ACau yn gwrando ar dystiolaeth gan Hafal ar Fesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru).
22 Apr 2010 (updated: 26 Apr 2010)
Mae Aelodau o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwrando heddiw ar dystiolaeth gan Hafal ar Fesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru).
Bydd y Mesur Arfaethedig, sydd wedi ei ddisgrifio fel "eiliad hanesyddol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru", yn gosod dyletswyddau ar Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol yng Nghymru o safbwynt asesu iechyd meddwl a thrin salwch meddwl ac o safbwynt eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol i gleifion cymwys. Roedd y pwyllgor, a gadeiriwyd gan yr AC dros Orllewin De Cymru, Dr Dai Lloyd, wedi gwrando ar dystiolaeth y bore yma gan yr Arweinydd Practis (Hyfforddiant) Sue Barnes a'r Ymarferydd Adferiad Lee McCabe.
Mae Hafal yn croesawu llawer o'r Mesur Arfaethedig ar y cyfan; fodd bynnag, pwysleisiodd Sue wrth aelodau'r pwyllgor yr angen am gyfyngiad amser y gellir ei orfodi'n gyfreithiol o'r amser y mae meddyg teulu yn atgyfeirio claf am asesiad am wasanaethau iechyd meddwl eilaidd i'r asesiad hwnnw yn cael ei gynnal.
Pwysleisiodd Sue a Lee hefyd y pwysigrwydd o gyfyngiad amser y mae modd ei weithredu'n gyfreithiol o safbwynt creu cynllun gofal y claf.
Er mwyn edrych ar y dystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.senedd.tv/index.jsf