Canolfan Dysgu
Hafal

Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Meddygol a ffurfiau eraill o driniaeth

Medication

Mae meddyginiaeth yn rhan bwysig o driniaeth i lawer o gleientiaid, ac yn aml nid "mater naill ai/neu" ydyw. Rhaid i feddyginiaeth fod yn effeithiol a pheri cyn lleied o sgîl-effeithiau â phosibl.

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cael triniaeth gyfoes ar gyfer iechyd meddwl. Yn y blynyddoedd diwethaf, daeth nifer o feddyginiaethau newydd ar gael sy'n arwain at lai o sgîl-effeithiau ac sy'n ymdrin yn fwy cadarnhaol â symptomau positif a negyddol na meddyginiaeth hŷn. Ac eto, lawer rhy aml nid yw'r meddyginiaethau newydd hyn yn cael eu rhagnodi.

Meddyginiaeth

Mae meddyginiaethau ar gael ar ffurfiau amrywiol (tabledi, chwistrelliadau neu hylifau). Gall y cyffuriau hyn arwain at sgîl-effeithiau y gellir rhagnodi meddyginiaeth ychwanegol ar eu cyfer.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Glinigol wedi amodi

Dylid ystyried arweiniad ar ddefnyddio Cyffuriau Gwrthseicotig (Annodweddiadol) mwy newydd ar gyfer Trin Schizophrenia (Canllaw Arfarnu Technoleg Rhif 43) ochr yn ochr â'r meddyginiaethau traddodiadol presennol fel un o'r opsiynau dewis cyntaf ar gyfer triniaeth.

Beth mae Canllaw Clinigol yn ei Feddwl mewn Gwirionedd?

Argymhellion yw canllawiau clinigol ar y driniaeth a'r gofal priodol i gleifion â salwch a chyflyrau penodol o fewn y GIG yng Nghymru a Lloegr. Maent yn mynd law yn llaw a gwybodaeth a sgiliau gweithwyr proffesiynol iechyd profiadol, ond heb fod yn eu disodli.

Pan fydd canllaw NICE yn cael ei gyhoeddi, disgwylir i weithwyr proffesiynol iechyd ystyried canllaw y Sefydliad yn llawn wrth arfer eu barn glinigol. Fodd bynnag, nid yw arweiniad NICE yn diystyru cyfrifoldeb unigol gweithwyr proffesiynol iechyd i wneud penderfyniadau sy'n briodol i amgylchiadau'r claf unigol, mewn ymgynghoriad â'r claf a/neu ei warchodwr neu ofalwr. Er enghraifft, pe bai alergedd gan glaf unigol i gyffur a argymhellir yn y canllaw, byddai'n briodol i'w gweithiwr proffesiynol ragnodi meddyginiaeth arall.

Canllaw Clinigol NICE ar Schizophrenia

  • Mae'n cydnabod y bydd 1:100 yn cael profiad o schizophrenia
  • Yn cydnabod, gyda thriniaeth briodol, y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella neu'n ymadfer.

Mae'r arweiniad hwn yn argymell:

  • Triniaeth gynnar
  • Gofal holistaidd mewn ymadfer
  • Gweithio mewn partneriaeth - cleient a gwasanaethau
  • Gwybodaeth dda
  • Asesiad Llawn
  • Dewis o driniaeth / meddyginiaeth a Chyfarwyddebau Ymlaen Llaw

Beth yw'r Arweiniad i Gleientiaid wrth Ddefnyddio Meddyginiaethau Annodweddiadol?

  • Dylai eich meddyg drafod gyda chi pa gyffur gwrthseicotig y dylech ei gymryd. Dylai eich meddyg esbonio buddion a sgîl-effeithiau'r cyffuriau, ac os yw'n briodol, ymgynghori â'ch eiriolwr neu ofalwr. Dylai penderfyniadau ynghylch pa gyffuriau a ragnodir i chi gael eu gwneud ar y cyd rhyngoch chi a'ch meddyg, a dylech ddeall pa sgîl-effeithiau posibl y gall y feddyginiaeth arwain atynt.
  • Os cawsoch eich diagnosio â schizophrenia yn ddiweddar, yna dylai eich meddyg ystyried rhagnodi un o'r cyffuriau gwrthseicotig geneuol annodweddiadol (mwy newydd) canlynol: amisulpride, olanzapine, quetiapine, risperidone neu zotepine.
  • Os ydych yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig nodweddiadol (hŷn) ar hyn o bryd sy'n rheoli'ch symptomau schizophrenia, ond sy'n achosi sgîl-effeithiau yr ydych chi a'ch meddyg yn cytuno sy'n rhai annerbyniol, yna dylai eich meddyg ystyried rhagnodi cyffuriau gwrthseicotig annodweddiadol geneuol (amisulpride, olanzapine, quetiapine, risperidone, sertindole neu zotepine).
  • Nid yw NICE yn argymell eich bod yn newid i un o'r cyffuriau gwrthseicotig annodweddiadol (mwy newydd) os ydych yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig nodweddiadol (hŷn) ar hyn o bryd sy'n rheoli'ch symptomau schizophrenia ac nad ydynt yn achosi sgîl-effeithiau annerbyniol.
  • Os oes tystiolaeth bod gennych yr hyn a elwir yn schizophrenia gwrthiannol i driniaeth neu TRS (lle nad yw'r cyffuriau yr ydych yn eu cymryd yn rheoli'ch symptomau schizophrenia), yna dylai eich meddyg ragnodi clozapine ar eich cyfer.
  • Os yw mwy nag un cyffur gwrthseicotig annodweddiadol yn addas ar eich cyfer, dylai eich meddyg ragnodi'r cyffur rhataf.
  • Os nad oes modd i chi gael trafodaeth lawn â'ch meddyg ynghylch pa gyffur y dylid ei ragnodi, er enghraifft, am eich bod yn ailwaelu neu'n cael pwl difrifol o schizophrenia, yna gall eich meddyg ragnodi cyffur gwrthseicotig annodweddiadol oherwydd y risg llai o arwain at sgîl-effeithiau. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai eich meddyg drafod eich triniaeth cyffuriau gyda'ch gofalwr neu eiriolwr os yw hynny'n bosibl ac yn briodol.
  • Argymhellir bod "cyfarwyddebau ymlaen llaw" yn cael eu datblygu a'u cadw yn eich rhaglen gofal. Yr hyn yw cyfarwyddebau ymlaen llaw yw cyfarwyddiadau a ysgrifennir gennych chi a'ch tîm gofal iechyd, sy'n disgrifio yr hyn yr hoffech ddigwydd os nad oes modd i chi fod yn rhan o drafodaeth â'ch meddyg ar adeg pan fydd angen triniaeth arnoch (er enghraifft, yn ystod cyfnod o ailwaelu neu bwl difrifol o schizophrenia).
  • Dylai triniaeth â chyffuriau gwrthseicotig fod yn rhan o becyn gofal cyffredinol sy'n delio â'ch anghenion meddygol, emosiynol a chymdeithasol. Dylai eich meddyg a gweithiwr allweddol fonitro'n barhaus eich cynnydd a pha mor dda y mae'r cyffuriau yr ydych yn eu cymryd yn gweithio, ac unrhyw sgîl-effeithiau yr ydych yn eu dioddef. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych newydd newid o un cyffur gwrthseicotig i un arall.
  • Ni ddylid rhagnodi cyffuriau gwrthseicotig annodweddiadol a nodweddiadol ar yr un pryd ac eithrio am gyfnodau byr os ydych yn newid cyffuriau.

Sgîl-effeithiau

I rai cleifion, gall y sgîl-effeithiau hyn fod yn fwy ynysol ac annerbyniol yn gymdeithasol na schizophrenia ei hun. Gall y sgîl-effeithiau hyn gynnwys ysgwyd neu grynu, y cyhyrau'n plycio neu wingiadau a all fod yn barhaol neu a all ddiflannu ar ôl rhoi'r gorau i gymryd y cyffuriau. Gall sgîl-effeithiau eraill gynnwys golwg aneglur, ceg sych, magu pwysau neu ffitiau. I lawer o bobl, mae'r meddyginiaethau traddodiadol hyn yn rheoli symptomau eu schizophrenia heb unrhyw sgîl-effeithiau, ond i bobl eraill, mae'r sgîl-effeithiau a ddioddefant mor alaethus y gallant roi'r gorau i gymryd eu meddyginiaeth, sy'n golygu y gall symptomau eu schizophrenia fynd allan o reolaeth i'r graddau sy'n gofyn am ofal mewn ysbyty.

Sylwadau gan Gleientiaid

  • "Dylid gwahardd yr hen gyffuriau. Dylai pawb allu cael y cyffuriau mwy newydd, annodweddiadol, beth bynnag yw eu pris - maent yn achub bywydau." - Ann o Gymru a dreuliodd flynyddoedd mewn ysbyty arbennig nes i droi at gyffur annodweddiadol ei galluogi i adael.
  • "Mae'n amlwg bod y cyffuriau newydd yn gweithio. Mae pobl fel fi yn gweithio, mae gennym fywyd cymdeithasol, ac yn syml iawn, rydym yn byw ein bywydau. Nid yw hynny'n bosibl ar yr hen gyffuriau - rydych yn teimlo fel talp o jeli." - Martin o Gaint a ddioddefodd sgîl-effeithiau difrifol ar hen feddyginiaethau.
  • "Mae meddyginiaeth newydd wedi galluogi i mi a fy ngŵr gael ansawdd bywyd llawer gwell. Yn y flwyddyn cyn i mi ddechrau cymryd meddyginiaeth annodweddiadol, ceisiais ladd fy hun 12 o weithiau, a bûm yn yr ysbyty chwe gwaith. Ers dechrau cymryd y feddyginiaeth 18 mis yn ôl, nid wyf wedi bod yn yr ysbyty ac rwy'n gallu gwneud gwaith gwirfoddol." - Diana o Southampton.
  • "Mae'r feddyginiaeth fodern wedi gweithio go iawn i mi. Rwyf wedi bod yn iach nawr am dair blynedd, ond cefais amser ofnadwy o'r blaen ar yr hen feddyginiaethau, ac roedd gennyf symptomau tebyg i afiechyd Parkinson's." Joe, 26, o Lundain.

I ddarllen arweiniad Hafal i feddyginiaethau gwrthseicotig annodweddiadol ar gyfer sgitsoffrenia, cliciwch yma.

Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)

Other Treatment


Dylai'r ystod o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru gynnwys ymyriadau seicolegol yn ogystal â seiciatryddol, a dylent gynnig:

- Yr hawl i gael triniaethau effeithiol i reoli symptomau anablu a gofidus salwch meddwl difrifol.
- Gwasanaethau iechyd meddwl cynhwysfawr ar gael i'r sawl y mae arnynt eu hangen.
- Trefn gyflawn ar gyfer rheoli gofal: asesu, cynllunio, gweithredu ac adolygu gan dîm aml-ddisgyblaethol, ond wedi'i chydlynu gan unigolyn penodol.
- Fframwaith deddfwriaethol priodol, sy'n adlewyrchu gwerthoedd yr unigolyn gan sicrhau bod gan y cyhoedd hyder mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Dylai'r ffocws fod ar adfer a gwella yn hytrach nag ar gyfyngu unrhyw gyflwr, ac mae triniaethau cyfoes erbyn hyn yn cynnig llawer gwell cyfle i lwyddo yn hynny o beth.

Amlygir hyn yng Ngham Allweddol 23 Safon 6 y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Gymru: : "Rhaid darparu ystod cynhwysfawr o therapïau seicolegol yn seiliedig ar dystiolaeth ymhob rhan o Gymru, ynghyd â'r hawl i gael gwasanaethau mwy arbenigol."

Y dewis /ystod o driniaeth a therapi y gellir eu hystyried mewn dull holistaidd yw:

  • Seicotherapi (Psychotherapy)
    Mae seicotherapi yn golygu ‘gwella meddyliol'.
    • Daw o'r Groeg am y meddwl (psyche)
    • a'r Lladin am wella (therapia)
    • Ar hyn o bryd mae dros 300 o ffurfiau ar seicotherapi a chwnsela.
    • Yn ôl Barker (1999) mae tair prif swyddogaeth i seicotherapi;
    • Cefnogaeth ~ i leihau gofid trwy gynnig arweiniad, sicrwydd, hyrwyddo hunan-barch, galluogi amddiffynfeydd ymdopi.
    • Ail-addysgu ~ helpu i wneud newidiadau, ymdrechion i ail-addasu, cyrraedd nodau.
    • Ail-adeiladu - archwiliad dyfnach o wrthdaro yr anymwybod, datblygu personoliaeth.
    • Cynhaliaeth drefnus am amser penodedig i gynorthwyo unigolion sydd ag anawsterau emosiynol a phroblemau a phrosesau seicolegol. Yn eu plith mae therapi dirnadol, therapi grŵp a therapi teulu.
    • Ymyriadau Teulu - Os yw person yn byw gyda'i deulu neu mewn cysylltiad agos â'i deulu (gan gynnwys gofalwyr a phartneriaid). Gall gwaith teulu leihau'r siawns o ddioddef gwaeledd meddwl pellach.
    • O gymorth arbennig i bobl sydd wedi dioddef gwaeledd meddwl yn y 3 mis diwethaf neu sydd mewn perygl o ddioddef gwaeledd meddwl.
    • Yn gymorth hefyd i bobl sydd â symptomau fel lleisiau neu feddyliau rhyfedd sy'n aros ar ôl gwaeledd meddwl.
    • Hyd ac Amodau Ymyriadau Teulu - Ni ddylai hyd ymyriad teulu fod yn hwy na 6 mis, gyda mwy na 10 o sesiynau wedi'u trefnu.
    • Yn ôl canllawiau NICE, dylid cynnig ymyriad teulu i holl deuluoedd unigolion â schizophrenia sydd wedi ailwaelu yn ddiweddar, sy'n cael eu hystyried ‘mewn perygl' o ailwaelu, neu sydd â symptomau parhaus ac sy'n byw gyda'u teulu neu mewn cysylltiad agos â'u teulu.
    • Eithriadau N.I.C.E. - Ni chynigir Ymyriadau Teulu i unigolion â schizophrenia:
      • Nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn trafodaeth wybodus â'r clinigwr sy'n gyfrifol am y driniaeth ac nad yw'r eiriolwr neu'r gofalwr ar gael.
      • Lle mae'r unigolyn yn gwrthod caniatáu trafod ymyriadau teulu gyda'i deulu/theulu.
      • Lle mae'r teulu'n gwrthod cymryd rhan.
  • Adfer
    Pan gaiff ei gynnig mewn ysbyty neu ei gydlynu oddi yno, mae hyn yn aml yn cynnwys therapi galwedigaethol i adennill a dysgu sgiliau cymdeithasol a sgiliau byw newydd.
  • Therapïau amgen
    Enw arall ar y rhain yw 'therapïau ategol' a gellir eu cynnig law yn llaw â thriniaethau confensiynol yn seiliedig ar feddyginiaeth. Mae therapïau amgen yn cynnwys: therapi celf, therapi cerdd, aromatherapi ac adweitheg.

Bydd yr adran hon yn cael ei datblygu ymhellach gyda rhagor o wybodaeth am bob adran, ond yn y cyfamser gallwn gynnig y cysylltiadau canlynol:

Y Gymdeithas Seicolegol Brydeinig - deall salwch meddwl; achosion a thriniaethau.

Rethink Mae gan Rethink ragor o wybodaeth am driniaethau a therapi.

Mae gwybodaeth ychwanegol, defnydd ac ymchwil gyfredol ar therapïau ategol ar gael yn adran ‘Gwybodaeth am Iechyd Meddwl' - ‘Strategaethau, triniaeth a therapïau' o safle'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn www.mentalhealth.org.uk

Therapïau Cyflenwol

Dros y blynyddoedd diweddar, mae therapïau cyflenwol wedi cynyddu mewn poblogrwydd fel ffordd o drin anhwylderau corfforol neu feddyliol - a chynnal lles. Dangosodd arolwg o 2005, a gomisiynwyd gan y Diagnostic Clinic yn Llundain bod 68 y cant o bobl yn credu yn effeithiolrwydd therapïau cyflenwol. Amcangyfrifir ar hyn o bryd bod 1 ym mhob 5 o Brydeinwyr yn defnyddio gofal iechyd cyflenwol - gan wario £130 miliwn y flwyddyn - a bod 50,000 o ymarferwyr therapïau cyflenwol yn y DU.

Gyda'r cynnydd hwn mewn poblogrwydd cafwyd galwadau i therapi cyflenwol gael mwy o rôl mewn gofal prif ffrwd. Yn 2004, cyflwynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, gynnigion i alluogi cynnig meddyginiaethau cyflenwol ar y GIG. Mewn araith y llynedd fe ddadlodd o blaid hyn drwy ddweud: "Rwy'n credu y bydd hyn yn arwain at well iechyd ac yn y pen draw yn lleihau costau i'r GIG drwy annog cleifion i chwarae mwy o ran wrth warchod eu hiechyd eu hunain".

O ganlyniad i boblogrwydd cynyddol therapïau cyflenwol, a'u defnydd cynyddol yn brif ffrwd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn 2004 y byddai therapïau cyflenwol yn cael eu rheoli'n fanylach. Mis Mawrth diwethaf, fe lansiodd Llywodraeth y Cynulliad y Cynllun Gwobrwyo Triniaeth Cyflenwol ar gyfer Cymru er mwyn cydnabod yr enghreifftiau gorau o ofal iechyd integredig.

  • Felly beth yw meddyginiaeth gyflenwol?

Therapïau ‘cyflenwol' yw yn union hynny: therapïau sy'n cyflenwi neu'n ategu meddyginiaeth Orllewinol gonfensiynol pan y'i defnyddir ar y cyd (er nad yw o reidrwydd yn cynnig dewis amgen i feddyginiaeth gonfensiynol, fel yr awgrymir gan y term ‘meddyginiaeth amgen'). Defnyddir meddyginiaeth gyflenwol gan nifer o bobl i drin ac atal amrywiaeth eang o gyflyrau ac afiechydon, ond cred rhai ei fod hefyd yn chwarae rhan mewn bywyd iach yn gyffredinol ac wrth hyrwyddo iechyd a lles unigolyn.

  • Ydi therapi cyflenwol yn gweithio?

Mae hwn yn bwynt dadleuol. Mae llawer o'r dystiolaeth am effeithiolrwydd therapïau cyflenwol yn anecdotaidd, ac mae tystiolaeth wyddonol yn tueddu i fod yn anghyson. Dywed Hafal: "Dim ond triniaethau a therapïau sydd wedi'u cymeradwyo gan ddadansoddiad gwyddonol y byddwn yn eu hargymell. Mae ymchwil gwyddonol i therapi cyflenwol wedi dangos bod rhai therapïau yn gweithio mewn rhai achosion, ond mewn nifer o achosion, nid oes tystiolaeth o gwbl ar gael. Fodd bynnag, mae'n rhaid gadael i bobl wneud eu dewisiadau eu hunain."


Awgrym Hafal - Os oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio therapïau cyflenwol, holwch eich Meddyg Teulu i ofalu nad oes unrhyw sgil effeithiau negyddol.

Wrth drafod ‘meddyginiaethau traddodiadol', dywed Sefydliad Iechyd y Byd: "Dim ond ar gyfer defnyddiau o aciwbigo, rhai meddyginiaethau perlysieuol ac ar gyfer rhai o'r therapïau corfforol y mae tystiolaeth wyddonol o dreialon clinigol ar hap yn gryf. Mae angen ymchwil pellach i bennu effeithlonrwydd a diogelwch nifer o'r ymarferion a'r planhigion meddyginiaethol eraill." (Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.who.int/mediacentre/factsheet/fs134/en/)

Mae'r Sefydliad Iechyd Meddwl yn cytuno, gan ddweud: "Mae llawer o'r ymchwil presennol i'r defnydd o therapïau cyflenwol mewn iechyd meddwl i'w gael ar ffurf adroddiadau achos yn unig, heb fawr o dreialon clinigol cynhwysfawr nac adolygiadau ymchwil wedi'u cynnal. Os oes ymchwil ar gael, mae'n aml yn anodd cael ato."

Fodd bynnag, roedd adroddiad a gomisiynwyd gan Dywysog Cymru ac a gynhyrchwyd gan yr economydd, Christopher Smallwood, y llynedd, yn awgrymu y gall cyflyrau fel pwysau meddwl elwa o therapïau cyflenwol (awgrymwyd y gallai meddyginiaeth perlysieuol yn arbennig fod yn fuddiol wrth drin iselder).

Awgrym Hafal - Mae hefyd yn hanfodol eich bod yn defnyddio ymarferwyr sydd â'r cymwysterau priodol. Ar gael gafael ar ymarferwyr â'r cymwysterau priodol, ewch i wefan y Ffederasiwn Therapïau Cyfannol (www.fht.org.uk*) neu wefan Cymdeithas Meddyginiaeth Gyflenwol Prydain (www.bcma.co.uk*)

  • Felly beth yw'r prif therapïau sydd ar gael? Edrychwn ar rai enghreifftiau poblogaidd...

 

Enw'r Therapi

Beth mae'n ei olygu

Aciwbigo

Math o feddyginiaeth Tsieineaidd draddodiadol a ddefnyddir i reoli salwch a chynnal iechyd, mae aciwbigo'n golygu gosod nodwyddau main yn y corff i annog ymateb iachaol.

Techneg Alexander

Therapi symudiad sy'n cynnwys cefnogaeth ymarferol wrth i athro eich cynorthwyo i roi'r gorau i arferion symud gwael.

Aromatherapi

Ychwanegir olewau naws botanegol i fath neu eu tylino i'r croen, eu hanadlu i mewn yn uniongyrchol neu eu tryledu (cymysgu) i arogleuo ystafell gyfan ar gyfer effaith therapiwtig.

Meddyginiaeth perlysieuol

Defnyddir echdyniadau (extracts) meddyginiaethol o berlysiau i drin nifer o gwynion neu i hyrwyddo lles. Gellir defnyddio'r rhain mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys tabledi ac eli.

Homeopathi

I drin anhwylder, gweinyddir dosau bychan o fwynau fyddai'n cynhyrchu'r un symptomau mewn person iach.

Hypnotherapi

Cymell cyflwr hypnotig ac ymlaciol a chael at y meddwl isymwybodol fel y gellir adalw atgofion yn haws ac y gellir derbyn awgrymiadau iachaol.

Tylino'r corff

Perfformio symudiadau llaw ar groen y corff, gan gynnwys rhwbio a rhoi pwysau, er mwyn trin amrywiaeth o anhwylderau neu i hyrwyddo teimlad o les.

Therapi maethol

Defnyddio diet i drin anhwylderau ac atal salwch drwy gywiro unrhyw ddiffygion neu

anghydbwysedd fitaminau, mwynau a maetholion eraill.

Adweitheg

System arbenigol o dylino traed sy'n gweld yr holl gorff wedi'i fapio ar wadn y droed: caiff y pwyntiau cyfatebol ar y droed eu tylino i drin anhwylderau drwy'r corff cyfan.

Reiki

System Siapaneaidd o sianelu egni iachaol i mewn i'r cleient. Bydd ymarferwr yn gosod ei ddwylo dros y cleient (ond nid o reidrwydd yn eu cyffwrdd).

Shiatsu

Dull Siapaneaidd o dylino sy'n rhoi pwysau ar bwyntiau penodol o'r corff i adfer cydbwysedd egni'r corff.

T'ai chi

Crefft ymladd Tsieineaidd sy'n seiliedig ar lif esmwyth o symudiadau corfforol sy'n annog cyflwr ymlaciol a chydbwysedd.

Yoga

Yn tarddu o India, ymarfer ysbrydol yw yoga sy'n cynnwys ymarferion ac ymddaliadau

corfforol, technegau anadlu a myfyrdod.

*Sylwer nad yw Hafal yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol

Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)

25 Jan 2012
Hafal yn cyhoeddi ymateb i’r Cod Ymarfer ar gyfer y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ...Read more...

19 Dec 2011
‘Nadolig i Ddefnyddiwr Gwasanaeth yng Nghymru’...Read more...

21 Nov 2011
“Mae bywyd yn ddigon caled eisoes i bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, a hynny heb unrhyw doriadau i fudd-daliadau” ...Read more...

14 Nov 2011
Rali Hydref Hafal...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal