Canolfan Dysgu
Hafal

Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Panel Cyfeirio Proffesiynol

  • Rheolir Hafal gan ei aelodau – pobl gydag afiechyd meddwl difrifol (cleientiaid) a’u gofalwyr – a chaiff hyn ei adlewyrchu yn ei Fwrdd Ymddiriedolwyr, sy’n cynnwys cleientiaid a gofalwyr yn bennaf.
  • Bydd yr Elusen yn parhau i gael ei reoli’n eglur gan gleientiaid a gofalwyr, ond ar yr un adeg, mae Hafal eisiau sicrhau bod profiad iechyd meddwl personol ein haelodau yn gytbwys ac yn cael ei ategu gan Banel ymgynghori, gydag arbenigedd proffesiynol o faes iechyd meddwl a meysydd eraill perthnasol.
  • Mae gan Hafal ddisgwyliadau realistig ar gyfer y Panel, ac mae felly wedi cytuno y bydd yn gweithredu dros e-bost.
  • Gofynnir am gefnogaeth achlysurol gan aelodau’r Panel ar ffurf ymatebion i ymgynghoriad ar e-bost, naill ai’n unigol (ble y byddai arbenigedd aelod penodol o’r Panel yn berthnasol) neu ar y cyd (er enghraifft, pan fydd polisi cyffredinol wrthi’n cael ei ddatblygu gan yr Elusen a bod angen amrywiaeth barn).
  • I sicrhau’r defnydd gorau, dim ond yr Ymddiriedolwyr ar y cyd neu’r Cadeirydd, y Prif Weithredwr neu Ysgrifennydd y Cwmni fydd yn cysylltu â’r Panel fel bo’n briodol.
  • Gofynnir i aelodau’r Panel ymateb yn uniongyrchol i’r anfonwr, yn hytrach na chopïo enwau holl aelodau eraill y Panel i’r neges: mae hyn, yn syml, i osgoi nifer fawr o negeseuon, ond byddwn, wrth gwrs, yn cynnig crynodeb o ymatebion y Panel fel bo’r angen. Yn amlwg, gall aelodau’r Panel ohebu â’i gilydd pan fydd diben penodol i hynny.
  • Er y byddai’r Panel yn gweithredu’n bennaf fel grwp e-bost, mae Hafal yn croesawu mewnbwn aelodau’r Panel i’n digwyddiadau, cynadleddau ac eraill, ond nid yw hyn yn hanfodol wrth gwrs.
  • Derbynnir bod unrhyw fewnbwn gan aelodau’r Panel yn dibynnu ar yr amser rhydd sydd ganddynt.
  • Nid yw aelodaeth o’r Panel yn arwydd o gefnogaeth nac ardystiad o bolisïau, cyhoeddiadau neu ymgyrchoedd Hafal, er bod Hafal yn gobeithio y bydd aelodau’r Panel yn gyfforddus â sefyllfa gyffredinol Hafal. Mae croeso i aelodau’r Panel anghytuno, ac mae hyn yn un ffordd y gall y Panel gynorthwyo’r Elusen.
  • Nid oes angen i aelodau’r Panel fod yn aelodau o Hafal, ond mae croeso iddynt ymuno os dymunant.

25 Jan 2012
Hafal yn cyhoeddi ymateb i’r Cod Ymarfer ar gyfer y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ...Read more...

19 Dec 2011
‘Nadolig i Ddefnyddiwr Gwasanaeth yng Nghymru’...Read more...

21 Nov 2011
“Mae bywyd yn ddigon caled eisoes i bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, a hynny heb unrhyw doriadau i fudd-daliadau” ...Read more...

14 Nov 2011
Rali Hydref Hafal...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal