Canolfan Dysgu
Hafal

Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Ymunwch

Os ydych chi eisiau dod yn aelod o Hafal, gallwch lawrlwytho'r ffurflen aelodaeth yma.

Pam ymaelodi?

Mae bod yn aelod o Hafal yn golygu eich bod yn gallu cymryd rhan yn llywio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl yn lleol, ledled Cymru a ledled y DU. Er enghraifft, mae Hafal yn cynrychioli teuluoedd ar grŵp Cynghori ar Weithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n cynghori ar Strategaeth Iechyd Meddwl Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU fel ei gilydd yn gwrando ar Hafal, ond mae mwy o aelodau yn golygu mwy o awdurdod a mwy o ddylanwad.

Beth fydda' i'n ei dderbyn?

  • Cefnogaeth gilyddol
    Ledled Cymru mae rhwydweithiau lleol Hafal yn cynnig cefnogaeth, help ymarferol, a'r cyfle i rannu profiadau, gwneud ffrindiau newydd ac ymgyrchu ar faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl. Mae aelodaeth yn dal y rhwydweithiau at ei gilydd ac yn rhoi llais i gyfranogwyr ynghylch sut rydyn ni'n symud ymlaen gyda'n gilydd.
  • Help ymarferol
    Mae Hafal yn cynnig ystod eang o wasanaethau i'r rhai sy'n profi afiechyd meddwl difrifol, i'w teuluoedd a'u gofalwyr. Gweler ein tudalen gwasanaethau i ddarganfod mwy.
  • Diwrnodau hyfforddi a chynhadledd
    Mae Hafal yn cynnig ystod o ddiwrnodau hyfforddi a chynhadledd sy'n aml am ddim i aelodau.
  • Gwybodaeth
    Rydyn ni'n darparu ystod o daflenni ffaith o ansawdd, taflenni a llyfrynnau ar nifer o wahanol bynciau gan gynnwys y triniaethau diweddaraf, hawliau, buddion, materion yn ymwneud â thai ac yn y blaen. Rydyn ni hefyd yn hysbysu Aelodau drwy ein cyfnodolyn Iechyd Meddwl Cymru a phost-dafliadau.
  • Llais
    Caiff aelodau'r cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o afiechyd meddwl difrifol a chodi proffil Hafal; er enghraifft, mae gennym stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn.

Faint fydd y gost?

£1 yn unig yw'r tanysgrifiad aelodaeth lleiaf; mae'r raddfa hon yn sicrhau y gall pobl â thrafferthion ariannol ymuno â ni. Mae pob aelodaeth yn costio tua £15 y flwyddyn am argraffu a phostio i Hafal, ac felly croesawn roddion mwy!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lianne Jeffrey ar 01792 816 600, neu hafal@hafal.org

25 Jan 2012
Hafal yn cyhoeddi ymateb i’r Cod Ymarfer ar gyfer y Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) ...Read more...

19 Dec 2011
‘Nadolig i Ddefnyddiwr Gwasanaeth yng Nghymru’...Read more...

21 Nov 2011
“Mae bywyd yn ddigon caled eisoes i bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol, a hynny heb unrhyw doriadau i fudd-daliadau” ...Read more...

14 Nov 2011
Rali Hydref Hafal...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal