Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal yng Nghastell-nedd, ddydd Iau, 9fed o Orffennaf

07 Jul 2009 (updated: 08 Jul 2009)

EDIT.jpg

Bydd yr elusen iechyd meddwl Cymreig, Hafal, yn cynnal ei Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol ar gyfer 2009 yng Nghanolfan Chwaraeon Castell-nedd ar y 9fed o Orffennaf.

Bydd y diwrnod chwaraeon yn rhoi cyfle i bobl gydag afiechyd meddwl difrifol, a'u gofalwyr, o bob rhan o Gymru i gystadlu mewn nifer o gystadlaethau, gan gynnwys pêl-droed pump bob ochr, tynnu rhaff, taflu'r weli, bowls, rasio ceffylau, ras ŵy-ar-lwy, pêl foli, cwrs rhwystrau a Tai Chi.

Dywedodd Emma Billings, Cydlynydd y Diwrnod: "Dylai fod yn ddiwrnod hwyliog iawn ac rydym yn gwybod o'r dyddiau chwaraeon yn y gorffennol y bydd yna gystadlu brwd mewn rhai cystadlaethau!

"Mae'r diwrnod wedi'i gynllunio i gael ei fwynhau a bydd yno rywbeth ar gyfer pawb, ond mae neges ddifrifol yn cael ei chyflwyno hefyd.

"Mae astudiaethau diweddar wedi dangos nad yw iechyd corfforol a hyd oes ddisgwyliedig pobl gydag afiechyd meddwl cystal â phobl eraill. Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at gynnal iechyd corfforol fel rhan allweddol o wella o afiechyd meddwl."

 

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal