Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Gwasanaethau

Mae Hafal yn darparu ystod o wasanaethau ledled Cymru, gan gynnwys:

Gweithgareddau ar gyfer Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr:

ystod o weithgareddau - yn adloniadol, addysgol a chymdeithasol - ar gyfer cleientiaid a gofalwyr fel ei gilydd.

Cefnogaeth gyda Chartrefi:

Mae tenantiaeth all-estyn Hafal a'i gefnogaeth gyda chartrefi yn rhoi cymorth hyblyg i bobl ag afiechyd meddwl difrifol gan eu galluogi i gynnal eu tenantiaethau. Rydyn ni hefyd yn darparu Tai Dibyniaeth Uchel 24-Awr - llety benodedig, angen uwch lle mae staff ar gael ddydd a nos i roi cefnogaeth i denantiaid.

Canolfannau Adnoddau:

Mae Hafal yn darparu lleoliadau ar gyfer nifer o weithgareddau lle y gall pobl gael gwybodaeth drwy'r Rhyngrwyd neu drwy ddulliau eraill.

Canolfannau Galw Heibio:

Rydyn ni'n rhedeg nifer o ganolfannau galw heibio, sy'n cael eu rhedeg yn lleol ac sy'n lleoliadau llai ffurfiol ar gyfer gweithgareddau wedi'u trefnu a chefnogaeth. Mae llawer o'r Canolfannau yn cynnig Clybiau Cinio a Chlybiau Penwythnos.

Hyfforddiant ar gyfer Cyflogaeth:

Mae nifer o brosiectau Hafal wedi eu llunio i alluogi pobl i baratoi ar gyfer byd gwaith. Caiff cleientiaid hyfforddiant ar gyfer cyflogaeth wedi'i gefnogi, a chael profiad o sefyllfa waith heb orfod ymdopi â'r pwysau a'r tyndra sydd yn aml i'w ganfod yn y gweithle.

Gwneud Ffrindiau:

Er mwyn lleddfu unigrwydd a ffurfio cysylltiadau cymdeithasol, mae ein gwirfoddolwyr hyfforddedig yn gweithio ochr yn ochr â chleientiaid i ddefnyddio cyfleusterau cymunedol.

Prosiectau Celf:

Mae Prosiectau Celf Hafal yn defnyddio'r holl ffurfiau celfyddyd er mwyn helpu cynhwysedd cymdeithasol a datblygu hunan-fri.

Eiriolaeth Cleifion Ysbyty:

Mae hyn yn ymwneud â gweithio gyda chleifion ysbyty benywaidd, yn unigol ac mewn grŵpiau, ar amrywiaeth o feysydd perthnasol.

Cefnogaeth Teulu ac Eiriolaeth:

Rydyn ni'n gweithio'n agos â gofalwyr ac aelodau o'r teulu, gan eu helpu i gefnogi unigolyn âg afiechyd meddwl difrifol yn y ffordd fwyaf priodol ac effeithiol posibl, yn bennaf wrth roi'r cyngor a'r wybodaeth orau iddynt, a mynediad i gefnogaeth niwtral.

Gwasanaeth Seibiant i Ofalwyr:

Mae'r gwasanaeth hwn yn gadael i'r person y gofelir amdano i gymryd rhan mewn gweithgaredd o'i ddewis ei hun, gan adael i'w gofalwr gael seibiant.

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal