Barn Lee
Barn Lee ar y Cod Ymarfer drafft ar gyfer Rhannau 2 a 3 o’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru)
Roedd y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) (cyfraith Gymreig) wedi ei gymeradwyo yn hwyr ym 2010 ac mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd gyda defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr ac eraill am y Cod Ymarfer cysylltiedig sydd yn amlinellu’r egwyddorion arweiniol a’r canllawiau practis ar gyfer gweithredu’r Mesur.
Mae’r tudalennau canlynol wedi eu hymrwymo i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cod Ymarfer drafft ar gyfer Rhannau 2 a 3 o’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Mae Rhan 2 o’r Mesur yn ymwneud â:
· apwyntio cydlynwyr gofalwyr fel rhan o’r broses o gynllunio a chydlynu gofal; a
· cynlluniau gofal a thriniaeth ar gyfer pobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
Mae Rhan 3 o’r Mesur yn ymwneud â:
· cyn-ddefnyddwyr o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd; a
· darparu hawl iddynt i atgyfeirio eu hunain yn ôl i wasanaethau eilaidd am asesiad yn uniongyrchol.
Isod, byddwch yn canfod ymateb i’r ymgynghoriad sydd yn cael ei arwain gan Lee McCabe ac sydd yn adnabod y gwelliannau allweddol y mae modd eu gwneud i’r Cod drafft ar gyfer Rhannau 2 a 3 o'r Mesur ynghyd â dolenni defnyddiol at wybodaeth bellach...

· Cliciwch yma er mwyn darllen barn Lee ar y Cod Ymarfer drafft ar gyfer Rhannau 2 a 3 o’r Mesur Iechyd Meddwl (Cymru); mae’r farn hon yn cael ei chefnogi gan Hafal, y Sefydliad Iechyd Meddwl a MDF the Bipolar Organisation Cymru.
· Cliciwch yma er mwyn darllen ymateb ffurfiol Hafal i’r ymgynghoriad.
· Cliciwch yma er mwyn darllen y Cod Ymarfer drafft.
· Am fanylion am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y digwyddiadau ymgynghori, cliciwch yma.
· Er mwyn darllen y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), cliciwch yma.
· Er mwyn darllen “Barn Sue”, persbectif defnyddiwr gwasanaeth ar y Rheoliadau ar gyfer y Mesur a gyhoeddwyd ynghynt yn 2010, cliciwch yma.
· Am wybodaeth gyffredinol ar iechyd meddwl, ewch i wefannau Hafal a Sefydliad Iechyd Meddwl.
Sut y mae modd i mi gefnogi Lee?
· Os ydych yn paratoi ymateb manwl i’r ymgynghoriad, yna sicrhewch eich bod yn datgan eich cefnogaeth i Farn Lee yn eich ymateb chi. Mae manylion ynghylch sut i ymateb i’w canfod yma.
· Os ydych chi neu’ch grŵp am gefnogi Lee yn unig, mae’n bosib i chi fy e-bostio ar leesview@hafal.org yn datgan eich cefnogaeth. Fel arall, mae modd i chi argraffu a chasglu llofnodion ar Ffurflen Ymateb Barn Lee a’i dychwelyd i mi. Pa bynnag ffordd, byddaf yn sicrhau bod eich ymateb yn cael ei yrru i Lywodraeth Cymru.
|