Canolfan Dysgu
Hafal

Cliciwch yma I ddarllen mwy am y Rhaglen Cam Nesaf Ymweld a Iechyd Meddwl Cymru am fwy o wybodaeth a newyddion diweddaredig am afiechyd meddwl yng Nghymru

Amdano Hafal

Amdano Hafal

Hafal (sy'n golygu ‘cydradd') yw'r prif fudiad yng Nghymru sydd yn gweithio gydag unigolion sy'n gwella o afiechyd meddwl difrifol a'u teuluoedd. Wedi'i lansio yn Ebrill 2003, rydym yn fudiad newydd a reolir gan y bobl rydyn ni'n eu cefnogi - unigolion ag afiechyd meddwl difrifol a'u teuluoedd.

Bob dydd mae ein 161 o staff a 150 o wirfoddolwyr yn helpu dros 1,000 o bobl sydd wedi eu heffeithio gan afiechyd meddwl difrifol: mae hyn yn cynnwys sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol a diagnosis eraill sy'n ymwneud yn aml â seicosis neu lefelau uchel o ofal, ac sydd efallai yn gofyn am driniaeth mewn ysbyty.
Beth yw ein bwriad?

Seiliwyd Hafal ar y gred mai pobl sydd wedi cael profiad uniongyrchol o afiechyd meddwl a ŵyr orau ynghylch sut y gellir darparu gwasanaethau.

Yn darparu cefnogaeth ar draws y 7 ardal bwrdd iechyd lleol yng Nghymru, mae Hafal wedi'i ymrwymo i rymuso pobl ag afiechyd meddwl difrifol a'u teuluoedd i:

• gael gwell ansawdd i'w bywyd
• cyflawni eu huchelgais am wella
• brwydro yn erbyn gwahaniaethu
• mwynhau yr un mynediad at ofal iechyd a gofal cymdeithasol, tai, incwm, addysg a chyflogaeth.

Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae Hafal yn darparu ystod o wasanaethau i bobl ag afiechyd meddwl difrifol gan gynnwys cefnogaeth a chyngor uniongyrchol, cefnogaeth mewn argyfwng, cyswllt ag eraill dros y ffôn, eiriolaeth, cefnogaeth mewn grŵp, cyflwyniadau ar gyfer gwneud ffrindiau a phrosiectau cyflogaeth a hyfforddi. Rydyn ni hefyd yn rhoi llais y mae mawr ei angen ar gleientiaid yn y broses o gynllunio gwasanaethau iechyd meddwl.

Yn sail i'n gwasanaethau i gleientiaid, teuluoedd ac aelodau mae ein Rhaglen Adferiad ein hunain. Seiliwyd y Rhaglen hon ar egwyddorion cyfoes o hunanreolaeth a grymuso. Mae'n annog cleientiaid a theuluoedd i weithio tuag at wella, gyda chymorth staff Hafal a chefnogwyr eraill, drwy gael ymagwedd fwy methodolegol i wella holl agweddau bywyd.

Yn ogystal â darparu gwasanaethau, mae Hafal yn ymgyrchu'n gryf drwy waith ymchwil, cyhoeddiadau a'r cyfryngau i wella gwasanaethau ar gyfer cleientiaid a theuluoedd ac er mwyn dileu'r stigma a'r unigrwydd a gysylltir ag afiechyd meddwl difrifol. Mae Hafal hefyd yn cael ei gynrychioli ar Grŵp Gweithredu Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol sy'n cynghori ar weithredu Strategaeth Iechyd Meddwl Cymru .

Pwy sy'n rhedeg Hafal?

Mae Hafal yn fudiad sy'n cael ei lywio gan ei aelodau. Rydyn ni wedi arloesi hyrwyddo cydgyfranogaeth gan gleientiaid ar bob lefel drwy ein Compact Partneriaeth, sy'n ffurfioli rheolaeth gwasanaethau lleol gan gleientiaid, ac sy'n cynnwys cleientiaid yn y broses o ymaelodi a llywodraethu. Mae cleientiaid ym mhob prosiect yn cyfarfod yn rheolaidd â staff er mwyn gwneud penderfyniadau rheoli ffurfiol. Caiff aelodau hefyd eu cynrychioli ar bwyllgor Cymru gyfan o Ymddiriedolwyr etholedig sy'n cynnwys cleientiaid a theuluoedd yn bennaf.

Mae Strategaeth Iechyd Meddwl Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yn llywio ac yn arwain gweithrediadau a pholisïau Hafal. Cefnogir Hafal gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, prynwyr statudol lleol ac ymddiriedolaethau sy'n rhoi grantiau.

Ble allwch chi ddod o hyd i ni?

Mae gwasanaethau Hafal ar gael ar draws Cymru gyfan. Cefnogir ein Rhaglen gan 22 rhwydwaith lleol sy'n cynnwys pob awdurdod lleol yn y wlad. Dibynna'r rhwydweithiau hyn ar staff a gwirfoddolwyr lleol i gynnig gwasanaeth hyblyg i deuluoedd ac unigolion.

Mae ein prif swyddfa yng Nghastell-nedd er bod canolfannau adnoddau gennym ar draws y wlad. Ewch i'n tudalen Gysylltiadau er mwyn cysylltu â ni.

Cliciwch yma am y Panel Cyfeirio Proffesiynol

24 Feb 2010
Hafal yn croesawu adroddiad sy'n galw am ofal arbenigol ar gyfer carcharorion sydd ag afiechyd meddwl difrifol...Read more...

11 Feb 2010
Pwer y Bobl yn Sicrhau Deddfau Iechyd Meddwl Newydd i Gymru...Read more...

17 Dec 2009
Hyfforddiant Oedolyn Priodol yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd...Read more...

10 Nov 2009
Ewch am Daith o Gwmpas Cymru yng nghynhadledd hydref "Gallwn Wneud Hyn!" Hafal...Read more...




Cyhoeddiadau | Hygyrchedd | Amdano Hafal.org | Cyfreithiol | Adran ar gyfer staff Hafal | Gyrfaoedd | iechydneddwlcymru.net
Mae Hafal yn gwmni cyfyngedig trwy warant, a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Rhif Cofrestru: 4504443. Rhif elusen: 1093747.© Hafal