Hyfforddiant ac Addysg

Mae hyfforddiant ac addysg ar gael ar draws amrywiaeth o bynciau, mewn nifer o ffurfiau a gall fod yn ffurfiol neu'n anffurfiol. Mae sawl mater y mae'n bosib i chi eu hystyried:
Astudio mewn cyfleusterau prif ffrwd - colegau addysg bellach (amser llawn, rhan amser neu fodwlar) Cael help i'ch cefnogi drwy gwrs
Defnyddio pecynnau dysgu o bell - y Brifysgol Agored ac ati.
Hunan-astudio- defnyddio llyfrgelloedd, y rhyngrwyd ac ati.
Dysgu yn seiliedig yn y gwaith sy'n eich galluogi i ennill cyflog wrth ddysgu
Defnyddio Addysg Gymunedol - yn seiliedig mewn amgylcheddau anacademaidd
Gallwch gael gafael ar daflenni gwybodaeth ar y pynciau canlynol drwy glicio ar yr un sydd o ddiddordeb i chi: Dewis Cwrs Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr
Hunanastudiaeth
Os byddai'n well gennych chi ddysgu'n gwbl annibynnol ac ar eich cyflymder eich hun, gallwch ddewis astudio ar eich pen eich hun. Fel hyn, byddwch yn astudio'r union beth y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, er na fydd gennych chi gefnogaeth uniongyrchol gan diwtor a myfyrwyr eraill i rannu syniadau â nhw.
Llyfrau - gallwch gael y rhain ar unrhyw destun y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, a chofiwch y gallai eich llyfrgell leol eich helpu. Os nad oes ganddyn nhw lyfr rydych chi ei eisiau mewn stoc, efallai y gallant ei archebu i chi.
Tapiau sain a CDau - mae'r rhain yn boblogaidd ar gyfer dysgu ieithoedd, er y gallwch hefyd eu defnyddio i ddysgu am sgiliau rheoli neu i gwblhau cwrs datblygiad personol.
Cyfrifiadur a'r Rhyngrwyd - gallwch ddysgu sgiliau cyfrifiadurol gyda llawlyfr hyfforddi, hyfforddiant ar sgrin neu dros y rhyngrwyd. Gallwch hefyd gael mynediad i amrywiaeth eang o wybodaeth ar unrhyw bwnc sydd o ddiddordeb i chi ar y rhyngrwyd.
Teledu a Radio - mae rhai gorsafoedd yn rhedeg rhaglenni addysgol gyda deunydd ategol ar eu gwefan. Gall hyn fod ar unrhyw bwnc o arddio i ieithoedd.
Dysgu yn Seiliedig ar Waith
Gallai hyn gynnwys gwneud tasgau neu gymryd cyfrifoldebau newydd, yn ogystal â neu yn hytrach na hyfforddiant y mae eich cyflogwr yn fodlon talu amdano. Gallai eich cyflogwr gynnal cyrsiau mewnol, neu fod yn fodlon anfon nifer o bobl o'r un tîm ar gwrs. Ar y llaw arall, efallai yr hoffech ddod o hyd i gwrs sy'n eich siwtio ac yna cyflwyno eich cais i'ch cyflogwr ar gyfer talu ffioedd a gadael i chi gael amser i ffwrdd i fynychu.
Os ydych chi eisiau astudio rhywbeth sydd heb lawer, neu sydd â dim, perthnasedd i'ch gwaith presennol, efallai y bydd angen i chi drafod â'ch cyflogwr er mwyn dod o hyd i ffordd y gallwch fynychu heb effeithio ar eich gallu i barhau i weithio. Mae'r cynllun Dysgu drwy Weithio yn ffordd o astudio cwrs byr neu gymhwyster lefel prifysgol yn eich amser eich hun fel y gallwch barhau i weithio (efallai y bydd eich cyflogwr yn fodlon helpu gyda chost y cwrs). Caiff ei redeg gan learndirect ac mae nifer o brifysgolion yn cynnig y cyrsiau hyn gyda dysgu a chefnogaeth ar-lein. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 0800 100 900 neu cliciwch yma.
Os ydych chi ar y Fargen Newydd efallai eich bod yn dysgu wrth weithio neu'n gwneud cwrs galwedigaethol amser llawn. Os ydych chi'n 25 oed neu h?n, mae'r Fargen Newydd yn dechrau ar ôl 18 mis o hawlio'r Lwfans Ceisio Gwaith, os ydych chi rhwng 18 a 24 oed, bydd yn dechrau ar ôl 6 mis o hawlio.
Rhaglen wirfoddol yw Dysgu yn y Gwaith ar gyfer Oedolion ac nid yw wedi'i gyfeirio at bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn unig. Mae'n cynnwys datblygu cynllun hyfforddi a allai gynnwys hyfforddiant i wneud swydd benodol, profiad gwaith neu weithio tuag at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ).
Cysylltwch â'ch Canolfan Byd Gwaith lleol am ragor o wybodaeth ar y Fargen Newydd neu Dysgu yn y Gwaith ar gyfer Oedolion.
Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)
|