
Bydd ymwelwyr i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael cyfle unigryw i ddysgu am wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru drwy gwrdd â'r ffigwr tylwyth teg enwog Sinderela ar stondin yr elusen iechyd meddwl Hafal.
Bydd Hafal yn amlygu cyflwr y cleifion hynny sydd wedi cael profiad gwael o ysbytai neu sydd yn teimlo eu bod wedi eu hynysu yn y gymuned drwy ddwyn paralelau, mewn modd doniol ac addysgiadol, gyda'r cymeriad llenyddol hoffus. Er bod gwelliannau wedi eu gwneud i driniaethau iechyd meddwl yng Nghymru dros y blynyddoedd, bydd staff yn rhoi gwybod i ymwelwyr fod y sector yn parhau yn wasanaeth Sinderela - yn gweithio'n galed ond wedi'i hesgeuluso; yn dlawd ac wedi ei hamddifadu o'i chyfoeth; yn cael ei chadw allan o'r golwg a byth am fynd i'r ddawns!
Gyda nifer yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ofni y gall y dirwasgiad economaidd sy'n effeithio arnom arwain o bosib at amseroedd hyd yn oed yn fwy caled i'r sawl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, bydd Hafal yn codi proffil defnyddwyr a staff y gwasanaeth iechyd meddwl yn nigwyddiad eleni drwy roi gwybod i ymwelwyr am faterion iechyd meddwl yng Nghymru a chynnig y cyfle iddynt gwrdd â Sinderela a chael cipolwg ar ei choets a fydd yn cael ei harddangos ar stondin Hafal.
Bydd rali o aelodau Hafal hefyd yn cael ei chynnal ar y stondin (ar ddydd Mercher, 5ed o Awst am 12pm) a bydd yn cael ei hannerch gan Ymddiriedolwr Hafal Ceinwen Rowlands a fydd yn amlinellu'r hyn y gall pobl ei wneud er mwyn sicrhau fod gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynnal a'u gwella. Yn dilyn y rali, bydd aelodau Hafal yn symud o gwmpas y Maes, yn cyfathrebu neges Ceinwen i wleidyddion a darparwyr gwasanaeth sydd yn bresennol yn yr Eisteddfod.
Dywedodd Bill Walden-Jones, Prif Weithredwr Hafal: "Nid ydym yn disgwyl diweddglo tylwyth teg i'r diffygion yn y gwasanaethau iechyd meddwl y mae cleifion yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Ond mae'r 1 o bob 30 person yng Nghymru sydd yn profi afiechyd meddwl difrifol megis anhwylder deubegynol neu sgitsoffrenia yn ystod eu bywyd angen cefnogaeth y cyhoedd er mwyn cael cynnig gwell.
"Byddwn yn eu hannog i helpu drwy ofyn i'w Haelod Cynulliad a'u cyngor lleol i flaenoriaethu gwasanaethau iechyd meddwl a thrwy ddangos eu cefnogaeth i'r bobl yn y gymuned sydd ag afiechyd meddwl difrifol a'u teuluoedd."