeithasol unigolyn gael effaith fawr ar eu hiechyd meddwl, a gall cynnal bywyd cymdeithasol chwarae rhan allweddol yn eu gwellhad o afiechyd meddwl difrifol.

Mae Safon 3 Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol diwygiedig Cymru ar gyfer iechyd meddwl oedolion yn ymwneud â "Hyrwyddo cyfleoedd am batrwm arferol o fywyd dyddiol".

Mae Cam Allweddol 10 y safon hon yn nodi bod gan: "Bobl gyda phroblemau iechyd meddwl a'u gofalwyr yr un anghenion ar gyfer cyfeillgarwch a gweithgareddau cymdeithasol, hamdden ac addysg/hyfforddiant/dysgu gydol oes fel unrhyw unigolyn arall yn y gymuned. Efallai y bydd angen mwy o gefnogaeth ar rai unigolion i gael gafael ar gyfleoedd o'r fath."

Os ydych chi'n cymryd rhan yn yr Agwedd Rhaglen Gofal (ARhG) gallech gofnodi anghenion eich bywyd cymdeithasol yn eich cynllun gofal - ynghyd â'r gefnogaeth rydych chi ei angen i ateb yr anghenion hynny.

Un o'r ffactorau pwysig wrth gynnal bywyd cymdeithasol yw ei fod yn sicrhau nad yw pobl gydag afiechyd meddwl yn cael eu hynysu ac yn teimlo'n unig. Yn ystod gwanwyn 2006, cynhaliodd Hafal arolwg i weld sut mae unigedd yn effeithio ar bobl gydag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr. Dywedodd dros 90% o'r ymatebwyr bod unigedd yn gwneud symptomau afiechyd meddwl difrifol yn waeth, yn enwedig iselder. Dywedodd 25% o'r defnyddwyr gwasanaeth a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn gymharol neu'n eithriadol o unig. Ac eto, dywedodd ymhell dros 80% bod mynychu prosiect Hafal yn lleihau'r teimlad o unigedd.

Mae cyswllt cymdeithasol yn faes a anwybyddir yn aml mewn gofal ac adferiad, efallai oherwydd bod llawer yn credu mai mater ar gyfer yr unigolyn ydyw. Fodd bynnag, gall chwarae rhan bwysig iawn wrth gynnal lles unigolyn. Mae astudiaethau wedi dangos bod pobl gydag afiechyd meddwl difrifol yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio o rwydweithiau cymdeithasol a bod ganddynt lai o fywyd cymdeithasol. Mae hyn yn mynd yn groes i adferiad gan fod cyswllt cymdeithasol yn ein helpu i adeiladu hunanhyder, rhwydweithiau cefnogaeth a gall arwain at rymuso a hunan-ysgogiad.

Os ydych chi'n teimlo'n unig ac eisiau newid hynny, gallech ddechrau drwy ofyn y cwestiynau syml canlynol i chi'ch hun:

  • Beth yw achos fy unigedd?
  • Pryd fydda i'n teimlo'n unig?
  • Sut fydda i'n ymdopi â'r teimlad o unigedd?
  • Ydw i'n teimlo'n gyfforddus mewn grwp neu gydag un person arall yn unig?
  • Sut allaf i greu cyfleoedd i fod gyda phobl eraill mewn ffordd sy'n gweddu i mi?

Mae nifer o wahanol agweddau yn dod at ei gilydd i greu bywyd cymdeithasol. Yma, cynigiwn restr wirio o gydrannau bywyd cymdeithasol y gellir eu hystyried fel rhan o agwedd gyfannol tuag at gyflawni bywyd cymdeithasol llawn:

Gweithgareddau

Mae gweithgareddau corfforol a meddyliol nid yn unig yn cynnig cyfle i ffurfio clymau cymdeithasol, ond hefyd yn ffordd o gadw sylw am gyfnod penodol o amser. Gall ailadrodd gweithgareddau, fel sesiynau pêl-droed wythnosol, neu dwrnamaint cardiau, hefyd arwain at fwy o weithgareddau cymdeithasol, gan fod grwpiau'n cynnal gweithgareddau eraill, fel prydau allan, ac ati.

Perthnasau Gweithio

Os oes gennych chi swydd, mae'n ddefnyddiol adeiladu neu gynnal perthnasau da a chryf gyda'r bobl sy'n gweithio gyda chi gan y gall y perthnasau hyn roi llawer o gefnogaeth a dealltwriaeth. Mae llawer o bobl hefyd yn gweld eu bod yn dod yn ffrindiau tymor hir gyda'u cydweithwyr.

Perthnasau Teuluol

Mae teulu'n aml yn ffynhonnell cefnogaeth dda. Mae'n syniad da cadw golwg ar faterion teuluol er mwyn cadw eich hun ‘yn y l?p' fel petai, a chynnal perthynas i orau eich gallu. Gall hanner awr ar y ffôn yr wythnos gydag aelod o'ch teulu wella'r teimlad o berthyn.

Hobïau

Mae hobïau a diddordebau yn gyfle i fod yn frwdfrydig am rywbeth, ac yn cynnig sail ar gyfer cyfeillgarwch gyda phobl sy'n rhannu'r un diddordeb. Gall hobïau hefyd gynnig amrywiaeth o weithgareddau ar ffurf cynadleddau a grwpiau hobi.

Perthnasau Cymdeithasol

Gall cyfeillgarwch gyda phobl sydd â'r un diddordebau neu sydd wedi cael profiadau tebyg helpu gyda chefnogaeth gymunedol. Mae'n syniad da ymuno â gr?p cefnogi lleol, neu fynychu dosbarthiadau nos neu gr?p hobi er mwyn cyfarfod pobl.

Rhai cysylltau defnyddiol:

www.artswales.org.uk yw gwefan newydd Cyngor Celfyddydau Cymru, sy'n cynnwys cronfa ddata o ymarferwyr celfyddydol unigol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru.

www.volunteering-wales.net yw gwasanaeth gwirfoddoli ar-lein Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae'r safle'n cynnig gwybodaeth am wirfoddoli ym mhob man yng Nghymru ac ar draws amrywiaeth o gyfleoedd, o gwnsela i waith amgylcheddol.

www.walesindex.co.uk/ sy'n cynnwys rhestrau cynhwysfawr o weithgareddau a lleoliadau ar draws Cymru. Mae'r safle'n hawdd iawn i'w ddefnyddio, gydag is-deitlau fel Hamdden, Cadwraeth, Bwyta allan a Theatr a Sinema. Gallwch hefyd edrych yn eich gwasg leol neu'ch llyfrgell gyhoeddus i gael manylion am grwpiau a gweithgareddau yn eich ardal.

Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)

23 Jun 2008
Darganfod beth sydd mewn enw gyda gwefan newydd un o gleientiaid Hafal ...Read more...

19 Mar 2008
Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2008: Mae Digwyddiad Hafal yn y Cynulliad yn Pwysleisio Gwellhad o Afiechyd Meddwl...Read more...

27 Feb 2008
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn ymweld ...Read more...

30 Nov 1999
[Title]...Read more...




Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | Cysylltwch a ni | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal