
Ymgyrch taith Ffordd at Adferiad yn cychwyn yng Nghaerdydd
Mae taith y Ffordd at Adferiad nawr wedi dechrau. Bu i'r ymgyrch alw yn gyntaf yng Nghanolfan Adnoddau Hafal yn Sain Ffagan, ger Caerdydd, ddoe.
Roedd tua 100 o bobl wedi mynychu dechrau'r daith; roedd saith deg a thri o bobl wedi arwyddo cerdyn post Ffordd at Adferiad arbennig a oedd yn cynnwys negeseuon ar faterion ymgyrchu allweddol. Roedd yna thema ‘grym blodau' (flower power) i'r digwyddiad a ddarlledwyd ar sioe iaith Gymraeg S4C sydd at ddant pawb, Wedi 3.
Bydd y daith Ffordd at Adferiad yn galw nesaf yn Sgwâr Tref y Barri, Barri, ar ddydd Gwener, Mai'r 14eg.



