Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Gyrfaoedd

SWYDDOG CYSWLLT
CYFIAWNDER TROSEDDOL,
CASTELL-NEDD

(2 SWYDD LAWN AMSER) £21,601 - £23,791
1 swydd i ddyn yn unig, Adran 7 (2) o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 yn berthnasol

Mae'r rhaglen Materion Iechyd Meddwl, a ariennir gan Gronfa'r Loteri Fawr, yn cefnogi pobl â salwch meddwl yn y system cyfiawnder troseddol.

Dyddiad cau: 19/02/10 Cyfweliadau: 09/03/10
Am becyn recriwtio anfonwch e-bost at:
recruitment@hafal.org

Mae Hafal yn ymroddedig i gyfle cyfarta.l
Elusen Gofrestredig Rhif 1093747.Gwaith gwirfoddol

Mae Hafal yn dibynnu ar wirfoddolwyr i ddarparu ei wasanaethau lleol, gyda dros 100 o wirfoddolwyr yn gweithio ar brosiectau ledled Cymru ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r prosiect Hafal lleol.

Cyflwyniad a hyfforddiant

Yn Hafal, rydyn ni'n awyddus bod ein staff wedi eu hyfforddi'n llawn, a'u bod yn cael cyfleoedd parhaus i ddatblygu ymhellach.

Mae staff newydd yn cymryd rhan yn ein rhaglenni hyfforddi cychwynnol dwys. Mae hyn yn rhoi sylfaen trylwyr yn yr arferion a'r polisïau sy'n ymwneud ag afiechyd meddwl difrifol yng Nghymru.

Mae gan bob un sy'n gweithio i Hafal 'Gofnod Dysgu Unigol' sy'n cofnodi eu hyfforddiant a'u datblygiad yn barhaus. Caiff hwn ei drafod a'i ddiweddaru gyda goruchwylwyr yn rheolaidd. Bydd darparwyr gwasanaethau yn derbyn hyfforddiant Grymuso yn aml er mwyn iddynt allu darparu gwasanaeth Hafal â'i ganolbwynt ar gleientiaid, i'r safon uchaf.

Bob tri mis, mae Hafal yn cynnal diwrnodau hyfforddi i'r holl staff yn Llandrindod. Yn ogystal â rhoi cyfle i gydweithwyr ac Ymddiriedolwyr ar draws Cymru gyfarfod, mae'r diwrnod hefyd yn annog pawb i rannu syniadau a barn ynghylch rhedeg Hafal. Cynhelir gweithdai a seminarau ar ystod o bynciau drwy'r dydd, gan orffen â thasg grŵp.

Ethos Hafal

Mae Hafal yn ymroddedig i wrthwynebu'n egniol bob ffurf ar wahaniaethu. Cymerwn gamau pendant i weithredu polisïau ac arferion sy'n gwrthwynebu gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar sail hil, cenedl, rhywioldeb, anabledd, oed, gwreiddiau ethnig, cenedligrwydd, ymrwymiad i ddibynyddion, crefydd, statws priodasol neu gred wleidyddol. Rydyn ni hefyd yn ymroddedig i gyflogi pobl â phrofiad uniongyrchol o afiechyd meddwl.

24 Feb 2010
Hafal yn croesawu adroddiad sy'n galw am ofal arbenigol ar gyfer carcharorion sydd ag afiechyd meddwl difrifol...Read more...

11 Feb 2010
Pwer y Bobl yn Sicrhau Deddfau Iechyd Meddwl Newydd i Gymru...Read more...

17 Dec 2009
Hyfforddiant Oedolyn Priodol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd...Read more...

10 Nov 2009
Ewch am Daith o Gwmpas Cymru yng nghynhadledd hydref "Gallwn Wneud Hyn!" Hafal...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal