Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Iechyd Corfforol

Physical Health

Mae iechyd yn fater o les corfforol, meddyliol a chymdeithasol ac yn llawer mwy nag absenoldeb clefyd neu lesgedd - Sefydliad Iechyd y Byd 1948

Mae iechyd corfforol yn aml yn cael ei ddiystyru wrth ofalu am rywun sydd â salwch meddwl. Dylid rhoi sylw arbennig i faterion gofal sylfaenol fel problemau deintyddol ac anadlol. Mae gofal cychwynnol, eilaidd a thrydyddol yn hawl i rywun sy'n dioddef salwch meddwl.

Meddygon Teulu

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cofrestru gyda "meddyg teulu" - yr Ymarferydd Cyffredinol. Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu am wahanol resymau, megis methu ail-gofrestru gyda meddyg teulu ar ôl symud i ardal newydd, neu weithiau oherwydd eu bod wedi cael eu tynnu oddi ar restr meddyg teulu. Gall hyn fod yn un o'r prif resymau pam nad ydynt yn cadw at eu meddyginiaethau, gan fod bron pob presgripsiwn yn cael ei roi drwy'r meddyg teulu.

Mae gan bob un ohonom yr hawl i gofrestru gyda meddyg teulu, ac os ydych yn cael anhawster i gofrestru gyda meddyg teulu, cysylltwch â'r Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer eich ardal, a fydd yn trefnu ichi gael eich cofrestru. Os nad ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd ac os oes angen cyngor arnoch, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47, neu mewn argyfwng ewch i adran ddamweiniau ac achosion brys eich ysbyty lleol.

Gall ymweliad â meddyg teulu fod yn brofiad digon anodd i gleifion nad oes salwch meddwl arnynt gan mai problem gyda'u hiechyd yw'r rheswm arferol dros wneud apwyntiad. Ar gyfer rhywun sy'n dioddef salwch meddwl difrifol, mae'r straen hwnnw'n gallu bod gymaint yn waeth oherwydd pryderon ynghylch pethau fel:

  • Cysylltu â'r feddygfa a gofyn am apwyntiad
  • Aros am apwyntiad hwyr mewn ystafell aros orlawn
  • Trafod symptomau
  • Profiadau anodd yn y gorffennol yn y feddygfa

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cydnabod rhai o'r anawsterau a wynebir gan bobl sy'n dioddef salwch meddwl difrifol wrth geisio cysylltu â meddyg teulu a Gwasanaethau Gofal Sylfaenol eraill, ac mae Cam Allweddol 34 yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn ac yn ceisio sicrhau cyfle cyfartal wrth gael y gwasanaethau hyn.

Y meddyg teulu yw'r person cyntaf i gysylltu ag ef/hi ar gyfer diagnosis, cyngor, gwybodaeth a thriniaeth am salwch meddyliol a chorfforol. Fel arfer, bydd angen gwneud apwyntiad - mae rhai meddygon teulu weithiau'n cynnal meddygfeydd agored, ond mae'n ddoeth ffonio'n gyntaf i holi.

Mae'n bwysig bod yn brydlon - fel arall efallai y bydd rhaid ichi aros cyn cael gweld y meddyg teulu, ac mae colli apwyntiadau'n gallu creu problemau i'r meddygon teulu ac i gleifion eraill. Un syniad ar gyfer pobl sy'n ei chael yn anodd trafod gyda meddyg yw ysgrifennu'r hyn yr hoffent ei ddweud wrth y meddyg, neu fynd ag aelod o'r teulu neu ffrind gyda nhw.

Gellir cael rhifau ffôn ar gyfer meddygon teulu yn eich ardal chi yn www.wales.nhs.uk

Bydd y rhan fwyaf o resymau dros ymweld â'r meddyg teulu yn cael sylw yn ystod yr apwyntiad, ond o dro i dro efallai y bydd y meddyg teulu'n teimlo y dylai arbenigwr neu ymgynghorydd adolygu'ch achos.

Triniaeth Arbenigol

Bydd y rhan fwyaf o ymgynghoriadau ag arbenigwyr yn digwydd mewn adrannau cleifion allanol mewn ysbytai. Bydd yr amserau aros ar gyfer apwyntiadau yn amrywio - os ydych yn poeni am unrhyw oedi neu os oes angen ichi newid eich apwyntiad, gallwch gysylltu â'r adran apwyntiadau yn yr ysbyty.

Fel arall, bydd rhai pobl yn dewis mynd i weld ymgynghorydd yn breifat - mae'r gost yn amrywio o tua £70 i fyny ar gyfer yr ymweliad cyntaf, ynghyd â chostau archwiliadau pelydr-X neu unrhyw brofion eraill a all fod yn angenrheidiol.

Unwaith eto, os oes gennych unrhyw bryderon, ewch ag aelod o'r teulu neu ffrind gyda chi, a gofynnwch am iddo ef/hi gael bod gyda chi yn ystod yr archwiliad.

O bryd i'w gilydd mae'n bosib y cewch eich cynghori i fynd i'r ysbyty fel claf mewnol ar gyfer archwiliadau neu driniaeth fwy cymhleth. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglyn â hyn, gall eich meddyg teulu gynnig cyngor a gwybodaeth.

Ysmygu

Mae astudiaethau fel Lasser et al 2000, a Khalida et al 2000 yn cadarnhau bod mwy o bobl sydd â salwch meddwl yn ysmygu, a'u bod yn ysmygu mwy o sigarets na phobl heb salwch meddwl. Mae'n amlwg, felly, fod hyn yn risg iechyd mawr ychwanegol i bobl sydd â salwch meddwl.

Dywedir yn aml mai ysmygu yw'r "lleiaf o broblemau" unrhyw un sydd â salwch meddwl difrifol neu ei fod yn cynnig "ychydig o gysur". Mae'n bwysig herio hyn: mae'n amlwg mai mater o ddewis personol yw rhoi'r gorau i ysmygu, ond dylid annog a chefnogi pobl sydd â salwch meddwl difrifol i roi'r gorau i ysmygu neu o leiaf i ysmygu llai.

Dangoswyd bod ysmygu yn achosi salwch corfforol yn y geg, yr ysgyfaint, y galon a chylchrediad y gwaed, megis:

  • Canser - y genau a'r ysgyfaint
  • Strôc
  • Clefyd ischaemig y galon
  • Clefyd fasgwlaidd ymylol
  • Bronchitis ac emphysema

Dangoswyd hefyd fod yna fwy a mwy o dystiolaeth fod ysmygu sigarets yn gallu cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd meddwl pobl sy'n dioddef schizophrenia, iselder ysbryd ac anhwylderau bwyta. (Foulds 1999)

Mae dosbarthiadau i roi'r gorau i ysmygu ar gael ledled y wlad - gall eich meddygfa deulu eich cynghori am y canolfannau, ac mae llawer yn cynnig y gwasanaeth hwn eu hunain. Mae Llinell Cymorth Ysmygu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd yn cynnig cyngor a chefnogaeth i'r sawl sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu ar 0800 169 0 169 ac yn www.givingupsmoking.co.uk neu ffoniwch Llinell Gymorth Ysmygwyr Cymru ar 0345 697500. I gael rhestr o linellau cymorth ysmygu eraill, trowch at www.nosmokingday.org.uk

Deiet

Mae deiet gwael a bod yn rhy drwm yn ffactorau risg uchel mewn cyflyrau fel:

  • Clefyd Siwgr
  • Clefyd y galon
  • Clefyd yr ysgyfaint
  • Anhwylderau'r stumog a'r coluddyn

Gall diffyg symbyliad a phrinder gwybodaeth i bobl sy'n byw gyda salwch meddwl difrifol arwain at ordewdra a deiet gwael. Yn anffodus, er bod y meddyginiaethau annodweddiadol yn effeithiol ar gyfer trin salwch meddwl difrifol, maent yn gallu arwain at fagu cryn dipyn o bwysau.

Dylai deiet iach:

  • Fod yn isel o ran braster, ac yn enwedig felly'r braster dirlawn mewn cig coch a bwydydd llaeth
  • Cynnwys 5 darn y dydd o ffrwythau neu lysiau ffres
  • Cynnwys pysgod olew fel mecryll, sardîns neu eog

Os ydych yn arbennig o drwm, gall eich Meddyg Teulu eich cynghori am ddeietau colli pwysau, neu eich cyfeirio at ddeietegydd

Gellir cael rhagor o wybodaeth a chyngor yn:

www.hpw.wales.gov.uk/healthyeating/index.htm
www.edrecovery.com
www.food.gov.uk
www.lifebytes.gov.uk

Adnoddau Iechyd Corfforol Eraill

Yn ogystal â'r gwasanaethau a ddarperir gan y meddyg teulu, mae nifer o glinigau eraill ar gael i droi atynt, ac sydd yn cyfrannu at gynnal a chadw iechyd, gan gynnwys:

  • Deintydd - nid ar gyfer y ddannodd yn unig - mae'r deintydd yn gallu canfod problemau gyda'r geg a'r tafod megis canser, a thrwy annog gofal deintyddol da gall atal rhai mathau o heintiau'r galon www.wales.nhs.uk
  • Optegwyr - unwaith eto, gall yr optegydd wneud llawer mwy na dweud pa sbectol y mae ei hangen - trwy edrych ar y llygaid, gall yr optegydd ganfod arwyddion cynnar o gyflyrau fel pwysedd gwaed uchel neu glefyd siwgr www.wales.nhs.uk
  • Clinigau Menywod Iach - cynhelir profion ceg y groth, a darperir gwybodaeth a chyfarwyddyd am archwilio'r fron yn ogystal ag archwiliadau iechyd cyffredino www.netdoctor.co.uk
  • Clinigau Dynion Iach - Gan gynnwys archwilio'r ceilliau ac iechyd y prostad www.malehealth.co.uk
  • Clinigau Cynllunio Teulu - Cynigiant gyngor ar atal cenhedlu a chynllunio teulu www.wales.nhs.uk
  • Clinigau Moddion Cenhedlol-droethol (GUM) - gallant gynnig cyngor a thriniaeth ar iechyd rhyw, gan gynnwys heintiau rhywiol ac AIDS. www.wales.nhs.uk
  • Fferyllydd - Gall ddarparu gwybodaeth a chyngor o bob math am faterion iechyd cyffredinol. www.wales.nhs.uk

Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)

23 Jun 2008
Darganfod beth sydd mewn enw gyda gwefan newydd un o gleientiaid Hafal ...Read more...

19 Mar 2008
Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2008: Mae Digwyddiad Hafal yn y Cynulliad yn Pwysleisio Gwellhad o Afiechyd Meddwl...Read more...

27 Feb 2008
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn ymweld ...Read more...

30 Nov 1999
[Title]...Read more...




Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | Cysylltwch a ni | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal