Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Perthnasau Gofalu a Rhianta

Perthnasau Gofalu a Rhianta

Efallai y byddwch yn dewis:

• Chwilio am gefnogaeth er mwyn cynnal y rôl rhianta a'r rôl gofalu o fewn y gymuned.
• Ymuno â grŵp gofalwyr.
• Mynychu clwb "Rhiant a Phlentyn" lleol.
• Chwilio am gefnogaeth o'ch ysgol leol.
• Gwella cysylltiadau ag adref os ydych yn yr ysbyty.

Perthnasau rhianta

Mae Cam Allweddol 3 o "Codi'r Safon - Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol Diwygiedig i wasanaethau iechyd meddwl ar gyfer oedolion yng Nghymru" yn esbonio'n glir y gefnogaeth y dylai rhieni dderbyn pan eu bod yn mynd yn sâl.

Mae'n datgan: "Dylai Awdurdodau hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol drwy ddiwallu anghenion grwpiau penodol o bobl hawdd eu niweidio sydd â phroblem iechyd meddwl ac sydd eisoes mewn perygl o gael eu dieithrio, e.e. rhieni sydd â phroblemau iechyd meddwl."

Yn y cyfamser, mae Cam Allweddol 39 o'r Fframwaith yn datgan, mewn perthynas â phlant: "Dylid ystyried anghenion plant a phobl ifanc hawdd eu niweidio y mae gan eu rhieni/gwarcheidwaid broblemau iechyd meddwl yn ofalus iawn. Dylid cynllunio'n ofalus er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar eu hanghenion yn cael ei hystyried, yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle maent yn gweithredu fel gofalwyr."

Mewn geiriau eraill, pan fo rhiant yn mynd yn sâl, cynghorir eich awdurdod lleol i fynd i'r afael ag afiechyd meddwl y rhiant a lles y plentyn gyda'i gilydd drwy ddull integredig o safbwynt gwasanaethau iechyd, cymdeithasol, tai ac addysg.

Beth all rhiant ei wneud ar ran y plentyn cyn bod y rhiant yn mynd yn sâl?

Pan fo rhiant yn mynd yn sâl ac yn gorfod mynd i'r ysbyty am driniaeth, byddant yn amlwg yn bryderus ynghylch lles eu plentyn yn ystod yr absenoldeb. Byddant hefyd yn pryderi am yr effeithiau emosiynol a seicolegol hirdymor y bydd eu habsenoldeb o bosib yn ei gael ar y plentyn.

O dan y fath amgylchiadau, mae gofalu am y plentyn yn dibynnu ar amgylchiadau'r teulu. Os nad oes aelod o deulu'r plentyn (agos neu'n estynedig) yn medru gofalu ar ôl y plentyn, bydd y cyngor lleol yn medru cynorthwyo a diwallu anghenion y teulu.

Pan fo rhiant yn yr ysbyty, mae plant yn medru profi ystod o broblemau megis
pryder, gofid, unigrwydd a chael eu profocio'n gynyddol gan blant eraill (am salwch eu rhiant). Gall yr holl ffactorau yma effeithio ar ansawdd gwaith ysgol y plentyn a'i les cyffredinol.

Os yw rhieni yn poeni eu bod o bosib yn mynd yn sâl, efallai y dylent ystyried cymryd camau positif ac ymarferol ymlaen llaw, sef mesurau - os yw'r rhiant yn gorfod mynd i'r ysbyty - y mae'n bosib eu gweithredu gan unigolyn y gellir ymddiried ynddo a chynorthwyo i sicrhau bod sefyllfa anodd yn cael ei gwneud ychydig yn haws.

Mae camau positif y gellir eu cymryd ymlaen llaw cyn mynd i ofal ysbyty yn medru cynnwys:

• Y rhiant yn amlinellu'n llawn yr hyn fydd yn digwydd i'r plentyn tra eu bod yn derbyn triniaeth.

• Y rhiant yn darparu gwybodaeth glir, ffeithiol i'w plentyn am eu hafiechyd meddwl er mwyn cynyddu dealltwriaeth.

• Y rhiant yn creu'r hyn a elwir gan y Sefydliad Iechyd Meddwl fel "taflen ffeithiau trefn bob dydd" a fyddai'n medru amlinellu'r drefn ddyddiol / wythnosol y dylai'r plentyn ddilyn yn ystod absenoldeb y rhiant. Mae gan daflenni ffeithiau nifer o fanteision. Er enghraifft, os yw gwarcheidwad (gwarcheidwaid) y plentyn yn dilyn taflen ffeithiau, mae'n medru cynnig elfen o gysondeb a sicrwydd i'r plentyn. Mae llunio taflen ffeithiau hefyd yn medru cynnig ymdeimlad i'r rhiant absennol eu bod yn cyfrannu at les y plentyn tra eu bod ar wahân.

• Rhieni yn briffio eu plant am yr hyn y dylid ei ddisgwyl pan eu bod yn ymweld â hwy yn yr ysbyty.

• Darparu gwybodaeth i'w rhoi i ysgol y plentyn os yw'r rhiant angen gofal ysbyty. Byddai'r wybodaeth hon yn medru cynorthwyo athrawon i ddeall anghenion y plentyn yn ystod amser anodd.

Os nad yw person ifanc yn cael ei friffio ar yr hyn i'w ddisgwyl neu'n teimlo nad yw'n medru ymdopi pan fod ei fam neu'i dad yn mynd yn sâl iawn, mae'n bosib iddynt i wneud apwyntiad gyda'u Meddyg Teulu i ganfod mwy o wybodaeth. Mae'n bosib iddynt gysylltu, drwy eu cyngor, â'u Tîm Iechyd Cymunedol lleol.

Gofalwyr ifanc

Mae gofalwyr ifanc yn medru colli allan ar weithgareddau addysgol, cymdeithasol a hamddenol o ganlyniad i'w rôl gofalu. Nid ydynt yn wybyddus i'r gwasanaethau fel arfer. Mae astudiaeth gan yr NSPCC hefyd wedi dangos fod nifer o ofalwyr ifanc wedi cael profiadau sylweddol o golled, beio'u hunain a stigma.

Mae'n hynod bwysig i ofalwyr o bob oedran i dderbyn y gefnogaeth sydd angen arnynt, yn enwedig gan eu Meddyg Teulu a'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i'ch adran gwasanaethau cymdeithasol lleol am Asesiad Gofalwr gan y bydd hyn yn canfod ble yn union sydd angen cymorth arnoch a phwy'n union fydd yn medru darparu'r cymorth hwnnw. Mae'n bwysig fod gofalwyr o bob oedran (gan gynnwys y rhai sy'n iau na 18) yn cael eu hysbysu am unrhyw ddatblygiadau o safbwynt trin y rhai sy'n derbyn gofal. Dylid trafod hyn ymlaen llaw gyda'r gofalwr, yr unigolyn sy'n derbyn y gofal a'r cydlynydd gofal er mwyn sicrhau fod yna drefniadau yn cael eu cadarnhau i rannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau tra bo'r unigolyn sy'n derbyn gofal yn yr ysbyty.

Mae gofalwyr ifanc yn teimlo'n aml nad ydynt yn cael eu hysbysu neu'n cael eu hymgynghori ar benderfyniadau gan fod gweithwyr proffesiynol weithiau'n cymryd yn ganiataol ei fod yn annheg rhoi baich ychwanegol arnynt neu eu bod yn rhy ifanc i fod yn rhan o'r broses. Fodd bynnag, gall hyn olygu fod gofalwyr ifanc yn teimlo eu bod wedi'u hynysu a heb reolaeth, yn enwedig y rhai hynny sy'n chwarae rôl gofalu fwy gweithredol.

Gan fod gofalu am rywun yn medru cymryd amser, yn ingol a'n flinedig, mae'n hanfodol bwysig fod gofalwyr yn sicrhau nad yw eu hiechyd yn dioddef. Dylai gofalwyr sydd ag afiechyd meddwl difrifol eu hunain gofio i wneud eu hiechyd hwy'n gymaint o flaenoriaeth â'r sawl sy'n derbyn gofal ganddynt. Dylai gofalwyr sicrhau eu bod yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt.

Efallai yr hoffai gofalwyr ystyried y manteision o ymuno â grŵp cefnogi gofalwyr. Mae grwpiau gofalwyr yn medru bod yn fuddiol am eu bod yn cynnig cyfle i'r gofalwr i rannu profiadau â phobl sydd yn deall y materion y maent yn eu gwyntyllu. Efallai y bydd gofalwyr hefyd am gael mynediad at wasanaethau seibiant a fydd eu galluogi i gael hoe tra'n gwybod fod y person y maent yn gofalu yn ei gylch yn derbyn y gofal priodol.

Rhai linciau defnyddiol

• Yng ngwanwyn 2009, cyhoeddodd Hafal "Gwerthoedd Newydd - Arferion Newydd", sef adroddiad lle'r oedd defnyddwyr gwasanaethau yn lleisio barn ar yr hyn yr hoffent ei weld yn Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Roedd adroddiad Hafal yn cynnwys pennod â'r teitl "Rhieni a pherthnasau sy'n gofalu" sy'n rhestru enghreifftiau o arferion newydd a awgrymwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau. Er mwyn cael cipolwg ar "Gwerthoedd Newydd - Arferion Newydd", ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/publications.php

• Ym 2004, bu Hafal yn arloesol drwy sefydlu Fforwm Gofalwyr Iechyd Meddwl Cymru Gyfan, yn arbennig i fynd i'r afael ag anghenion gofalwyr y bobl hynny ag afiechyd meddwl. Mae'r Fforwm ar agor hefyd i unigolion a grwpiau na sy'n gysylltiedig â Hafal. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau'r Fforwm, neu i ddod yn rhan ohono, cysylltwch â Threfnydd Fforwm Gofalwyr Iechyd Meddwl Cymru Gyfan, sef Janet Randles: Hafal, Swît C2, Tŷ William Knox, Llandarsi, Castell-nedd SA10 6EL (Ffôn:01792 816 600; E-bost: carersforum@hafal.org.

• Os ydych yn ofalwr i berson ag afiechyd meddwl, bydd Hafal yn eich darparu â'r wybodaeth sydd angen arnoch er mwyn eich galluogi i ddod o hyd i gefnogaeth a chyngor. Am fwy o wybodaeth am y gwasanaethau i ofalwyr y mae Hafal yn eich darparu yn eich ardal chi, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/pdf/carers/Carers_Welsh.pdf Bydd eich cyngor lleol hefyd o bosib yn medru'ch darparu â rhestr o grwpiau gofalwyr sydd yn dod ynghyd yn eich ardal

• Er mwyn darllen Cynllun Deg Pwynt i Ofalwyr Hafal, a gyhoeddwyd ar-lein ym Mehefin 2009, ewch os gwelwch yn dda i http://www.hafal.org/hafal/cymraeg/publications.php Mae'r cynllun hwn wedi ei selio ar yr awgrymiadau a dderbyniwyd oddi wrth 400 o ofalwyr sy'n Aelodau gyda Hafal. Mae wedi ei selio ar brofiad go iawn ac yn amlinellu'r camau positif y gallwch chi eu cymryd fel gofalwr i symud ymlaen a chefnogi'r sawl yr ydych yn gofalu amdano.

• Mae gwefan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynnig cyngor cynhwysfawr ar y camau y gellir eu cymryd pan fo rhiant yn mynd yn sâl. Ewch os gwelwch yn dda i www.mentalhealth.org.uk/

• Mae Barnardo's wedi cyhoeddi pecyn adnoddau a elwir "Keeping the family in mind". Mae'r pecyn ar gyfer unrhyw un sydd yn gweithio gyda rhieni sydd â thrafferthion iechyd meddwl, eu plant a'u teuluoedd ac mae wedi ei gynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth o'r materion y mae teuluoedd yn eu hwynebu. Er mwyn archebu pecyn, ewch os gwelwch yn dda i: www.barnardos.org.uk/resources/research_and_publications/books_and_tools_health_and_disability.htm#parents

 • Mae Plant yng Nghymru yn cefnogi datblygu gwasanaethau a chefnogaeth i ofalwyr ifanc drwy hwyluso'r Rhwydwaith Gofalwyr Ifanc. Am fwy o wybodaeth ar hyn, ewch os gwelwch yn dda i: www.plantyngnghymru.org.uk/areasofwork/youngcarers/index.html

• Mae gwefan Ymddiriedolaeth y Tywysog Brenhinol i Ofalwyr Ifanc yn cynnig gwybodaeth a chyngor i ofalwyr ifanc yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn fforymau ar-lein. Ewch os gwelwch yn dda i: www.youngcarers.net

• Mae Home Start yn cynnig cyngor sy'n rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac na sy'n feirniadol i deuluoedd â phlant ifanc sydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol.
Ewch os gwelwch yn dda i: www.home-start.org.uk

• Mae teuluoedd hefyd yn medru cael mynediad at Wasanaethau Cymorth i Deuluoedd lleol drwy gynllun Cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Cymorth yn cael ei weinyddu drwy Bartneriaethau Plant a Phobl Ifanc lleol sydd o fewn pob un awdurdod lleol. Mae'n anelu i ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn gwella cyfleon bywyd plant a phobl ifanc o deuluoedd difreintiedig. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Thîm y Rhaglen Plant a Theuluoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ Ffôn. 02920 826379 E-bost: cymorth@wales.gso.gov.uk

Mae'n bosib dod o hyd i fwy o wybodaeth ar Cymorth yma: http://www.dcsf.gov.uk/everychildmatters/earlyyears/surestart/fundedsettings/wales/wales/

 

 

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal