Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr Iechyd Meddwl Cymru yn arwain eu hymchwil eu hunain i Wasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru

20 Mar 2009 (updated: 27 Mar 2009)

Mae Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Meddwl Cymru (MHRN-C) wedi cymeradwyo nawdd ar gyfer sefydlu grŵp ymchwil arloesol a gaiff ei arwain gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.

Bydd y grŵp newydd, fydd yn gweithredu dan fantell y Rhwydwaith Ymchwil, yn cynnwys nifer o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr sy'n awyddus i dynnu sylw at werth a chanlyniadau tebygol ymchwil a arweinir gan gymheiriaid i iechyd meddwl yng Nghymru.

Cefnogwyd cais y grŵp gan Dr Anne Fothergill, Prif Ddarlithydd Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Morgannwg a Christine Wilson, Cymrawd Ymchwil yn yr un brifysgol.

Bydd y gydweithfa ymchwil newydd yn cael ei hwyluso gan John Abbott, Rheolwr Ymgyrchoedd Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr (a hefyd y prif sefydliad o ran cynnwys defnyddwyr a gofalwyr yn y Rhwydwaith Ymchwil). Bydd cefnogaeth academaidd ychwanegol ar gael i'r grŵp newydd o du mewn i'r Rhwydwaith Ymchwil.

Wrth drafod y newyddion, dywedodd John Abbott: "Bydd y grŵp ymchwil newydd yn anfon eu cais am aelodau a chefnogaeth allan ar draws Cymru gyfan, ac er bod sawl rhwystr i'w groesi o'n blaen, rydym yn gobeithio gallu sicrhau arian ychwanegol er mwyn cryfhau'r grŵp a chychwyn ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol defnyddiol ym maes Iechyd Meddwl yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn."

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â John Abbott yn Hafal: johnabbott@hafal.org neu Dr Anne Fothergill ym Mhrifysgol Morgannwg: afotherg@glam.ac.uk

Ann Confaltered.jpg

Yn y llun o'r chwith i'r dde: Dr Anne Fothergill, Vicky Yeates (Gofalwr ac Uwch Ddarlithydd y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd), Brian Mitchell (Defnyddiwr Gwasanaethau ac Aelod o Hafal), John Abbott, Julian Evans (Defnyddiwr Gwasanaethau ac aelod o Interlink).

 

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal