Croeso i ymgyrch Hafal Ffordd at Adferiad 2010!

Bydd yr ymgyrch, Y Ffordd Tuag at Adferiad, yn arwain bws meicro VW Hafal i deithio drwy Gymru'r haf hwn gyda 22 digwyddiad sirol er mwyn lledaenu'r gair am adferiad o afiechyd meddwl difrifol. Cliciwch yma i weld pa bryd fydd y bws yn agos i chi.

Yn ogystal â chyfathrebu nifer o negeseuon pwysig i bobl Cymru, bydd yr ymgyrch hefyd yn cynnig gweithgareddau haf llawn hwyl: bydd y 22 digwyddiad yn cynnwys themâu megis partïon traeth, ffordd syrffwyr o fyw, bwyta'n iach ayyb. Bydd ymwelwyr hefyd yn medru arwyddo cerdyn post Y Ffordd Tuag at Adferiad arbennig a fydd yn cynnwys neges am faterion ymgyrchu allweddol (gweler islaw).

Bydd y bws meicro yn cynnwys swît wybodaeth ryngweithiol gyda chyfrifiaduron sgrîn gyffwrdd a chysylltiad cyflym i'r we. Ewch i ddal y bws yn eich sir er mwyn canfod mwy am Hafal, adferiad a thaith 2010 ar draws Cymru!

Y NEWYDDION DIWEDDARAF!

Roedd ein hymgyrch Ffordd at Adferiad, a arweiniodd at fws meicro VW yn teithio o gwmpas holl siroedd Cymru i ganfod yr hyn y mae defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn ei ddymuno gan wasanaethau lleol, wedi cyrraedd yr uchafbwynt drwy orffen yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd.
 
Wrth wneud sylw ar lwyddiant yr ymgyrch, dywedodd Prif Weithredwr Hafal Bill Walden-Jones: “Roedd y digwyddiadau a gynhaliwyd ar draws y wlad yn llawn hwyl ac yn lliwgar yn ogystal â bod yn addysgiadol; roeddynt yn ymdrech tîm gwych ac o’r herwydd wedi derbyn llawer iawn o sylw gan y cyhoedd a’r wasg.” 
 
Er mwyn darllen am ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, ewch os gwelwch yn dda i: http://www.mentalhealthwales.net/mhw/news.php?id=837

 

Cliciwch yma i weld pa bryd fydd y bws yn agos i chi!

Road to recovery map Gwynedd Ynys Môn Conwy Denbighshire Flintshire Wrexham Powys Monmouthshire Torfaen Newport Blaenau Gwent Merthyr Tydfil Caerphilly Cardiff Vale of Glamorgan Rhondda Cynon Taf Bridgend Neath Swansea Carmarthenshire Pembrokeshire Ceredigion

BETH SY'N GYRRU'R YMGYRCH Y GYRRU'R YMGYRCH FFORDD AT ADFERIAD?

Mae'r ymgyrch wedi'i hanelu i ledaenu'r gair am adferiad iechyd meddwl. Nod yw ymgyrch yw lledaenu'r gair ynghylch adferiad. Mae adferiad yn golygu adennill iechyd meddwl a sicrhau ansawdd gwell o fywyd. Mae cleientiaid Hafal – pobl ag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr – am i'r cyhoedd i wybod y dylai adferiad fod yn ddisgwyliad i'r holl bobl yng Nghymru sydd ag afiechyd meddwl difrifol a dylai'r holl wasanaethau iechyd meddwl feddu ar yr uchelgais hwn o adferiad ar gyfer eu cleientiaid.

Tri amcan penodol yr ymgyrch yw:

  • Mae Cymru wedi derbyn y p?er yn ddiweddar i greu cyfreithiau iechyd meddwl newydd. Hoffai Aelodau Hafal i'r cyfreithiau newydd ac unrhyw reoliadau cysylltiedig i roi hawl gyfreithiol i'r holl bobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol i gael cynllun gofal holistaidd ac i amlinellu'r holl feysydd y dylai'r cynllun gofal eu cynnwys. Rydym yn credu y dylai cynlluniau gofal gynnwys yr holl feysydd sydd wedi eu pennu yn y Cod Ymarfer Cymreig ar gyfer y Ddeddf Iechyd Meddwl, fel a ganlyn: Triniaeth feddygol; Ffurfiau eraill o driniaeth gan gynnwys therapïau seicolegol; Gofal personol a lles corfforol; Llety; Gwaith a galwedigaeth; Hyfforddiant ac addysg; Cyllid ac arian; Agweddau cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol; Rhianta a pherthnasau gofalu. Cliciwch yma i ganfod mwy am gynllunio gofal holistaidd.
  • Mae Aelodau Hafal yn credu y dylid datblygu a darparu holl wasanaethau iechyd meddwl y dyfodol mewn ymateb i gynlluniau gofal unigolion. Byddai hyn yn golygu rhoi 'bwydlen' o wasanaethau i bob person i ddewis ohono, fel y gallant wneud dewisiadau eu hunain mor aml â phosib yn eu hadferiad.
  • Yn sgil y toriadau i wariant cyhoeddus sydd yn debygol yn y dyfodol, mae Aelodau Hafal am weld adnoddau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a chymdeithasol yn cael eu hamddiffyn yn llwyr – ac am adnoddau newydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cyrraedd y safon.

SUT MAE'N BOSIB I MI DDOD O HYD I FWY O WYBODAETH

Am fwy o wybodaeth am adferiad, cliciwch yma.

Am fwy am wasanaethau Hafal yn eich ardal chi, cliciwch yma.

m y diweddaraf ar y materion iechyd meddwl sy'n wynebu Aelodau Hafal, ewch draw i flog Prif Weithredwr Hafal, Bill Walden-Jones, "Bill's Blog".