Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Enwebu Dysgwyr Hafal ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli Dysgwyr Oedolion NIACE

14 Aug 2008 (updated: 14 Aug 2008)

NIACE.jpg

 Chwith: Janet Davies (Cydlynydd PET ), Barbara Ballinger (Cadeirydd Aelodau TRI) ac Alan James (Is-Gadeirydd Aelodau TRI)

Y mis diwethaf, cyflwynodd y Cydlynydd PET, Janet Davies, dystysgrifau enwebu i ddysgwyr Hafal yn Ninbych-y-pysgod ar gyfer gwobrau Ysbrydoli NIACE.  Mae’r gwobrau’n dathlu cyflawniadau dysgu unigolion a grwpiau cymunedol.

 

Bu dysgwyr Hafal yn cymryd rhan yn y Prosiect PET, sef menter a ariennir gan ESF ac sydd wedi’i hanelu at ddarparu cyfleoedd dysgu o safon, gyda chymwysterau cydnabyddedig cenedlaethol mewn lleoliadau cymunedol lleol.  Gweithiodd tîm prosiect PET mewn partneriaeth agos â staff Canolfan Galw Heibio Hafal yn Ninbych-y-pysgod (TRI) er mwyn cynnal cwrs ‘Dod i Adnabod Cyfrifiadur’.  Cwblhaodd tri grŵp y cwrs, a symudodd bron bob aelod ymlaen i gyrsiau OCN eraill yn y Ganolfan Ddysgu Gymunedol gyfagos yn Ninbych-y-pysgod.

 

Cynigiodd PET a Hafal y cyrsiau canlynol i gleientiaid hefyd:

  • Ymarfer Ysgafn a Bwyta’n Iach (Arberth)
  • Celf a Chrefft - Grŵp Merched
  • Grŵp Ysgrifennu Creadigol yn TRI
  • Adeiladu Hyder yn TRI - dau gwrs ar wahân yn cynnig 15 o lefydd i unigolion.

Pan ofynnwyd beth roeddynt wedi’i gyflawni yn y prosiect, dywedodd un o’r cleientiaid: “Rwyf wedi dysgu sgiliau newydd ac rwyf yn fwy hyderus ar y cyfrifiadur ac yn tynnu lluniau.

 

“O wneud dosbarthiadau yn TRI, mae aelodau wedi mynd ymlaen i wneud cyrsiau yn ein coleg lleol, ac mae un hyd yn oed wedi mynd i weithio ar lefel gradd.

 

“Y peth gorau am fynychu prosiect Hafal yw’r teimlad o gwmnïaeth.  Rwyf wedi gwneud ffrindiau da ac wedi cyfarfod pobl sydd wedi bod drwy broblemau tebyg i fi.

 

“Mae Hafal yn sefydliad gwych, yn gefnogol iawn.  Mae yno bob tro amrywiaeth o weithgareddau ar wahanol lefelau, ac nid cefnogi pobl gyda phroblemau iechyd meddwl yn unig y maen nhw, ond hefyd y gofalwyr.”

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal