Canolfan Dysgu
Hafal

Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Cyllid ac arian

Money

Yr amrywiaeth o gydrannau y gellir eu hystyried mewn agwedd gyfannol tuag at gyflawni ansawdd bywyd da mewn perthynas ag arian yw:

Cyflog/Tâl
Arian a gaiff ei dalu am waith

Grant/benthyciad myfyriwr
Arian a dderbynnir o grant neu fenthyciad myfyriwr gan eich Awdurdod Addysg Lleol.

Budd-daliadau
Arian a dderbynnir o fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, gan gynnwys budd-dal analluogrwydd (BA) lwfans byw i'r anabl (LBA) a chymhorthdal incwm (CI).

Rheoli dyledion/cynilion
Cymorth gan sefydliadau annibynnol a phreifat neu swyddfa leol Cyngor ar Bopeth. Am help wrth ddelio â dyledion yn benodol, ewch i http://www.moneyadvicetrust.org/

Am fwy o wybodaeth am forgeisi, cliciwch yma.

Budd-daliadau

Gall cymhlethdodau'r broses budd-daliadau, sy'n cynnwys nifer o asiantaethau gwahanol a llenwi ffurflenni'n fanwl, yn aml fod yn rhwystr i sicrhau bod cymorth a chefnogaeth addas ar gael.

Ond mae budd-daliadau anabledd yn hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd da. Gall manteisio ar holl botensial hawl unigolyn i fudd-daliadau helpu i gyflawni hyn. Gallwch gael asesiad budd-daliadau am ddim o'ch canolfan gynghori leol neu gan eich swyddfa hawliau lles. Efallai bod sefydliadau cymunedol annibynnol yn cynnig cyngor yn eich ardal chi hefyd, a gallech geisio chwilio am eu manylion yn y llyfr ffôn neu yn eich llyfrgell leol. Bydd y sefydliadau hyn hefyd yn eich helpu i adolygu ac apelio os byddwch chi'n cael eich gwrthod ar gyfer budd-dal.

Cliciwch yma i gael gweld taflenni gwybodaeth syml am y gwahanol fathau o fudd-daliadau:

Am ragor o wybodaeth am fudd-daliadau ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, ewch i'r wefan yma a gynhelir gan Mind Castell-nedd http://www.benefitsinmind.org.uk/

Sut i hawlio Budd-daliadau

Mae gwahanol asiantaethau a swyddfeydd yn delio â gwahanol fudd-daliadau. Mae gwneud yn siŵr eich bod yn mynd at yr un cywir yn bwysig iawn er mwyn sicrhau eich bod yn cael unrhyw fudd-dal y mae gennych chi hawl iddo cyn gynted â phosibl.

Yn gyffredinol, mae'n debygol mai dim ond y budd-dal penodol y maen nhw'n ei weinyddu y bydd staff yn gwybod amdano. Gallant roi gwybodaeth am fudd-dal penodol, ond nid cyngor ac nid gwybodaeth gyffredinol. Os ydych chi'n ansicr pa fudd-dal y dylech chi fod yn ei hawlio, neu os oes gennych chi unrhyw bryderon am amgylchiadau sydd wedi newid, byddai'n well i chi gysylltu ag un o'r asiantaethau a ddisgrifiwyd uchod.

Ffurflenni hawlio budd-dal tai a threth cyngor

Mae'r budd-daliadau yma'n cael eu talu gan y cyngor lleol a bydd angen i chi gael eich ffurflen ganddyn nhw, er y byddwch yn cael ffurflen gyda'ch pecyn hawlio os ydych chi'n hawlio cymhorthdal incwm, credyd pensiwn neu lwfans ceisio gwaith. Gallwch hefyd gael ffurflen a mwy o fanylion am hawlio yma.

Gallwch wneud cais am fudd-dal tai hyd at 13 wythnos cyn i chi symud i mewn, er na fydd yn cael ei dalu nes i chi symud i mewn. Gall gael ei ôl-ddyddio, ond dim ond os oes gennych chi reswm da y bydd hyn yn cael ei wneud, a ni fydd yn digwydd yn aml. Mae'n well, felly, cyflwyno'r ffurflen cyn gynted â phosibl, a gwneud yn siŵr eich bod wedi cynnwys yr holl wybodaeth ychwanegol sydd ei angen. Mae hefyd yn syniad da cysylltu â'r cyngor i wneud yn siŵr eu bod wedi derbyn eich cais a'u bod yn ei brosesu.

Ffurflenni hawlio Cymhorthdal Incwm

Gallwch gael y rhain drwy ffonio neu alw i mewn i'ch Canolfan Byd Gwaith lleol, neu gallwch wneud cais ar lein yma.

Ffurflenni hawlio Budd-dal Analluogrwydd

Gallwch gael y rhain drwy ffonio neu alw i mewn i'ch Canolfan Byd Gwaith lleol, neu gallwch wneud cais ar lein neu lawrlwytho ffurflen i'w llenwi gyda beiro yma.

Ffurflenni hawlio Lwfans Byw i'r Anabl/ Lwfans Gweini

Cafodd y Llinell Ymholiadau Budd-daliadau (Benefit Enquiry Line) ei sefydlu ar gyfer pobl gydag anableddau a gofalwyr er mwyn hawlio budd-daliadau. Mae'r rhif, 0800 88 22 00, am ddim, a gallwch ofyn am ffurflen dros y ffôn. Bydd rhywfaint o fanylion yn cael eu cymryd dros y ffôn, ac yna bydd y ffurflen yn cael ei hanfon atoch chi i'w chwblhau a'i llofnodi. Os byddwch chi'n dychwelyd y ffurflen o fewn 6 wythnos i'r alwad ffôn, bydd eich budd-dal yn cael ei dalu o ddyddiad yr alwad ffôn.

Os ydych chi'n cael problemau defnyddio'r ffôn, dylai rhywun sy'n gweithredu ar eich rhan allu cael ffurflenni hawlio, i chi eu cwblhau yn eich amser eich hun. Gallai hyn fod o'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol lleol. Os byddwch chi'n mynd i nôl y ffurflen eich hun, bydd eich budd-dal yn cael ei dalu o'r dyddiad hwnnw os bydd y ffurflen yn cael ei dychwelyd o fewn 6 wythnos.

Gallwch hefyd hawlio ar lein yma.

Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)

25 Jan 2012
Hafal yn cyhoeddi ymateb i’r Cod Ymarfer ar gyfer y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ...Read more...

19 Dec 2011
‘Nadolig i Ddefnyddiwr Gwasanaeth yng Nghymru’...Read more...

21 Nov 2011
“Mae bywyd yn ddigon caled eisoes i bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, a hynny heb unrhyw doriadau i fudd-daliadau” ...Read more...

14 Nov 2011
Rali Hydref Hafal...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal