Ewch ati i ddarllen ein blogiau a gwrando ar ein podlediadau diweddaraf sydd yn rhoi cipolwg defnyddiol i chi o’r gwaith yr ydym yn ei wneud…
Mae’r canlynol yn gyflwyniad a roddwyd gan Gadeirydd Hafal, Dr Elin Jones, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, 8fed Mawrth 2018, mewn cynhadledd a drefnwyd gan y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Rhyw ym Mhrifysgol De Cymru, ac Archif Menywod Cymru/Women’s Archive of Wales, er mwyn dathlu canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, a dathliad o fywyd yr hanesydd Dr Ursula Masson.
Dyma’r vlog cyntaf gan ein prentis Cyfathrebu, Declan Terry, a fydd yn cyflwyno gwasanaethau a gweithgareddau diweddaraf Hafal mewn cyfres o bodlediadau a vlogs. Mae’r vlog yma yn ymwneud â ‘Clic’, cymuned ar-lein gefnogol Hafal. Mae Declan yn siarad gyda Chydlynydd Clic, Dave Vice, am yr hyn yw Clic a sut y mae modd i chi gofrestru a chwarae rhan. Mae Dave hefyd yn trafod gwefan Clic, gan ddangos rhai o’i nodweddion gwych. Mae mwy o vlogs ar y ffordd!
Dyma ein ‘vlogger’, Declan, yn ymweld gyda Grant sydd yn ailwampio fan wersylla glasurol Hafal. Mae Grant yn trafod y gwaith sydd wedi ei wneud, y pethau eraill sydd angen eu gwneud a hanes ein Volkswagen Samba ffantastig sydd â21 ffenestr!
Dyma gyflwyniad Cymraeg gan Gadeirydd Hafal Dr Elin Jones yn yr Ysgubor Ddegwm, y Fenni, ar yr 21ain o Fai. Daeth mwy na o westeion ynghyd i wrando ar anerchiad Elin ar ganmlwyddiant ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918, ac i ddathlu bywyd yr hanesydd Dr Ursula Masson.
Dyma Dave Vice yn siarad gyda’r orsaf radio Calon FM am gymuned ar-lein, cymorth gan gyfoedion Hafal, Clic.
Roedd stondin gan Hafal yn yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd rhwng 4ydd a’r 11eg Awst 2018. Yma, mae’r ‘vlogger’ Declan yn cerdded o gwmpas yr arddangosfeydd yn yr Eisteddfod ac yn dangos yr hyn a oedd i’w weld yn ystod wythnos ffantastig!