Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Rydym ni wedi Clicio!

12 Nov 2008 (updated: 19 Nov 2008)

Bydd yr heriau a wynebir gan bobl sy’n gwella o afiechyd meddwl difrifol yn un o nifer o faterion i gael eu trafod yng nghynhadledd hydref Hafal, a gynhelir yn fuan.  Cynhelir y digwyddiad ar ddiwedd un o’r blynyddoedd mwyaf allweddol yn hanes y sector iechyd meddwl yng Nghymru.

Cerrig milltir deddfwriaethol, ymgyrchoedd llwyddiannus, trafodaethau eang a’r posibilrwydd o ddeddfau iechyd meddwl newydd – bu’n flwyddyn hynod brysur, a bu Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl sy’n dioddef o afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr, ar flaen y gad gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith yma.

Mae cynhadledd eleni, a gynhelir ddydd Iau, Tachwedd 13eg yn y Pafiliwn, Llandrindod, yn siwr o fod yn ddigwyddiad bywiog a lliwgar.  Bydd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:

·         Arddangosfa ffotograffiaeth yn dathlu ymgyrch gwrth stigma Hafal, “Ydych chi wedi Clicio?”;

·         Gweithdy a sesiynau trafod yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol mwyaf blaenllaw Cymru;

·         Gweithdy gan yr asiantaeth hysbysebu gofal iechyd gwobrwyedig, Langland;

·         “Anarchiaeth Arlunio”, cyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau Hafal fynegi eu hunain gyda phaent;

·         Sesiwn flasu Tai Chi;

·         Cyfle i archwilio ffyrdd o gyfathrebu’n effeithiol gyda’r cyhoedd am faterion iechyd meddwl.

Bydd elfen greadigol gryf i weithgareddau’r gynhadledd eleni, a’r prif atyniad fydd arddangosfa arbennig o ymgyrch gwrth stigma boblogaidd Hafal, “Ydych chi wedi Clicio?”.  Nod yr ymgyrch oedd annog defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a’r cyhoedd i gymryd lluniau gyda’u camerâu, ac wrth wneud hynny, godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl yng Nghymru.

Cafodd y detholiad amrywiol iawn o ffotograffau a gasglwyd o ganlyniad i’r ymgyrch, eu harddangos yn y Senedd i gofnodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.  Cynhaliwyd hyn yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau a gweithdai ym mhob un o siroedd Cymru.

Cafodd yr arddangosfa, a lansiwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Edwina Hart AC, lawer o sylw gan Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Bu’r arddangosfa’n destunau un o adroddiadau’r rhaglen deledu am wleidyddiaeth Cymru, am:pm ac, yn fwy diweddar, cafodd rhai o ffotograffau gorau’r ymgyrch eu dangos mewn dwy arddangosfa ffotograffiaeth fawreddog a gynhaliwyd gan y BBC yng nghanol dinasoedd Caerdydd ac Abertawe. 

Mae’n amlwg bod llawer i edrych yn ôl arno, a llawer i edrych ymlaen ato hefyd yn y sector iechyd meddwl yng Nghymru, a bydd croeso mawr i aelodau’r cyfryngau yng nghynhadledd Hafal.

“Mae hi wedi bod yn gyfnod arwyddocaol iawn i iechyd meddwl yng Nghymru,” meddai Cadeirydd Hafal, Peter Davey.

“Bydd yn cael ei chofio fel y flwyddyn pan gafwyd cyfle am newid gwirioneddol – a’r flwyddyn y gwnaeth Hafal ddatblygiadau mawr wrth lunio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl.”

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal