Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru



Hafal yn croesawu Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru)

23 Mar 2010 (updated: 01 Apr 2010)

Mae'r elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal wedi croesawu'r Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru) a gyflwynwyd i'r Swyddfa Gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol ddoe, a bydd yn cael ei gyflwyno gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Edwina Hart yn y cyfarfod llawn heddiw.

Mae'r Mesur arfaethedig yn gosod dyletswydd ar Fyrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perthynas ag asesu iechyd meddwl a thrin anhwylder meddwl ac mewn perthynas ag eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion cymwys.

Dyfynnir Hafal yn y Memorandwm Esboniadol ar gyfer y Mesur o dan "Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir iddi ei chael" fel a ganlyn:

Mae sefydliadau wedi cyflwyno adroddiadau ar agweddau defnyddwyr gwasanaethau ac mae'r rheini'n tynnu sylw at y pwysigrwydd o gael asesiad a thriniaeth fuan ar gyfer salwch meddwl: "...mae cleientiaid a gofalwyr yn gwybod o brofiad os bydd person yn cael triniaeth ar gyfer salwch meddwl yn fuan y bydd yn llawer llai tebygol o fynd mor sâl fel bod arno angen triniaeth dan orfodaeth" (Hafal, 2007).

Dywedodd Prif Weithredwr Hafal, Bill Walden-Jones: "Gwerth canolog y Mesur arfaethedig yw ei fod yn rhoi hawl gyfreithiol i bobl sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i gael cynllun gofal. Mae ein cleientiaid yn gwybod o brofiad bod yna well siawns o wella pan fo cynllun gofal a thriniaeth cynhwysfawr mewn lle. Rydym wrth ein bodd bod y Mesur arfaethedig yn cydnabod pwysigrwydd cynllunio gofal a gobeithiwn y bydd yna gyfeiriad at God Ymarfer Cymru ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl sydd yn darparu cynsail cyfreithiol amlwg ar gyfer pa feysydd y dylid eu cynnwys mewn cynllun gofal.

"Er bod yna gryn dipyn i'w ganol yn y Mesur arfaethedig, rydym yn credu bod angen mynd i'r afael ag un mater yn benodol; mae'n hanfodol fod yna amserlen wedi'i phennu'n gyfreithiol rhwng cael eich atgyfeirio yn y lle cyntaf gan Feddyg Teulu a chreu cynllun gofal ar gyfer y sawl yr aseswyd bod angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd arnynt. Mae ein Haelodau yn ymwybodol ei fod yn hynod bwysig i greu cynllun gofal cyn gynted â phosib er mwyn atal cleifion rhag gwaethygu ac i symud ymlaen mor bositif ac effeithiol ar y pwynt cynharaf."

Pan gynigiodd y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Iechyd Meddwl, dywedodd Jonathan Morgan AC fod y darn o dystiolaeth fwyaf cymhellol ynghylch yr angen dybryd i ddiwygio wedi dod o'r defnyddiwr gwasanaethau ac aelod staff Hafal erbyn hyn, Lee McCabe. Wrth siarad am y Mesur arfaethedig, dywedodd Lee: "Mae hon yn eiliad hanesyddol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru a fydd yn cael ei hystyried yn drobwynt o safbwynt darparu hawliau allweddol i gleifion ag afiechyd meddwl difrifol.

"Bydd unrhyw un sydd ag afiechyd meddwl difrifol yn croesawu'r diwrnod pan roddwyd hawl gyfreithiol i ddefnyddwyr gwasanaethau i gael cynllun gofal a thriniaeth cynhwysfawr gan fod hyn yn gam mor bwysig tuag at adferiad. Bydd yr hawl gyfreithiol i gael cynllun gofal yn atal nifer o bobl rhag gwaethygu gymaint fel bod rhaid iddynt gael triniaeth dan orfodaeth sydd yn brofiad dinistriol a gwrth-therapiwtig. Ond bydd rhaid i ni sicrhau bod y rheoliadau yn amlinellu'n ddigon clir y meysydd hynny y dylid eu cynnwys yn y cynllun gofal a thriniaeth er mwyn sicrhau ei fod mor effeithiol â phosib."

Mae ymateb Hafal i agweddau manwl o'r Mesur fel a ganlyn:

1. I ddarparu asesiad iechyd meddwl unigolyn a, lle bo hynny'n briodol, trin ei anhwylder meddwl o fewn gofal sylfaenol, drwy roi dyletswydd statudol ar Fyrddau Iechyd lleol ac awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod rôl holl bwysig gofal sylfaenol wrth ddarparu gofal a thriniaeth effeithiol ar gyfer iechyd meddwl. Nod y Mesur arfaethedig yw cryfhau'r rôl honno fel bod yna wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol ledled Cymru. Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol fydd yn darparu'r rhain mewn partneriaeth a disgwylir i'r gwasanaethau hyn weithredu ochr yn ochr â meddygfeydd teulu.

Ymateb Hafal: Bydd hyn yn rhoi cysondeb i wasanaethau gofal sylfaenol; er y buaswn yn hoffi i'r Mesur i gynnwys darpariaethau i sicrhau bod pobl yn cael eu rhoi ar y trywydd cyflym am asesiad os ydynt angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Bydd hefyd angen i ni sicrhau na fydd cyfrifoldebau newydd ar lefel gofal sylfaenol yn difrïo'r adnoddau sydd eu hangen ar wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

2. I greu gofynion statudol mewn perthynas â chynllunio gofal a thriniaeth a chydlynu gofal i bob unigolyn sy'n derbyn gofal a thriniaeth o fewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Bydd y Mesur arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol bod yna gynllun gofal a thriniaeth ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaethau 18 oed a hŷn yr aseswyd bod angen gofal a thriniaeth arnynt yn y gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Ymateb Hafal: Dyma elfen bwysicaf y Mesur. Mae'n ofynnol bod y rheoliadau sydd yn cael eu datblygu o dan y Mesur yn gyfarwyddol er mwyn sicrhau bod cynlluniau gofal cyson, holistaidd ac wedi eu ffocysu ar adferiad yn cael eu creu ar gyfer yr holl gleifion cymwys.

Mae cynsail delfrydol gennym ar gyfer hyn yng Nghod Ymarfer Cymru ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl a oedd yn ei gwneud yn ofynnol bod cleifion sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn gorfod cael cynllun gofal cynhwysfawr sydd yn cynnwys y meysydd canlynol: Triniaeth feddygol; Ffurfiau eraill o driniaeth gan gynnwys therapïau seicolegol; Llety; Gwaith a galwedigaeth; Hyfforddiant ac addysg; Cyllid ac arian; Cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol; Rhianta neu berthnasau gofalu.

Estynnwyd yr arfer hwn yn ehangach ym Mai 2009 wedi i'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi canllaw yn datgan y "dylid defnyddio'r" gofynion sydd wedi eu hamlinellu yn yng Nghod Ymarfer Cymru ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl "fel arfer da ar gyfer yr holl gynlluniau gofal manylach".

3. Ei gwneud yn ofynnol bod gan wasanaethau iechyd meddwl eilaidd drefniadau i sicrhau bod cyn-ddefnyddwyr gwasanaethau yn medru cael asesiadau mewn da o bryd.

Bydd hyn yn galluogi unigolion sydd wedi'u rhyddhau o'r gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, ond sy'n credu wedyn bod cyflwr eu hiechyd meddwl yn dirywio i'r fath raddau fel bod angen gofal a thriniaeth arnynt eto, gyfeirio'u hunain yn ôl at y gwasanaethau eilaidd yn uniongyrchol, heb fod angen iddynt o reidrwydd gael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau hynny gan eu Meddyg Teulu neu gan rywun arall. Bydd yn ofynnol i Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol sefydlu trefniadau i dderbyn hunanatgyfeiriadau o'r math hwn, a chynnal asesiadau mewn da o bryd.

Ymateb Hafal: Mae hyn i'w groesawu gan y bydd yn osgoi'r broblem o gleifion yn gorfod cychwyn drwy'r system o'r dechrau dro ar ôl tro (y "drws troi").

4. Ehangu'r grŵp 'cleifion cymwys' o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 sydd â hawl i gael cymorth gan Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol (EIMA), fel bod modd i bob claf sy'n ddarostyngedig i bwerau ffurfiol y Ddeddf gael cymorth EIMA os gofynnant amdano.

Ar hyn o bryd, mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn ei gwneud yn bosibl i gleifion sy'n ddarostyngedig i'r adrannau tymor hwy i gael cymorth a chefnogaeth oddi wrth EIMA. Ar hyn o bryd, nid yw'r fath eiriolwyr hyn ar gael i'r cleifion hynny sy'n perthyn i adrannau brys, tymor byrrach y Ddeddf. Bydd y Mesur arfaethedig hwn yn darparu y gall y cleifion hyn gael cymorth EIMA os ydynt yn dymuno. Drwy ehangu'r cynllun EIMA fel hyn, gellir sicrhau fod pob unigolyn sy'n ddarostyngedig i Ddeddf 1983 yn medru cael cymorth a chefnogaeth annibynnol gan eiriolwr os mai dyma yw eu dymuniad.

Ymateb Hafal: Mae hyn yn gam unioni pwysig a fydd yn sicrhau fod pobl sydd yn ddarostyngedig i'r Ddeddf Iechyd Meddwl - ond na sydd â hawl i eiriolydd o dan y Ddeddf - nawr yn derbyn yr hawl honno.

5. Galluogi pob claf sy'n cael gofal a thriniaeth ar gyfer anhwylder meddwl mewn ysbyty i gael mynediad at EIMA arbenigol.

Yn achos llawer o gleifion sy'n derbyn gofal a thriniaeth yn yr ysbyty am eu problemau iechyd meddwl, ni chânt eu cadw'n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 - cleifion gwirfoddol (neu anffurfiol) ydynt. Weithiau mae angen cymorth eiriolwr ar y cleifion hyn yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty, ond efallai na fydd gwasanaethau o'r fath ar gael bob amser. Bydd y Mesur arfaethedig hwn yn creu dyletswyddau statudol i sicrhau bod cymorth a chefnogaeth o'r fath ar gael i bob claf mewnol. Bydd eiriolaeth yn helpu cleifion mewnol i wneud penderfyniadau deallus am eu gofal a'u triniaeth, a'u helpu i gael llais.

Ymateb Hafal: Mae'r estyniad sylweddol yma o eiriolaeth i'r holl gleifion sydd yn yr ysbyty yn gymesur ac yn mynd i ddarparu hawl bwysig i nifer o bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol ond na sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Er mwyn darllen y Mesur arfaethedig, ewch i: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislation-measures-mhs-2.htm

Mae'n bosib lawrlwytho Deddf Iechyd Meddwl 1983: Cod Ymarfer Cymru drwy fynd i: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm?act=dis&id=96162&ds=9/2008

Mae meysydd y cynllun gofal sy'n cael eu diffinio yn y Cod yn cynnwys: Triniaeth feddygol; Ffurfiau eraill o driniaeth gan gynnwys therapïau seicolegol; Llety; Gwaith a galwedigaeth; Hyfforddiant ac addysg; Cyllid ac arian; Cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol; Rhianta neu berthnasau gofalu.

Er mwyn darllen stori newyddion BBC Wales ar y Mesur arfaethedig, ewch os gwelwch yn dda i: http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8580317.stm

 

 

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...


Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal