Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Adferiad

Mae Rhaglen Wella Hafal yn ymagwedd gyfoes o fynd i'r afael âg afiechyd meddwl.

Recovery

Fel sefydliad a reolir gan ei aelodau - pobl â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol a'u teuluoedd - mae Hafal wedi tynnu ar flynyddoedd lawer o brofiad o fynd i'r afael ag iechyd meddwl difrifol er mwyn gwneud y Rhaglen Wella mor effeithiol ag y bo modd.

Mae tair elfen sy'n hanfodol i adferiad fel y dangosir yn y diagram gyferbyn. Mae adferiad yn dibynnu ar fodolaeth y tair elfen yma. Mae hyn yn gosod her fawr, ond y newyddion da yw bod y tair elfen yn realistic ac yn rhai y gellir eu cyflawni.

Am beth mae'r Rhaglen?

Nid yw Rhaglen Wella Hafal yn ymwneud yn unig â meddyginiaethau neu therapïau eraill sy'n delio'n uniongyrchol â'r symptomau. Gall y rhain fod yn bwysig iawn, ond mae iechyd meddwl wedi ei adeiladu ar sylfeini ehangach o lawer.

I unrhyw unigolyn, efallai mai'r cam mwyaf tuag at wella yw dod o hyd i rywle dda i fyw, cael swydd, sefydlu perthynas dda â'u teulu ... fel arfer mae ystod o wahanol bethau sy'n bwysig ar gyfer gwellhad unigolyn.

Dyma le Rhaglen Wella Hafal. Pan mae unigolion yn dioddef o afiechyd meddwl difrifol, mae'r Rhaglen Wella yn cynnig ffordd fwy methodolegol o wella'r holl agweddau ar eu bywyd.

Sut mae'r Rhaglen Wella yn gweithio?

Mae'r Rhaglen Wella yn eich annog i gael ymagwedd "Person Cyfan", gan edrych ar y rhannau canlynol o'ch bywyd er mwyn symud ymlaen:

Whole Person Diagram

Yn y broses, mae'r Rhaglen yn cynnwys holl elfennau gwasanaeth lleol Hafal, gan gynnwys:

  • Atgyfeirio
  • Cyflwyno
  • Cynllunio a gweithredu
  • Adolygu
  • Rheoli gwasanaethau
  • Grymuso ehangach.

Beth y mae pobl yn ei ddweud am y Rhaglen Wella?

Cafodd y Rhaglen Wella ymateb cadarnhaol iawn gan ein cleientiaid, sydd wedi ei disgrifio yn:

"Gadarnhaol a gobeithiol"
"Gwneud pethau neu gynllunio i wneud pethau i wella fy mywyd"
"Helpu'n hunan neu ofyn i eraill fy helpu"
"Ymddiried yn fy hunan ac eraill"
"Taith cam-wrth-gam i iechyd"
"Cael yr ansawdd gorau posibl i fywyd"
"Darganfod pethau newydd - mae'n rymusol"

Lawrlwythiwch Arweiniad Adferiad Hafal (PDF)

24 Feb 2010
Hafal yn croesawu adroddiad sy'n galw am ofal arbenigol ar gyfer carcharorion sydd ag afiechyd meddwl difrifol...Read more...

11 Feb 2010
Pwer y Bobl yn Sicrhau Deddfau Iechyd Meddwl Newydd i Gymru...Read more...

17 Dec 2009
Hyfforddiant Oedolyn Priodol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd...Read more...

10 Nov 2009
Ewch am Daith o Gwmpas Cymru yng nghynhadledd hydref "Gallwn Wneud Hyn!" Hafal...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal