Mae Dirprwy Gadeirydd Ymddiriedolwyr hafal, Elin Jones, wedi ymateb i amddiffyniad Dignitas, y sefydliad o'r Swistir sy'n hyrwyddo hawl pobl i roi diwedd ar eu bywydau, dros helpu Prydeinwyr, gan gynnwys rhai cleifion seiciatrig, i roi diwedd ar eu bywydau.
Mae dros 100 o Brydeinwyr, a'r rhan fwyaf ohonynt yn derfynol wael, wedi marw yn y sefydliad dadleuol hwn a sefydlwyd yn 1998, a'r wythnos hon, yn ei gyfweliad cyntaf yn y cyfryngau am flynyddoedd lawer, dywedodd sylfaenydd Dignitas, Ludwig Minelli, bod hunanladdiad yn "bosibilrwydd rhyfeddol".
Creodd sylwadau Minelli, oedd yn cynnwys ei ddymuniad i weld cyfraith hunanladdiad gyda chymorth yn cael ei egluro'n gliriach er budd partneriaid iach pobl sy'n marw, gynnwrf yn y cyfryngau yn y DU, a dydd Iau, estynnodd cynhyrchwyr rhaglen newyddion Radio Wales, Good Evening Wales, wahoddiad i Elin ymuno â nhw ar y sioe i drafod sylwadau Minelli.
Cyn y cyfweliad gyda Peter Johnson o Radio Wales, clywodd y gwrandawyr Minelli yn nodi bod hunanladdiad yn "bosibilrwydd da iawn ar gyfer dianc" unwaith y bo pob ymdrech wedi'i gwneud i geisio datrys sefyllfa wael. Clywodd y gwrandawyr hefyd Minelli yn dod i'r casgliad bod "hunanladdiad yn bosibilrwydd rhyfeddol a roddwyd i ddynoliaeth."
Dyma drawsgrifiad o'r cyfweliad a ddilynodd:
PETER: Helo Elin, beth ydych chi'n feddwl o'r hyn oedd ganddo (Minelli) i'w ddweud?
ELIN: Wel, rwy'n credu ei fod yn drist iawn. Dwyf i ddim yn dadlau'r materion moesegol sy'n ymwneud â hunanladdiad, gan mai mater i gydwybod yr unigolyn yw hynny yn fy marn i, ac ni fyddai unrhyw un ohonom yn Hafal yn beirniadu pobl sy'n penderfynu mai'r unig ddewis iddyn nhw, yn eu sefyllfa nhw, yw hunanladdiad. Ond rwy'n teimlo bod yn rhaid iddo fod yn benderfyniad rhesymol ac mae pobl gydag afiechyd meddwl difrifol yn aml yn gallu canfod eu hunain mewn sefyllfa y mae'n bosibl ei datrys gyda help a chefnogaeth briodol gan yr holl asiantaethau sydd ar gael, ond nad ydynt, am ryw reswm neu'i gilydd, yn cael y gefnogaeth na'r cymorth hwnnw. Os ydyn nhw'n penderfynu, fel y gwnaeth fy ngŵr i, bod yn rhaid iddyn nhw ladd eu hunain, maent yn lladd eu hunain mewn ofn ac mewn anobaith llwyr, ac mae'n ddiwedd erchyll. Fe ddywedodd fy ngŵr yn ei nodyn hunanladdiad nad oedd o eisiau marw.
PETER: Nefoedd fawr! Ond roedd e'n credu mai dyna'r ffordd orau allan?
ELIN: Roedd e'n credu mai dyna'r unig ffordd allan. Roedd e'n credu bod pobl yn dod i'w ladd e.
PETER: A yw hunanladdiad byth yn benderfyniad rhesymol, Elin? All e fod yn fater o ddioddef problemau iechyd meddwl neu beidio?
ELIN: Wel, mae hi'n anodd iawn i mi roi sylw ar hynny. Yr unig beth y gallaf i ei ddweud yw y gallaf ddychmygu os ydych chi mewn poen annioddefol, neu os ydych chi'n gwybod bod gennych chi salwch terfynol, dirywiol, fyddai'n dwyn eich urddas oddi arnoch chi, fe allaf i ddeall pam y byddai pobl yn dewis rhoi diwedd ar eu bywyd eu hunain. Ond wedi byw ‘da rhywun oedd ar fin lladd ei hun am reswm cwbl ddianghenraid, ond oedd iddo fe mor anorchfygol ac mor real, ac eto'n gwybod, pe bai o ond wedi cael yr help oedd ei angen arno... mae cymaint o bobl yn y sefyllfa yna yn gweiddi allan am help. Nid ydynt yn cael yr help yna'n aml iawn gan fod y gwasanaethau cymorth ddylai fod ar gael iddynt, am ryw reswm neu'i gilydd, ddim ar gael o gwbl neu ddim ar gael ar yr adegau maen nhw eu hangen. Felly rydym ni'n clywed yn aml iawn am bobl yn disgyn trwy'r rhwyd, ac mae hynny'n wastraff bywyd.
PETER: Mae Minelli'n gwneud pwynt diddorol iawn wrth ddweud bod yr achosion o hunanladdiad sydd wedi methu, ac mae llawer o'r rheiny mewn blwyddyn, yn rhoi straen fawr ar y cyfleusterau sydd gennym ni'n barod. Oes gennych chi unrhyw gydymdeimlad â hynny?
ELIN: Oes, ac eto mae pob achos unigol yn achos unigol. Mae'n bosibl bod llawer o'r methiannau yma yn bobl nad oedd wir, o ddifrif, yn bwriadu lladd eu hunain. Roedden nhw'n gwneud rhywbeth allan o rwystredigaeth lwyr, allan o deimlad o banic neu anobaith. Unwaith eto, os oes gennym ni'r gwasanaethau cefnogi ar gael, os bydd pobl yn gallu siarad drwy'r teimladau, os allan nhw gael gafael ar y rheolaeth gyffuriau cywir, fe allan nhw ddod o hyd i ffordd well o ddatrys eu problemau, sydd ddim yn cynnwys rhoi diwedd ar fywyd dynol nac yn cynnwys rhoi diwedd ar yr holl botensial ar gyfer hapusrwydd sydd yn rhan o bob un ohonom, lle bynnag y byddwn ni.
PETER: Elin Jones, un o Ymddiriedolwyr yr elusen iechyd meddwl Cymreig, Hafal.