Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Llefarydd Iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Peter Black, yn datgan cefnogaeth i Hafal

19 Jan 2009 (updated: 26 Jan 2009)

Bu Rheolwr Ymgyrchoedd Hafal, John Abbott, yn cyfarfod Llefarydd Iechyd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Peter Black, yr wythnos hon, i drafod y materion sy'n wynebu pobl gydag afiechyd meddwl difrifol yng Nghymru.

Wrth drafod strwythur newydd y GIG, fydd yn gweld saith Bwrdd newydd yn cael eu sefydlu yn lle'r 14 Ymddiriedolaeth a'r 22 Bwrdd Iechyd Lleol presennol, dywedodd Mr Black ei fod yn gefnogol iawn o alwad Hafal i roi blaenoriaeth i iechyd meddwl.

John and Peter small.jpg

Uchod: Peter Black AC gyda Rheolwr Ymgyrchoedd Hafal. John Abbott, yn y Cynulliad

"Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bod un o'r Cyfarwyddwyr Gweithredol ar bob un o'r saith Bwrdd yn delio'n neilltuol ag iechyd meddwl.

"Bydd hyn yn sicrhau bod iechyd meddwl yn cael y sylw blaenllaw a addawyd, a bydd yn golygu y gall y saith Cyfarwyddwr Gweithredol hynny sydd â swyddogaeth iechyd meddwl gydweithio â'r GIG ar gyfer Cymru gyfan i symud polisi iechyd meddwl yn ei flaen."

Mynegodd Mr Black ei gefnogaeth i Hafal hefyd.

"Fel fy rhagflaenydd, Jenny Randerson, rwyf yn bwriadu rhoi fy nghefnogaeth lawn i waith ardderchog Hafal ar draws 22 sir Cymru. Mae Hafal yn rhoi llais ymgyrchu cryf i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ac mae hwn yn llais rwyf yn bwriadu gwrando arno."

Am y diweddaraf am ymgyrchoedd Hafal, ewch i gael golwg ar www.hafal.org

 

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal