Bydd Hafal yn cynnal ei Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol 2010 yng Nghanolfan Chwaraeon Castell-nedd ar Orffennaf 8fed.
Bydd y diwrnod chwaraeon yn rhoi'r cyfle i bobl ag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr o Gymru benbaladr i gystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys pêl-droed pump bob ochr, tynnu rhaff, taflu welington, bowlio, rasio ceffylau, ras wy a llwy, pêl foli, y cwrs rhwystrau a Tai Chi.
Dywedodd Emma Billings, Cydlynydd Digwyddiadau yn Hafal: "Beth bynnag fo'r tywydd, mae'n mynd i fod yn ddiwrnod llawn hwyl i gleientiaid, gofalwyr a staff gan y bydd yna ddigon i bawb i'w wneud.
"Mae'r diwrnod wedi ei gynllunio i'w fwynhau ac mae yna rywbeth at ddant pawb, ond mae neges ddifrifol y tu nôl iddo hefyd. Bydd y digwyddiad hwn yn amlygu sut y mae cynnal iechyd corfforol yn rhan allweddol o wella o afiechyd meddwl."
Wrth wneud sylw ar sut y mae'r digwyddiad wedi datblygu dros y blynyddoedd, dywedodd Prif Weithredwr Hafal Bill Walden-Jones: "Pan awgrymwyd cynnal digwyddiad o'r math hwn am y tro cyntaf rhai blynyddoedd yn ôl, rwy'n barod i gyfaddef fy mod braidd yn amheus ynglŷn â faint o gleientiaid Hafal a fyddai am fynd ati i gymryd rhan mewn rownd egnïol o ddigwyddiadau chwaraeon; ond roedd fy holl amheuon yn ddi-sail ac mae'n anodd i ni erbyn hyn i reoli'r niferoedd sydd yn cynyddu bob blwyddyn - mae digwyddiad eleni wedi denu mwy na 200 i ofyn am le!
"Mae yna frwdfrydedd eithriadol ynghylch y digwyddiadau chwaraeon cystadleuol sydd yn cael eu cynnig ar y diwrnod ac mae hyn yn tanseilio'r syniad fod ein cleientiaid yn ffafrio gwasanaethau goddefol a rhai na sy'n herio. Rwy'n credu hefyd fod yna gryn dipyn o waith i'w wneud er mwyn caniatáu pobl ag afiechyd meddwl difrifol i gael mynediad at chwaraeon prif ffrwd ac adnoddau hamdden - ac mae'r digwyddiad blynyddol hwn eisoes wedi ysbrydoli nifer o'n gwasanaethau lleol i agor y drysau hynny i ganolfannau hamdden, crwydro ac yn y blaen."