Bydd ymgyrch Ffordd at Adferiad yr elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru eleni sydd i'w chynnal rhwng Gorffennaf 19eg a'r 22ain.
Nod yr ymgyrch, a fydd yn cynnwys bws meicro VW o'r 1960au sydd wedi'i adnewyddu'n llwyr ac yn teithio drwy'r 22 sir yng Nghymru, yw lledaenu'r gair am adferiad iechyd meddwl mewn ffordd hwyliog ac addysgiadol.
Mae'r bws meicro VW yn cynnwys y teclynnau TG diweddaraf gan gynnwys pedair sgrîn gyffwrdd gyfrifiadurol y bydd yn bosib i ymwelwyr â'r Sioe Frenhinol eu defnyddio er mwyn cael gafael ar wybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd ynglŷn â gwella o afiechyd meddwl difrifol. Mae cynnydd y VW yn cael ei ddilyn drwy gyfrwng map rhyngweithiol arbennig sydd yn cael ei arddangos ar wefan arbennig sydd wedi ei pharatoi ar gyfer yr ymgyrch.
Yn ogystal â chyfathrebu nifer o negeseuon pwysig i bobl Cymru, mae'r ymgyrch wedi darparu nifer o weithgareddau haf llawn hwyl megis partïon traeth, ffordd syrffio o fyw a bwyta'n iach.
Wrth wneud sylw ar yr ymgyrch - sydd wedi ymweld hyd yma â Chaerdydd, y Barri, Casnewydd, Torfaen, Ceredigion, Caerfyrddin, Sir Ddinbych, Wrecsam, Gwynedd, Sir Fflint ac Ynys Môn - dywedodd Prif Weithredwr Hafal Bill Walden-Jones: "Mae'r bws meicro wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith yr hen a'r ifanc yn yr holl ddigwyddiadau hyd yma. Rydym wrth ein bodd fod y Sioe Frenhinol Cymru wedi'i hychwanegu i'r daith ac rydym yn rhagweld y bydd yna gryn ddiddordeb yn y cerbyd clasurol a hefyd yn ein neges ynghylch adferiad iechyd meddwl.
"Bydd tua un o bob tri deg ohonom yn profi afiechyd meddwl difrifol - sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol neu rywbeth tebyg - ac felly bydd ein neges adferiad yn bwysig mewn ffordd uniongyrchol a phersonol i nifer o unigolion a theuluoedd sydd yn ymweld â'r sioe. Mae ein neges hefyd ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol a fydd yn medru dysgu mwy am afiechyd meddwl a'r gefnogaeth y gall aelodau'r cyhoedd eu rhoi i unigolion sydd yn ei brofi."
Yn ogystal â chael cyfle i weld ein cerbyd gwersylla a mwynhau Sioe Frenhinol Cymru, bydd y sawl sy'n ymweld â stondin Hafal hefyd yn medru arwyddo cerdyn post Ffordd at Adferiad arbennig yn cynnwys neges ar faterion ymgyrchu allweddol. Byddant hefyd yn medru canfod mwy o wybodaeth am brosiect Camau Bach Hafal sydd yn darparu cymorth i bobl sy'n gwella o afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr sydd yn meddu ar ddiddordeb efallai mewn gweithgareddau'n ymwneud â gwaith fel rhan o'u hadferiad.
Mae tri amcan penodol yr ymgyrch Ffordd at Adferiad fel a ganlyn;
• Mae Cymru wedi derbyn y pŵer yn ddiweddar i greu deddfwriaeth iechyd meddwl newydd ac mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyflwyno "Mesur" drafft (cyfraith Gymreig). Hoffai Aelodau Hafal i'r gyfraith newydd ac unrhyw reoliadau cysylltiedig i roi hawl gyfreithiol i'r holl bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol i gael cynllun gofal holistaidd ac i amlinellu'r holl feysydd y dylai'r cynllun gofal eu cynnwys. Rydym yn credu y dylai cynlluniau gofal gynnwys yr holl feysydd sydd wedi eu pennu yn y Cod Ymarfer Cymreig ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl, fel a ganlyn: Triniaeth feddygol; Ffurfiau eraill o driniaeth gan gynnwys therapïau seicolegol; Gofal personol a lles corfforol; Llety; Gwaith a galwedigaeth; Hyfforddiant ac addysg; Cyllid ac arian; Agweddau cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol; Rhianta neu berthnasau gofalu.
• Rydym yn credu y dylid datblygu a darparu holl wasanaethau iechyd meddwl y dyfodol mewn ymateb i gynlluniau gofal unigolion. Byddai hyn yn golygu rhoi ‘bwydlen' o wasanaethau i bob person i ddewis ohono, fel y gallant wneud dewisiadau eu hunain mor aml â phosib yn eu hadferiad.
• Yn sgil y pwysau sydd ar wariant cyhoeddus, rydym am weld adnoddau ar gyfer iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu diogelu'n llwyr - ac am adnoddau newydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cyrraedd y safon.