Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Hafal i gynnal seminar ar “Tyfu Lan ac Afiechyd Meddwl Difrifol”

10 May 2010 (updated: 11 May 2010)

Mae Hafal, prif elusen Cymru ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr, yn cynnal seminar yr wythnos hon yn y Media Resource Centre yn Llandrindod â'r teitl: Tyfu Lan ac Afiechyd Meddwl Difrifol: Seminar i ystyried profiad plant a phobl ifanc o afiechyd meddwl difrifol hyd at 25 mlwydd oed.

Dywed Prif Weithredwr Hafal, Bill Walden-Jones, mai amcan y seminar yw: "I edrych o'r newydd ar bwnc cymhleth drwy wrando'n uniongyrchol ar brofiadau unigolion sydd wedi profi afiechyd meddwl difrifol yn ystod eu plentyndod, eu blaenlencyndod a'u blynyddoedd cynnar fel oedolion a thrwy glywed oddi wrth y rhai hynny sy'n chwarae rhan yn y broses o gynllunio a darparu eu gofal a chefnogaeth."

Bydd Tyfu Lan ac Afiechyd Meddwl Difrifol yn:

• Canfod y materion allweddol hynny sy'n rhan o afiechyd meddwl difrifol wrth iddo ddechrau a datblygu'n hwyrach mewn plant, y glasoed ac oedolion ifanc.

• Cytuno ar gynllun gweithredu er mwyn taro cydbwysedd rhwng cynnal plant a'r glasoed mewn gwasanaethau prif ffrwd lle bynnag bo'n bosibl tra'n sicrhau ar yr un amser argaeledd gofal a chefnogaeth briodol ac amserol pan fo problemau difrifol yn dod i'r amlwg.

Bydd Cyfranogwyr Allweddol yn y seminar yn cynnwys:

Dr Mike Shooter CBE, Cadeirydd, Meddyliau Ifanc a Phlant yng Nghymru, cyn Llywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a chyn Ymgynghorydd Seiciatryddol i Blant a'r Glasoed, Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwent.

Yr Athro Richard Williams OBE TD, Athro Strategaeth Iechyd Meddwl, Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Morgannwg.

Yr Athro Richard P Bentall, Athro Seicoleg Glinigol, Prifysgol Bangor.

Dr David Williams, Ymgynghorydd Proffesiynol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Julie Edwards, Swyddog Polisi, Y Comisiynydd Plant i Gymru.

Sonja Hookway, Cydlynydd Iechyd Meddwl, Prifysgol Abertawe

Chris Eastwood, Ymddiriedolwr Hafal sydd â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol.

Collette Dawkin, Ymddiriedolwraig Hafal sydd â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol.

Lee McCabe, Ymarferydd Adferiad Hafal sydd â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol.

• Pobl ifanc sydd â phrofiad perthnasol o broblemau iechyd meddwl.

Yn ogystal â dod â defnyddwyr gwasanaethau ynghyd gydag asiantaethau allweddol, bydd Tyfu Lan ac Afiechyd Meddwl Difrifol yn cynnwys nifer o sesiynau gweithdy rhyngweithiol a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu datrysiadau i faterion penodol gan gynnwys: cyfarparu gwasanaethau plant a'r glasoed prif ffrwd (nid iechyd meddwl) i gefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl a datblygu gwasanaethau hyblyg sydd wedi eu canolbwyntio ar y person (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ac Iechyd Meddwl Oedolion) sydd yn diwallu anghenion plant, y glasoed a phobl ifanc hyd at 25 mlwydd oed.

Mae Hafal ar hyn o bryd yn datblygu gwasanaethau sydd wedi eu hanelu'n benodol at blant a phobl ifanc a fydd yn cael eu lansio gennym yn ystod y digwyddiad. Mae'r rhain yn cynnwys:

• Arweinydd Pobl Ifanc Cenedlaethol.
• Canolfan Wybodaeth i Bobl Ifanc.

Bydd Hafal yn defnyddio'r wybodaeth a'r syniadau a fydd yn cael eu rhannu yn ystod y diwrnod i:

• Gyhoeddi cynllun gweithredu sydd wedi ei anelu at wella argaeledd, ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaethau sy'n cefnogi'r plant a phobl ifanc hynny yng Nghymru sydd yn profi afiechyd meddwl difrifol.

• Gyhoeddi canllaw ar gyfer pobl ifanc a mudiadau pobl ifanc.

• Lywio ein gwaith parhaus gyda phlant a phobl ifanc.

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal