Hafal Clic
Ydych chi wedi clicio?

... mai pobl arferol, yn cymryd camau cadarnhaol tuag at wella eu hiechyd, yw pobl sy’n gwella o salwch meddwl difrifol?
... mai pobl arferol, yn cymryd camau cadarnhaol tuag at wella eu hiechyd, yw pobl sy’n gwella o salwch meddwl difrifol?
Mae ymgyrch Ydych chi wedi clicio? Hafal yn anelu at gynnig gwybodaeth fydd yn mynd i’r afael â stigma i nifer fawr o bobl ledled Cymru. Un rhan fawr o hyn fydd dosbarthu o leiaf 100,000 copi o’n Cynllun Pum Pwynt ar gyfer delio â stigma. Pam na gymerwch chi olwg:
Cynllun Pum Pwynt
Ymgyrch ffotograffiaeth

Mae un rhan o’r ymgyrch Ydych chi wedi clicio? yn cynnwys ffotograffiaeth. Rydym eisiau rhoi cyfle i gleientiaid a gofalwyr ledled Cymru – yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd – ddefnyddio offer digidol er mwyn dal delwedd sy’n dweud rhywbeth am eu bywydau.
Nod yr ymgyrch hon yw casglu delweddau ffotograffig gwych o bob cwr o’r wlad, gan chwalu rhwystrau ac annog pobl i gael hwyl. Bydd arddangosfeydd o’r ffotograffau ym mhob un o’r 22 sir yn ystod haf 2008, yn ogystal ag arddangosfeydd cenedlaethol mewn lleoliadau fel y Cynulliad Cenedlaethol.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: hafal@hafal.org
I weld oriel o ddelweddau o ledled Cymru, ewch i: http: www.hafal.org/clic/gallery

Mae Hafal wedi ymgyrchu llawer dros gael gwared ar y stigma yn erbyn pobl gyda salwch meddwl, ac yn ddiweddar, fe benderfynom gynnal ymgyrch tymor hir mewn partneriaeth â Mind Cymru er mwyn mynd ati o ddifrif i herio’r stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.meddwlPOSITIFthinking.org
|