Gwasanaeth Ymgynghori
ATEBION HAFAL ANSWERS
Croeso i Atebion Hafal Answers, yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, a sefydliadau statudol a gwirfoddol i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
ATEBION HAFAL ANSWERS yw’r gwasanaeth ymgynghori newydd sy’n cyfuno profiadau personol defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr gyda phrofiad gwaith comisiynwyr a rheolwyr sydd wedi cynllunio a chyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl ledled y DU.
Neidio i: Pwy ydym ni? Beth ydym ni’n ei wneud? Cysylltu â ni
Pwy ydym ni?
Ni yw:

Rebecca Remigio, Pennaeth Ymgynghori ac Ymgynghorydd ar Gyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Diogel.

Jo Roberts, Ymgynghorydd Defnyddwyr Gwasanaethau
Rob Campbell, Ymgynghorydd Defnyddwyr Gwasanaethau

Karl Meyers, Swyddog Gwybodaeth a Chyswllt Carchardai ac Ymgynghorydd ar Gyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Diogel

Phil Thomas, Uwch Ymgynghorydd ar Gomisiynu Iechyd Meddwl a Gwasanaethau Gofal Cymunedol
Beth ydym ni’n ei wneud?
Cyhoeddiadau a Phrosiectau Rydym yn cynnig ymgynghoriad tymor byr a hir i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ceisio gweithredu’r FFRAMWAITH GWASANAETH CENEDLAETHOL AR GYFER IECHYD MEDDWL yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiadau diweddar yn cynnwys:
- Adroddiad ar yr Ymgynghoriad gyda Defnyddwyr a Gofalwyr ar gyfer yr Adolygiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru (“Adolygiad Burrows-Greenwell”)
- Lleihau’r Risg, Cyflawni Adferiad - cynllun gweithredu ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol sy’n dod i gysylltiad â’r System Cyfiawnder Troseddol.
- Fy Nghartref Fy Hun - safbwynt cleient a llety â chymorth ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol
- Adolygiad Strategol o Wasanaethau Iechyd Meddwl - adroddiad sy’n nodi beth yr hoffai defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru ei gael o’r Adolygiad Strategol.
Rydym wrthi’n gwneud gwaith prosiect sy’n ymwneud â:
- Hybu llais defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr
- Deddfwriaeth iechyd meddwl drafft yng Nghymru
- Gwasanaethau ar gyfer Troseddwyr gydag Anhwylderau Meddyliol
- Cyrraedd pobl gydag afiechyd meddwl difrifol mewn carchar
- Cyngor ymarferol ar ddewisiadau tai â chymorth
- Rheoli prosiect
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi fwriad i:
- Gynllunio a datblygu gwasanaethau newydd
- Newid sylw gwasanaethau presennol
- Ymgynghori â defnyddwyr a gofalwyr
- Cwblhau prosiect penodol
- Dysgu mwy am ddeddfwriaeth iechyd meddwl yng Nghymru
...cysylltwch â ni yn:
Hafal Ystafell C2, Tŷ William Knox Ffordd Britannic Llandarsi Castell-nedd SA10 6EL Ffôn: 01792 816 600 Ffacs: 01792 813 056 E-bost: rebeccaremigio@hafal.org
|