Yn ôl ffigyrau newydd mae mwy o gyffuriau gwrth-iselder yn cael eu rhagnodi i gleifion yng nghymoedd y De nag unrhyw ardal arall yng Nghymru a Lloegr.
Dangosodd y ffigyrau, a ryddhawyd gan y BBC yr wythnos hon, bod saith o'r "10 uchaf" o ardaloedd sy'n rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder yng Nghymru, a'r uchaf oedd Torfaen, gyda 104 o ragnodiadau i bob 1,000 o gleifion ym mis Ionawr.
Mae canllawiau NICE (y Sefydliad Cenedlaethol er Rhagoriaeth Clinigol) yn argymell bod triniaethau seicolegol sy'n cael eu targedu'n benodol at iselder, megis therapi datrys problemau, therapi ymddygiad gwybyddol (ThYG) a chwnsela, yn gallu bod yr un mor effeithiol â thriniaeth gyda chyffuriau yn achos iselder ysgafn neu gymedrol, ac y dylid cynnig y rhain fel dewis arall.
Mae NICE yn nodi na ddylid defnyddio gwrthiselyddion wrth gychwyn trin iselder ysgafn, gan fod y gymhareb risg a budd yn isel iawn.
Ar gyfartaledd, roedd cynnydd o 3.15% yn yr achosion o ragnodi gwrthiselyddion ledled Cymru yn ystod 2008, ac fe awgrymwyd bod bai mawr ar yr hinsawdd economaidd presennol am hyn.
Wrth roi ei sylwadau ar y ffigyrau, dywedodd Rheolwr Ymgyrchoedd Hafal, John Abbott, a gymerodd ran mewn trafodaeth ar y mater ar raglen newyddion Goodd Evening Wales ar Ebrill 7fed: "Mae'n annodd gwybod a yw'r dirwasgiad presennol i'w feio am y ffigyrau yma.
"Fodd bynnag, y mater sylfaenol yw bod hon yn broblem tymor hir sy'n dangos yn glir y diffyg gwasanaethau cwnsela a seicotherapi yng Nghymru. Dylid rhoi blaenoriaeth i gynnig therapïau o'r fath i bobl gydag afiechyd meddwl difrifol yn y lle cyntaf.
"Yn anffodus, nid oes gan Gymru'r rhwydwaith mewnol priodol ar gyfer seicotherapi neu ThYG tymor hir, fyddai'n atal gorddefnyddio cyffuriau o'r fath.
"Mae rhai meddygon teulu ar draws Cymru yn cynnig gwasanaethau cwnsela yn eu meddygfeydd a phractis, ond mae angen buddsoddiad sylweddol i wella'r gwasanaethau yma."
Isod, mae'r rhestr o'r 10 ardal uchaf o ran rhagnodi gwrthiselyddion fesul 1,000 o'r boblogaeth ym mis Ionawr 2009. Ffynhonnell: y Prescription Pricing Authority yn Lloegr ac Uned y Gwasanaeth Rhagnodi yng Nghymru
1.Torfaen - 104
2.Rhondda Cynon Taf - 97
3.Blaenau Gwent - 97
4.Merthyr Tudful - 97
5.Castell-nedd Port Talbot - 94
6.Pen-y-bont ar Ogwr - 94
7.Caerffili - 93
8.Blackpool - 92
9.Redcar & Cleveland - 89
10.Salford - 89
I ddarllen y stori newyddion a ddaeth a'r wybodaeth yma i'r amlwg gyntaf, ewch i: http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/south_west/7986615.stm