Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Hafal yn ennill pumed 'Gwobr y Gymraeg Mewn Gofal Iechyd'

28 May 2010 (updated: 04 Jun 2010)

Mae'r elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal wedi cadarnhau ei statws ddoe fel arweinydd o safbwynt darparu gwasanaethau iaith Gymraeg wedi iddi ennill ei phumed 'Gwobr y Gymraeg Mewn Gofal Iechyd'.

Enillodd yr elusen y wobr am y pwyslais sy'n cael ei roi ar y Gymraeg gan y Gwasanaeth Cyswllt sydd yn darparu mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned ar gyfer y sawl sy'n dod i gysylltiad â'r System Cyfiawnder Troseddol ac sy'n meddu ar afiechyd meddwl. Mae'r gwasanaeth, sy'n cael ei ariannu gan y Loteri Fawr a Sefydliad Lloyds TSB, hefyd yn darparu cyngor arbenigol i fenywod o Gymru sydd yn cael eu hail-integreiddio i gymunedau ar ôl cael eu rhyddhau o garchar.

Dywedodd Penny Cram, Prif Swyddog y Gwasanaeth Cyswllt: "Mae cynnig gwasanaeth dwyieithog o hyd wedi bod yn flaenoriaeth ac mae ein holl wybodaeth argraffedig ac ar-lein ar gael mewn Cymraeg syml, hawdd ei deall.

"Un mater i'n cleientiaid benywaidd yw nad oes yna garchardai yng Nghymru ar gyfer menywod. Golyga hyn na fydd llawer o garcharorion Cymreig benywaidd yn derbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf, sydd yn gallu arwain atynt yn methu ag ymwneud â'r gwasanaethau hynny. Mae Gwasanaeth Cyswllt Hafal wedi ei ymrwymo i ddarparu gwybodaeth ddwyieithog gynhwysfawr i'r cleientiaid yma ynghyd â chefnogaeth oddi wrth Swyddog Cyswllt Cymraeg ei iaith."

Mae'r wobr yn cynnwys £1000 a fydd yn cael ei ddefnyddio i lunio cardiau cyswllt dwyieithog ar gyfer carcharorion benywaidd y tu allan i Gymru.

 

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal