Merthyr Tudful

Gwasanaethau Hafal yn Merthyr Tudful ar gyfer cleientiaid a theuluoedd:

  • Hyfforddiant ar gyfer Cyflogaeth
  • Gwasanaeth Cymorth teulu
  • Seibiant ar gyfer Gofalwyr
  • Cefnogaeth Gyffredinol
    • Gwybodaeth
    • Cyngor
    • Grŵpiau
    • Cyfeillio
    • Llais o fewn cynllunio

Mae Hafal Merthyr Tudful yn helpu pobl sydd ag afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd i weithio tuag at adferiad. Mae pob un o’n gwasanaethau wedi’i gynnal gan Raglen Arferiad Hafal, sy’n galluogi cleientiaid a theuluoedd i reoli’u bywydau ac i adfer.

Mae Rhaglen Wella Hafal yn ymagwedd gyfoes o fynd i’r afael ag afiechyd meddwl.

Fel sefydliad a reolir gan ei aelodau – pobl â phrofiad o afiechyd meddwl difrifol a’u teuluoedd – mae Hafal wedi tynnu ar flynyddoedd lawer o brofiad o fynd i’r afael ag iechyd meddwl difrifol er mwyn gwneud y Rhaglen Wella mor effeithiol ag y bo modd.

Am beth mae’r Rhaglen?

Nid yw Rhaglen Wella Hafal yn ymwneud yn unig â meddyginiaethau neu therapïau eraill sy’n delio’n uniongyrchol â’r symptomau. Gall y rhain fod yn bwysig iawn, ond mae iechyd meddwl wedi ei adeiladu ar sylfeini ehangach o lawer.

I unrhyw unigolyn, efallai mai’r cam mwyaf tuag at wella yw dod o hyd i rywle dda i fyw, cael swydd, sefydlu perthynas dda â’u teulu … fel arfer mae ystod o wahanol bethau sy’n bwysig ar gyfer gwellhad unigolyn.

Dyma le Rhaglen Wella Hafal. Pan mae unigolion yn dioddef o afiechyd meddwl difrifol, mae’r Rhaglen Wella yn cynnig ffordd fwy methodolegol o wella’r holl agweddau ar eu bywyd.

person cyfan

Sut mae’r Rhaglen Wella yn gweithio?

Mae’r Rhaglen Wella yn eich annog i gael ymagwedd “Person Cyfan”, gan edrych ar y rhannau canlynol o’ch bywyd er mwyn symud ymlaen:

Yn y broses, mae’r Rhaglen yn cynnwys holl elfennau gwasanaeth lleol Hafal, gan gynnwys:

  • Atgyfeirio
  • Cyflwyno
  • Cynllunio a gweithredu
  • Adolygu
  • Rheoli gwasanaethau
  • Grymuso ehangach.
  • Y Tîm Rheoli
    Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:

    Donna Evans, Rheolwr Sirol
    Ffon: 01685 884918 / 07805 665527
    Ebost:
    donna.evans@hafal.org
     

Caroline Newman, Cyfarwyddwr Gweithrediadau                                                                                                             Ffon: 01792 816 600 E-bost: caroline.newman@hafal.org

Rheolwr Hafal ar gyfer yr ardal hon yw: Lianne Martynski
Ffon:
01792 816 600 Ebost: lianne.martynski@hafal.org 

Cefnogir Hafal Merthyr Tudful gan:-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful