Canolfan Dysgu
Hafal

Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Y Cam Nesaf

Croeso i wefan y Cam Nesaf, y ffordd ymlaen ar gyfer pobl gyda afiechyd meddwil ddifrifol

Lotto Logo

  • Oes gennych chi, neu a ydych chi’n amau bod gennych chi, afiechyd meddwl difrifol?
  • Ydych chi’n teimlo bod eich salwch yn eich rheoli neu eich bod yn methu symud ymlaen?
  • Ydych chi eisiau gallu rheoli eich bywyd a chyflawni adferiad?

Os felly, mae pecyn Y Cam Nesaf wedi’i gynllunio ar eich cyfer chi. Datblygwyd y pecyn hwn gan Hafal, yr elusen Gymreig ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol, ac mae’n seiliedig ar brofiadau a sylwadau gan gannoedd o’n cleientiaid. Mae’n rhoi’r arfau sydd eu hangen arnoch chi i:

  • reoli eich salwch
  • edrych ar bob agwedd ar eich bywyd, asesu a gosod targedau
  • bod yn gadarnhaol a symud ymlaen wrth i chi gyrraedd adferiad.

 

Beth yw adferiad? Mae adferiad yn ffordd o adennill iechyd meddwl a chyflawni gwell ansawdd i fywyd. Mae’n canolbwyntio ar roi grym i bobl wella eu bywydau ym mhob maes, yn hytrach na chynnal bywoliaeth ddigonol yn unig.

Ar gyfer pwy mae adferiad?Mae adferiad ar gyfer pawb. Gall pawb gymryd camau tuag at wella eu hiechyd meddwl a chyflawni gwell ansawdd i fywyd. Ond, mae gan bobl gyda phrofiad o salwch meddwl hefyd yr hawl i wneud gwelliannau ym mhob rhan o’u bywydau, sydd at ei gilydd yn cyfrannu tuag at iechyd meddwl da.

Pan fydd pobl yn cael profiad o afiechyd meddwl, mae’n ddefnyddiol bod yn fwy trefnus wrth edrych ar sut y gellir gwella eu bywydau a chyflawni adferiad. Mae pecyn Y Cam Nesaf yn cynnig yr agwedd drefnus yma.

Ble ddylwn i gychwyn?

Yma. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw gweithio eich ffordd drwy’r camau canlynol a chlicio i fynd at y canllawiau cysylltiedig pan fyddwch chi angen (mae’r canllawiau ar gael fel ffeiliau pdf, felly bydd arnoch angen Adobe Acrobat Reader i’w hagor).

25 Jan 2012
Hafal yn cyhoeddi ymateb i’r Cod Ymarfer ar gyfer y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ...Read more...

19 Dec 2011
‘Nadolig i Ddefnyddiwr Gwasanaeth yng Nghymru’...Read more...

21 Nov 2011
“Mae bywyd yn ddigon caled eisoes i bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, a hynny heb unrhyw doriadau i fudd-daliadau” ...Read more...

14 Nov 2011
Rali Hydref Hafal...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal