Canolfan Dysgu
Hafal

Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Y Cam Cyntaf

Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi afiechyd meddwl difrifol, y peth cyntaf y dylech chi ei wneud - os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny – yw mynd i weld eich doctor. Ewch â rhywun gyda chi os ydych chi angen cefnogaeth, a gofynnwch am apwyntiad dwbl os ydych chi eisiau mwy o amser i drafod eich salwch. Gyda’ch gilydd, byddwch yn penderfynu:

  1. Pa feddyginiaeth ar gyfer afiechyd meddwl ddylech chi fod yn eu cael ar ragnodiad, os o gwbl? AWGRYM: eich dewis chi yw e, a’ch doctor. Gofynnwch gwestiynau a chael gwybodaeth am bob meddyginiaeth sydd ar gael, gan gynnwys unrhyw fanylion am eu heffeithiolrwydd, pa mor hawdd yw eu cymryd, a’r sgil effeithiau posibl. Gallwch adolygu eich meddyginiaeth gyda’ch doctor eto ar ymweliadau yn y dyfodol. (Ar gyfer pobl gyda diagnosis o sgitsoffrenia: cliciwch yma i ddarllen arweiniad Hafal i feddyginiaethau gwrthseicotig annodweddiadol ar gyfer sgitsoffrenia).
  2. Pa driniaethau a therapïau eraill allai fod ar gael ar gyfer afiechyd meddwl, gan gynnwys cwnsela, seicotherapi a therapi ymddygiad gwybyddol? Gallai’r rhain helpu eich adferiad: gofynnwch i’ch doctor beth sydd ar gael. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y rhain.
  3. Sut allwch chi gynnal a gwella eich iechyd corfforol. Mae’n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch eich hun pam fydd gennych chi afiechyd meddwl. Rhowch wybod i’ch doctor am unrhyw broblemau iechyd corfforol. I ddarllen rhagor am iechyd corfforol, cliciwch yma.

Y Cam Nesaf

Hafan

25 Jan 2012
Hafal yn cyhoeddi ymateb i’r Cod Ymarfer ar gyfer y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ...Read more...

19 Dec 2011
‘Nadolig i Ddefnyddiwr Gwasanaeth yng Nghymru’...Read more...

21 Nov 2011
“Mae bywyd yn ddigon caled eisoes i bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, a hynny heb unrhyw doriadau i fudd-daliadau” ...Read more...

14 Nov 2011
Rali Hydref Hafal...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal