Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Hafal Gwynedd

Ynys Môn | Gwynedd | Conwy | Sir Ddinbych | Sir y Fflint | Wrecsam | Powys | Ceredigion | Sir Benfro | Sir Gaerfyrddin | Abertawe| Castell Nedd Port Talbot | Pen-y-Bont ar Ogwr | Rhondda Cynon Taf | Merthyr Tudful | Caerffili | Blaenau Gwent | Torfaen | Sir Fynwy | Casnewyyd | Caerdydd | Bro Morgannwg

Gwasanaethau Hafal yn Gwynedd ar gyfer cleientiaid a theuluoedd:

  • Gwasanaeth Cymorth teulu
  • Seibiant ar gyfer Gofalwyr
  • Canolfan Adnoddau
  • Asesiad Gofalwyr
  • Cefnogaeth Gyffredinol
    • Gwybodaeth
    • Cyngor
    • Grŵpiau
    • Cyfeillio
    • Llais o fewn cynllunio

Mae Hafal Gwynedd yn helpu pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol a'u teuluoedd i weithio tuag at adferiad. Mae pob un o'n gwasanaethau wedi'i gynnal gan Raglen Arferiad Hafal, sy'n galluogi cleientiaid a theuluoedd i reoli'u bywydau ac i adfer.

Mae Rhaglen Wella Hafal yn ymagwedd gyfoes o fynd i'r afael ag afiechyd meddwl.

Fel sefydliad a reolir gan ei aelodau - pobl â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol a'u teuluoedd - mae Hafal wedi tynnu ar flynyddoedd lawer o brofiad o fynd i'r afael ag iechyd meddwl difrifol er mwyn gwneud y Rhaglen Wella mor effeithiol ag y bo modd.

Am beth mae'r Rhaglen?

Nid yw Rhaglen Wella Hafal yn ymwneud yn unig â meddyginiaethau neu therapïau eraill sy'n delio'n uniongyrchol â'r symptomau. Gall y rhain fod yn bwysig iawn, ond mae iechyd meddwl wedi ei adeiladu ar sylfeini ehangach o lawer.

I unrhyw unigolyn, efallai mai'r cam mwyaf tuag at wella yw dod o hyd i rywle dda i fyw, cael swydd, sefydlu perthynas dda â'u teulu ... fel arfer mae ystod o wahanol bethau sy'n bwysig ar gyfer gwellhad unigolyn.

Dyma le Rhaglen Wella Hafal. Pan mae unigolion yn dioddef o afiechyd meddwl difrifol, mae'r Rhaglen Wella yn cynnig ffordd fwy methodolegol o wella'r holl agweddau ar eu bywyd.

Whole Person Diagram

Sut mae'r Rhaglen Wella yn gweithio?

Mae'r Rhaglen Wella yn eich annog i gael ymagwedd "Person Cyfan", gan edrych ar y rhannau canlynol o'ch bywyd er mwyn symud ymlaen:

Yn y broses, mae'r Rhaglen yn cynnwys holl elfennau gwasanaeth lleol Hafal, gan gynnwys:

  • Atgyfeirio
  • Cyflwyno
  • Cynllunio a gweithredu
  • Adolygu
  • Rheoli gwasanaethau
  • Grymuso ehangach.

I gysylltu â Hafal Gwynedd:

Heather Russell-Hughes, Rheolwr Gwasanaeth
Arosfa
110 Y Stryd Fawr
Porthmadog
GWYNEDD LL49 9NW

Ffôn: 01766 513800
E-Bost: gwyneddarosfa@hafal.org

Y Tîm Rheoli

Alun Thomas, Dirprwy Brif Weithredwr
Janet Randles & Teresa Petrykowski, Rheolwr Rhanbarthol (Gogledd Cymru)
ebost: operations@hafal.org
Ffon: 01792 816 600

Download Gwynedd Leaflet

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...

07 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal ...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal