Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Ewch am Daith o Gwmpas Cymru yng nghynhadledd hydref "Gallwn Wneud Hyn!" Hafal

10 Nov 2009 (updated: 10 Nov 2009)

Bydd gwaith Hafal ar draws 22 sir Cymru yn cael ei arddangos yng nghynhadledd hydref "Gallwn Wneud Hyn!" yr elusen sydd i'w chynnal yn Llanfair-ym-Muallt ar y 12fed o Dachwedd.

Bydd ymwelwyr â'r gynhadledd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn "Taith o Gwmpas Cymru" drwy ymweld â 22 stondin arddangos ryngweithiol a fydd yn amlygu'r ystod eang o waith sydd yn cael ei wneud gan brif elusen Cymru ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr.

Bydd nifer o seminarau a gweithdai yn cael eu cynnal drwy gydol y diwrnod gan gynnwys:

• Cyflogaeth a buddiannau: sut i gael bargen dêg ar gyflogaeth a buddiannau i bobl ag afiechyd meddwl difrifol

• Cyfiawnder Troseddol: sut i gynorthwyo pobl ag afiechyd meddwl difrifol sydd yn cael eu dal yn y system
cyfiawnder troseddol.

• Addysg a hyfforddiant: sut i sicrhau mynediad cyfartal at ddysgu.

• Rali defnyddwyr: cyfle i roi barn ar faterion ymgyrchu ac iechyd meddwl allweddol y flwyddyn sydd i ddod.
Bydd ymwelwyr hefyd yn medru siarad â staff Canolfan Dysgu Hafal am y cyfleodd dysgu; mwynhau te a choffi yng Nghaffi Rhwydwaith Hafal; cymryd rhan mewn sesiynau arbrofol o Tai Chi a rhoi rhwydd hynt i'w dawn artistig yn yr ymarfer Anarchiaeth Celf.

 

 

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal