Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -

13 Jul 2010 (updated: 13 Jul 2010)

Nod y diwrnod chwaraeon oedd rhoi'r cyfle i bobl ag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr o Gymru benbaladr i gystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau (gan gynnwys pêl-droed pump bob ochr, bowlio, pêl foli a Tai Chi) ac i amlygu sut y mae cynnal iechyd corfforol yn rhan allweddol o wella o afiechyd meddwl.

Wrth ysgrifennu ar ei flog, roedd Mr Walden-Jones wedi datgan mai: "Diwrnod Chwaraeon Hafal oedd y gorau eto gyda mwy na 200 o bobl yn mynychu gan gynnwys cleientiaid prosiectau Hafal yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau eraill ag anghenion acíwt a oedd wedi llewyrchu yn yr haul a mynd i'r afael yn frwdfrydig â phêl foli, pêl-droed, taflu welington a llu o weithgareddau eraill."

Dywedodd Mr Walden-Jones ei fod wedi penderfynu estyn gwahoddiad i ddigwyddiad y flwyddyn nesaf i wasanaethau acíwt eraill fel y gall ysbytai statudol a'r sector breifat drefnu fod staff gyda hwy ar gael i ddod.
Er mwyn darllen blog Bill a'i farn ar y diwrnod chwaraeon, ewch os gwelwch yn dda i: http://billwaldenjones.blogspot.com/2010/07/nice-one-cyril.html

 Sports day small.jpg

Bill and Cyril.jpg

 

Nathan small.jpg

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal