Sut allaf dderbyn therapi seicolegol?

Os ydych yn cael eich cefnogi neu’ch trin gan eich Meddyg Teulu neu weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol arall ar gyfer afiechyd meddwl difrifol, efallai y byddwch yn cael cynnig therapi seicolegol  – ond efallai y byddwch yn canfod fod angen  i chi ofyn am therapi seicolegol neu’r therapi sydd yn briodol ar eich cyfer chi. Mae’r canllaw byr hwn wedi ei ddylunio i ddangos ble i fynd a beth i ofyn – ac rydym yn darparu rhai awgrymiadau i chi os ydych yn mynd i drafferthion.

Tips Allweddol

  • Noder fod NICE (y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol) yn argymell therapïau seicolegol yn benodol fel ffordd o drin afiechydon gan gynnwys sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, iselder, anhwylder personoliaeth, ac anhwylderau gorbryder.
  • Gofynnwch am unrhyw therapïau seicolegol y mae gennych ddiddordeb ynddynt ond dylech ofyn hefyd beth sydd ar gael – os yw’r dewis wedi ei gyfyngu, efallai y bydd diddordeb gennych o hyd yn yr hyn sydd ar gael
  • Os ydy’ch cais am driniaeth seicolegol yn cael ei wrthod gan fod eich afiechyd yn “rhy ddifrifol”, yna dylech ddweud fod hyn yn annerbyniol ac ewch i ddarllen yr adran Beth sy’n digwydd os yw fy nghais am driniaeth yn cael ei wrthod? – a rhowch wybod i ni: mi fyddwn ni’n eich helpu i ddelio gyda hyn.
  • Nid yw derbyn driniaeth feddygol ar gyfer eich afiechyd meddwl yn golygu nad oes modd i chi hefyd i dderbyn ac elwa o driniaeth seicolegol
  • Mae rhai pobl yn talu am therapïau seicolegol oherwydd nid ydynt ar gael o’r GIG ond rydym yn argymell eich bod yn dechrau gyda’r rhagdybiaeth resymol y dylai triniaeth sydd angen arnoch fod ar gael ar y GIG – a dilynwch y cyngor isod
  • Os ydych yn penderfynu talu am driniaeth, yna byddwch yn ofalus wrth ddewis ymarferwyr, a hynny drwy ddefnyddio mudiadau gweithwyr proffesiynol achrededig  Ble allaf gael help?

 

Bydd y ffordd y byddwch yn mynd ati i drefnu therapi seicolegol yn dibynnu a ydych yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl cynradd (eich Meddyg Teulu ac efallai gwasanaethau eraill ar y lefel honno) neu wasanaethau cynradd ac eilaidd (fel arfer o dan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu’n gweld seiciatrydd)…

 

Os ydych yn cael eich cynorthwyo gan wasanaethau gofal cynradd yn unig…

Eich Meddyg Teulu yw eich pwynt cyswllt cyntaf. Gallwch ofyn i’ch Meddyg Teulu (neu yn y feddygfa Meddyg Teulu) am ba wasanaethau seicolegol sydd ar gael a pha wasanaethau y mae modd eich atgyfeirio atynt. Os nad oes Meddyg Teulu gennych, ewch i Ble allaf gael help?

Dylai pob meddygfa gael mynediad at wasanaethau therapïau seicolegol – nid yw hyn o reidrwydd yn sicrhau y byddwch yn derbyn gwasanaeth ond mae gwybod am yr hyn sydd gael yn mynd i’ch helpu chi i wneud cais: felly, gofynnwch am fanylion llawn o’r hyn sydd yn cael ei ddarparu, hyd yn oed os oes yna restr aros neu’ch bod yn ansicr ynghylch yr hyn sydd yn addas i chi.

Tips Allweddol

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 28 diwrnod ar gyfer cael mynediad at therapi seicolegol ar lefel gofal cynradd; mae modd i chi atgoffa eich Meddyg Teulu neu’r feddygfa am y targed hwn.
  • Dylech ddweud wrth eich Meddyg Teulu neu’r feddygfa  fod afiechyd meddwl difrifol gennych, a dylid eich gweld fel mater o flaenoriaeth.
  • Os nad oes dim byd addas gan y Meddyg Teulu, yna gofynnwch iddynt ystyried eich atgyfeirio at wasanaethau arbenigol; mae hyn yn hynod bwysig os yw’r hyn sydd gan Feddyg Teulu ei gynnig ond yn berthnasol i bobl â phroblemau iechyd meddwl llai difrifol.

 

Os ydych yn cael eich cefnogi gan wasanaethau gofal eilaidd…

Eich Cydlynydd Gofal yw eich pwynt cyswllt cyntaf – nyrs neu weithiwr cymdeithasol yn y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol fydd hyn fel arfer neu seiciatrydd ond os ydych yn ansicr, dylech ofyn i unrhyw un o’r gweithwyr proffesiynol sydd yn rhoi triniaeth neu ofal i chi.

Os ydych yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd, dylech feddu ar Gynllun Gofal a Thriniaeth:  mae adran benodol yn y cynllun ar gyfer cofnodi pa driniaethau (neu therapïau  – sef yr un peth yn y cyd-destun hwn) y dylech fod yn eu derbyn, boed yn rhai meddygol neu seicolegol; dylech chwarae rhan amlwg yn ysgrifennu neu’n adolygu’r Cynllun, ac felly, mae hyn yn gyfle allweddol i chi ofyn i dderbyn therapi seicolegol. Mae modd i chi ofyn hefyd am therapi seicolegol  mewn unrhyw drafodaeth am eich triniaeth gan gynnwys presgripsiynau neu adolygiad o’ch meddyginiaeth gan seiciatrydd neu weithiwr proffesiynol arall – mae’n gwneud synnwyr i drafod therapïau seicolegol ar yr un adeg ag unrhyw driniaeth feddygol arall.

Tips Allweddol

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 26 wythnos ar gyfer cael mynediad at driniaeth seicolegol ar lefel gofal eilaidd; mae modd i chi atgoffa eich Cydlynydd Gofal am y targed hwn. Rydym yn credu y dylai’r targed fod yr un peth â lefel gofal cynradd (28 diwrnod): rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda os ydych yn cael eich effeithio gan y targed hirach gan y bydd yn ein helpu i gyflwyno’r ddadl i sicrhau fod y targedau’r un peth
  • Mynnwch chwarae rhan yn ysgrifennu neu’n adolygu eich Cynllun Gofal a Thriniaeth, gan gynnwys yr adran ar driniaethau.
  • Cofnodwch eich angen am therapi seicolegol yn eich Cynllun, p’un ai ei fod ar gael ai peidio ar yr adeg honno – ac os nad ydych yn derbyn y driniaeth yn syth, parhewch i ofyn amdano
  • Os ydych yn canfod triniaeth sydd angen arnoch ond na sydd yn cael ei ddarparu gan y GIG, gofynnwch i’ch Cydlynydd Gofal i ofyn i’r GIG i ariannu’r driniaeth yn arbennig ar eich cyfer chi
  • Nid yw’r ffaith eich bod yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o reidrwydd yn golygu nad oes hawl gennych i ofyn am wasanaethau seicolegol sydd yn cael eu darparu gan eich Meddyg Teulu/gofal cynradd

Beth sy’n digwydd os yw fy nghais yn cael ei wrthod?

Os ydych yn cael eich gwrthod ar ôl gwneud cais am therapi seicolegol, p’un ai bod rhywun yn dweud wrthych nad ydych ei angen (a’ch bod yn anghytuno gyda’r penderfyniad hwn) neu oherwydd  nad yw ar gael neu os ydych yn cael gwybod y bydd rhaid aros yn hirach na’r targed aros (neu cyn hynny os ydych yn credu eich bod angen y driniaeth ar fwy o frys na hynny), peidiwch â rhoi’r gorau iddi. Dyma rai opsiynau:

  • Gofynnwch i’ch Meddyg Teulu, meddygfa, neu Gydlynydd Gofal i ail-ystyried eu penderfyniad; gallwch gyfeirio at argymhellion NICE a thargedau Llywodraeth Cymru
  • Cysylltwch gyda’ch gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl
  • Gwnewch gwyn (gofynnwch i’ch meddygfa neu’ch Cydlynydd Gofal am fanylion)
  • Cysylltwch gyda ni