Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol Cyswllt

Criminaljusticelinkservicelogocombined.JPG

Penny Cram2.JPG

Penny Cram, Prif Swyddog Cyfiawnder Troseddol Hafal

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol Cyswllt Hafal yn cael ei anelu at unrhyw un ag afiechyd meddwl difrifol sydd wedi ymwneud (neu mewn peryg o ymwneud) â'r system cyfiawnder troseddol. Gydag afiechyd meddwl difrifol, rydym yn golygu sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol a diagnosisau eraill sydd fel arfer yn cynnwys seicosis (colli cysylltiad gyda realiti neu brofi rhithdybiaethau) neu angen lefelau uchel o ofal neu sydd angen triniaeth ysbyty efallai.

Mae pedwar Swyddog Cyswllt yn gweithio ar draws yr holl feysydd Prawf yng Nghymru ac yn darparu dolen gyswllt rhwng yr asiantaethau cyfiawnder troseddol a'r gwasanaethau iechyd meddwl. Nod y gwasanaeth yw cynorthwyo cleientiaid i weithio'n agos a chadw cysylltiad â'r gwasanaethau.

Mae dau Swyddog Cyswllt hefyd yn darparu gwasanaeth cefnogi ac adsefydlu arbenigol i garcharorion benywaidd sydd yn dychwelyd i Gymru ar ôl cael eu rhyddhau o Garchardai ei Mawrhydi yn Styal ac Eastwood Park; mae'r elfen arbennig hon o'r gwasanaeth hefyd ar gael i fenywod â phroblemau iechyd meddwl llai difrifol.

Nid yw'r Gwasanaeth Cyswllt yn cymryd lle darpariaeth statudol ac nid yw'r Swyddogion Cyswllt yn dwyn cyfrifoldeb oddi wrth y gweithwyr achos priodol yn yr asiantaethau cyfiawnder troseddol na'r gwasanaethau iechyd meddwl; ond maent yn darparu pwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr proffesiynol (yn ogystal â chleientiaid eu hunain) i dderbyn cyngor a chyfarwyddyd arbenigol. Mae'r Gwasanaeth Cyswllt yn darparu:-

Cyngor a gwybodaeth - yn y meysydd sydd eu hangen er mwyn annog adferiad o afiechyd meddwl, gan gynnwys: llety, lles corfforol, gwaith a galwedigaeth, hyfforddiant ac addysg, cyllid ac arian, materion cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol, cyfrifoldebau rhianta a gofalu, meddyginiaeth ar gyfer afiechyd meddwl a dulliau eraill o driniaethau ar gyfer afiechyd meddwl.

Mae unrhyw un sydd yn cysylltu gyda Hafal yn derbyn cyngor wedi'i bersonoli am y prif feysydd o ofid sydd wedi eu crybwyll, ynghyd â chyngor ychwanegol a all eu cynorthwyo i symud ymlaen.

Cefnogaeth tymor byr - mae Swyddogion Cyswllt Hafal yn cefnogi'r gweithwyr achos priodol ac yn darparu cefnogaeth bersonol sydd wedi'i chyfyngu o ran amser i gleientiaid gan gynnwys: gwrando, cyngor, cyfarwyddyd a chefnogaeth, yn enwedig yn ystod y cyfnodau pontio, e.e. o'r carchar yn ôl i mewn i'r gymuned.

Geiriolaeth anffurfiol tymor byr e.e. cynorthwyo gyda'r galwadau ffôn cychwynnol, cynorthwyo gyda chyflwyniadau i asiantaethau cefnogi ac annog cleientiaid i gadw at eu hapwyntiadau cychwynnol.

Cyfeirio at gymorth ychwanegol - bydd Swyddogion Cyswllt Hafal yn cynorthwyo cyfeirio unigolion at asiantaethau cefnogi priodol.

Gwasanaeth cefnogi ac adsefydlu arbenigol i garcharorion benywaidd o Gymru - mae Swyddogion Cyswllt Hafal yn cwrdd â menywod o Gymru sydd yn y carchar; eu cynorthwyo i gynllunio eu hanghenion ar ôl cael eu rhyddhau a chynorthwyo i sicrhau fod gwasanaethau priodol mewn lle. Mae'r Swyddogion Cyswllt wedyn yn darparu cymorth iddynt am hyd at chwe wythnos ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Cwestiynau ac Atebion

Pwy sydd yn medru cysylltu gyda'r Gwasanaeth Cyswllt?

• Gweithwyr proffesiynol o'r gwasanaethau cyfiawnder troseddol ac iechyd meddwl.
• Unigolion sydd ag afiechyd meddwl difrifol ac sydd wedi dod i gysylltiad gyda'r system cyfiawnder troseddol (neu sydd mewn peryg o ddod i'r fath gysylltiad).
• Aelodau teulu/gofalwyr.

Pryd yn union y gallaf gysylltu gyda'r Gwasanaeth Cyswllt?

Unrhyw amser: o'r cyfnod cynharaf posib pan fo unigolyn mewn risg o ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol i fyny i'r pwynt pan fo unigolyn wedi symud y tu hwnt i'r broses cyfiawnder troseddol ond dal yn meddu ar anghenion sydd angen eu diwallu.

Beth sydd yn digwydd nesaf?

Bydd ymatebion yn dibynnu ar natur anghenion pob un cleient unigol. Bydd y lefelau o gymorth yn amrywio gan gynnwys: cyngor dros y ffôn sydd ond yn cymryd rhai munudau; danfon gwybodaeth yn y post, cyfarfod gyda Swyddog Cyswllt sydd yn arwain at gymorth am hyd at chwe wythnos. Fodd bynnag, ym MHOB UN achos, bydd cleientiaid yn cael cynnig cyngor personol manwl a fydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y meysydd penodol o angen ynghyd â chyngor mwy cyffredinol.

Sut y mae modd i mi gael mwy o wybodaeth neu gysylltu gyda'r Gwasanaeth Cyswllt?

Drwy gysylltu â Gwasanaeth Cyswllt yn Hafal:
Gwasanaeth Cyswllt Gogledd Cymru, Hafal, 5 Heol Rhiw, Bae Colwyn, Conwy, LL29 7TF Ffôn: 01492 531485 E-bost: linknorth@hafal.org

Gwasanaeth Cyswllt De Cymru, Hafal, Swît C2, Tŷ William Knox, Ffordd Britannic, Llandarsi, Castell-nedd, SA10 6EL
Ffôn: 01792 816600 E-bost: link@hafal.org

 

03 Sep 2010
Hafal yn cyhoeddi Rhestr Wirio ‘Chwalu'r Rhwystrau' ...Read more...

26 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad yn llwyddiant ysgubol yn Sioe Frenhinol Cymru ...Read more...

16 Jul 2010
Ymgyrch Ffordd at Adferiad Hafal i ymweld â Sioe Frenhinol Cymru...Read more...

13 Jul 2010
Diwrnod Ymwybyddiaeth Iechyd Corfforol Cenedlaethol Hafal -...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal