Canolfan Dysgu
Hafal

Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Canolfan Ddysgu Genedlaethol

NLC.JPG

Wedi ei hariannu gan:

FUNDAZ.jpg

Mae Canolfan Ddysgu Genedlaethol Hafal yn arbenigo mewn rhaglenni hyfforddi o safon uchel, sydd yn gost-effeithiol, wedi eu hachredu a’u teilwra ar gyfer staff, gwirfoddolwyr a chleientiaid Hafal, a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Rydym hefyd yn cynnig llefydd hyfforddi i fyfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac yn darparu hyfforddiant mewn prifysgolion a cholegau yng Nghymru.

 

Mae’r Ganolfan Ddysgu Genedlaethol wedi ei lleoli mewn tri lleoliad sydd yn gwasanaethu Gogledd, De a Gorllewin Cymru. Mae ein tîm o arbenigwyr yn arbenigo yn:

► iechyd meddwl ac adferiad

► gofal cymdeithasol a thai

► rheoli elusen.

 

Prosiect Hyfforddwyr Cleifion Arbenigol

Mae Prosiect Hyfforddwyr Cleifion Arbenigol newydd y Ganolfan Ddysgu Genedlaethol yn gyfle hyfforddi unigryw sydd wedi ei anelu at ddwyn arbenigedd y rhai hynny sydd â phrofiad uniongyrchol o afiechyd meddwl i mewn i’r maes hyfforddi. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddatblygu dros y tair blynedd nesaf gyda chymorth Prosiect Grant y DU gan Comic Relief a grant ychwanegol gan CGGC.

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Prosiect Hyfforddwyr Cleifion Arbenigol.

 

Ein Gwasanaeth

 

Mae Canolfan Ddysgu Genedlaethol Hafal yn cynnig ystod o gyfleoedd hyfforddi. Dilynwch y dolenni yma am fwy o wybodaeth am sut y gallwn ni ddiwallu eich anghenion hyfforddi chi:-

 

Mae cyrsiau hyfforddi sydd yn cael eu cynnig gan Hyfforddwyr Cleifion Arbenigol yn cynnwys:

Llefydd Hyfforddi

 

Hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer mudiadau

 

Hyfforddiant galwedigaethol

Staff/gwirfoddolwyr Hafal: Er mwyn cael mynediad at gyrsiau ar-lein Hafal, ewch ar wefan staff Hafal a chliciwch ar “cyrsiau hyfforddi ar-lein Hafal”.

 

Mae holl hyfforddiant Hafal yn seiliedig ar ein Rhaglen Adferiad unigryw sydd wedi ei selio ar brofiadau a chipolwg gan gannoedd o gleientiaid Hafal. Dilynwch y ddolen er mwyn canfod mwy. Cliciwch yma er mwyn canfod mwy am Raglen Adferiad Hafal.

 

 

Cysylltwch â ni

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:

 

Canolfan Ddysgu Genedlaethol Hafal

Swît C2, Tŷ William Knox

Ffordd Britannic

Llandarsi

Castell-nedd   SA10 6EL

 

Ffôn: 01792 816600

E-bost: learningcentre@hafal.org

 

 

 

 

Logos.jpg

 

 

 

14 May 2013
Mwy na 100 o ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol yn dringo Pen y Fan!...Read more...

10 May 2012
Roedd yr ymgyrch “Symud I Fyny” wedi cyrraedd Abertawe heddiw! ...Read more...

04 May 2012
Ymgyrch "Symud I Fyny" 2012 yn Cychwyn ym Merthyr!...Read more...

30 Apr 2012
Hafal yn cyhoeddi maniffesto Etholiad Llywodraeth Leol...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal