Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Llefarydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd y Ceidwadwyr yn rhoi ei gefnogaeth i Hafal

14 Apr 2009 (updated: 15 Apr 2009)

IMG_6979.JPG

Andrew RT Davies a Rheolwr Ymgyrchoedd Hafal, John Abbott

Cafodd Hafal gyfarfod â Llefarydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Gwrthbleidiol newydd y Cynulliad, Andrew R.T. Davies AC, yn ddiweddar.

Cymerodd Mr Davies, Aelod y Cynulliad ar gyfer Canol De Cymru, le Jonathan Morgan AC yn y rôl hon ddiwedd mis Chwefror a bu'r cyfarfod yma yn gyfle i Mr Davies gael gwybod am waith diweddaraf Hafal a'u prif faterion ymgyrchu.

Wrth son am y GIG dan ei strwythur newydd, nododd Mr Davies y byddai'n hanfodol cael cyfarwyddiadau clir am gyfrifoldebau ar gyfer materion iechyd meddwl ar draws Cymru o fewn y strwythur hwnnw, a rhoddodd ei gefnogaeth lawn i waith Hafal. Rhoddodd Mr Davies ei gefnogaeth hefyd i Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Iechyd Meddwl ei ragflaenydd, fydd yn y pen draw yn helpu trosglwyddo pwerau creu deddfau o'r Senedd yn San Steffan i'r Cynulliad er mwyn delio â hawliau cleifion i driniaeth ac eiriolaeth gynnar.

Roedd Mr Davies yn barod iawn i dderbyn y gwahoddiad i gyfarfod yn rheolaidd â Hafal er mwyn iddo gael gwybod y diweddaraf am y modd y mae cyflwyniad gwasanaethau a pholisïau iechyd meddwl yng Nghymru yn effeithio ar bobl gydag afiechyd meddwl difrifol.

 

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal