Gadewch i Ni Siarad!

logo-welsh-2hi_big_bi_min_pink

Mae Gadewch i Ni Siarad am Therapïau Seicolegol yn fenter gan Hafal sydd yn cael ei hariannu am dair blynedd gan raglen Pobl a Llefydd y Loteri Fawr. Y nod yw hyrwyddo mynediad at therapïau seicolegol (siarad) sydd yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar gyfer pobl yng Nghymru sydd ag afiechyd meddwl difrifol.

Wedi ei lansio yn y  Senedd ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae ‘Gadewch i Ni Siarad am Therapïau Seicolegol’ yn cynnig nifer o weithgareddau a gwasanaethau arloesol. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu  Canolfan Arsyllfa Rhagoriaeth ar gyfer Therapïau Seicolegol, Rhwydwaith Arsyllfa Aelodau, dylunio a datblygu canllawiau hawdd eu defnyddio am therapïau siarad, creu tudalennau gwe penodol a fforwm lle y gall pobl gael gwybodaeth am argaeledd therapïau siarad yn eu hardaloedd, nifer o raglenni hyfforddi i staff a grwpiau perthnasol, a darparu adborth i’r Byrddau Iechyd Lleol am y therapïau y maent yn darparu, a hynny ar y cyd ag astudiaethau achos o’r arferion gorau. Bydd ‘Gadewch i Ni Siarad yn gweithio hefyd gyda Llywodraeth Cymru, y Gynghrair Iechyd Meddwl a’r Glymblaid Rydym Angen Siarad er mwyn ffocysu ar nifer o’r materion sydd wedi eu hamlinellu isod:

 

Cefndir Therapïau Siarad

Y driniaeth sydd yn cael ei hargymell ar gyfer y rhan fwyaf o afiechydon meddwl yw ‘therapi deublyg’ – sydd yn golygu bod meddyginiaeth yn cael ei gyfuno fel arfer gyda therapi siarad priodol (fel sydd wedi ei argymell gan NICE, Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Gofal ac Iechyd). Mae llawer o bobl sydd yn derbyn therapi deublyg yn ei ddisgrifio fel rhywbeth sydd yn ‘newid bywyd’.

Mae’r dystiolaeth yn cyfeirio yn fwy ac yn fwy erbyn hyn at ba mor gost-effeithiol yw therapïau siarad a’r canlyniadau gwell y mae cleifion yn profi os ydynt yn cael mynediad atynt yn gynnar; yn aml yn lliniaru’r effaith negatif y mae afiechyd meddwl yn medru ei gael ar yr unigolyn, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.

 

Y Gost Ddynol ac Ariannol

Os nad ydynt yn elwa o ymyriadau therapi deublyg (meddyginiaeth wedi’i gyfuno gyda therapïau siarad), mae iechyd meddwl pobl yn medru gwaethygu wrth iddynt wynebu oedi sylweddol wrth geisio cael mynediad at therapïau siarad. Mae hyn yn medru effeithio’n negatif ar y gost ddynol o ran y poen a’r trallod diangen, ond hefyd yn medru cynyddu cost ariannol hirdymor o afiechyd meddwl (a amcangyfrifir yng Nghymru i fod yn £7.2 biliwn y flwyddyn ac yn cynyddu).

 

Pobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd  

Mae pobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn fwy tebygol o angen ymyriadau seicolegol arbenigol, ond hefyd yn debygol o feddu ar anghenion gofal iechyd cynradd (gorbryder, iselder ayyb). Felly, dylai pobl sydd yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gael mynediad at yr ystod lawn o ymyriadau seicolegol sydd ar gael iddynt mewn gofal cynradd ac eilaidd.  Un o’r prif flaenoriaeth i Hafal yw sicrhau fod therapïau seicolegol ar gael i bobl sydd yn profi afiechyd seicotig cyn eu bod yn mynd yn sâl ac angen mynd i’r ysbyty. At hyn, pan fydd pobl yn gorfod mynd i’r ysbyty, rhaid iddynt dderbyn therapïau seicolegol fel blaenoriaeth, oherwydd po fwyaf y maent yn aros yn yr ysbyty, mae hyn yn medru cael effaith sylweddol ar eu bywydau a bywydau eu teuluoedd a’u gofalwyr.

 

Costau Iechyd Corfforol

Mae mynediad cyflym at therapïau siarad hefyd yn cynnig y potensial i leihau’r galw ar gyllideb gofal iechyd corfforol. Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn fwy tebygol o wynebu nifer o anghydraddoldebau, gan gynnwys iechyd corfforol gwaeth  o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Mae pobl ag afiechyd meddwl difrifol ddwywaith yn fwy tebygol o ran profi clefyd y siwgr (Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, 2013) a theirgwaith yn fwy tebygol o farw o glefyd y galon a’n meddu ar gyfartaledd bywyd sydd 20 mlynedd yn llai.

 

Amseroedd aros

Mae Gadewch i Ni Siarad am Therapïau Seicolegol yn cefnogi barn y BACP (the British Association of Counselling & Psychotherapy); o’r herwydd, hoffwn weld ymrwymiad tuag at darged o 28 diwrnod yn cael ei gyflwyno ar gyfer y cyfnod aros am fynediad at wasanaethau therapi seicolegol, fel sydd wedi ei amlinellu gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol  Mark Drakeford ar y 3ydd o Dachwedd 2015.

 

Dewis

Mae Gadewch i Ni Siarad yn ffocysu ar ehangu’r dewis o therapïau siarad. Mae’n cael ei gydnabod bellach fod y graddau y mae person yn credu yn y dull therapiwtig yn dylanwadu ar ganlyniad y driniaeth. Er hyn, mae data o arolwg diweddar yng Nghymru a Lloegr wedi canfod nad oedd  70 y cant o bobl wedi cael dewis o ran y math  therapi yr oeddynt wedi derbyn gyda  66 y cant yn dweud nad oedd neb wedi esbonio’r mathau gwahanol o therapïau iddynt ar unrhyw adeg (Mind Cymru. 2016)

 

Yr Iaith Gymraeg a Therapi Siarad  

Mae fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Iaith Gymraeg, ‘Mwy na Geiriau’ a’r strategaeth iechyd meddwl yn cynnwys ymrwymiadau i wella mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Er hyn, mae arolwg diweddar wedi canfod mai ond 8% o siaradwyr Cymraeg a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg a oedd wedi cael ‘cynnig rhagweithiol’ i dderbyn triniaeth yn y Gymraeg, yn unol ag ymrwymiadau Llywodraeth Cymru

 

Casglu data

At hyn, mae Gadewch i Ni Siarad am Therapïau Seicolegol yn dymuno cefnogi gwelliannau yn y modd mae data yn cael ei gasglu a’i gyhoeddi ar amseroedd aros a’r therapïau sydd yn cael eu darparu yng Nghymru fel bod y gwasanaethau mwyaf priodol, sydd yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn gost-effeithiol yn cael eu darparu (fel sydd wedi ei amlinellu yn adroddiad Iechyd Meddwl Cymru: Gofal Cynradd 2015). Bydd yn help i gefnogi arferion gorau o ran Amseroedd agor a Dewis.

 

Modelau newydd ar gyfer darparu ‘Therapïau Siarad’

Mae’r tirwedd iechyd a gofal cymdeithasol yn newid yn araf bach. Mae’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, technoleg cyfathrebu gwybodaeth a thelegyfathrebu yn rhai o’r sectorau sydd yn cydgyfeirio ac yn darparu canolfannau ar gyfer arloesedd er mwyn helpu i wella’r modd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu a bywydau pobl dros bedwar ban byd.  Mae Gadewch i Ni Siarad am Therapïau Seicolegol yn bwriadu cefnogi a gweithio gyda Llywodraeth Cymru, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a chyrff proffesiynol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl er mwyn gwyntyllu a datblygu modelau newydd o ddarparu Therapïau Siarad yng Nghymru Wales.

 

Ymchwil

Y British Association for Counselling and Psychotherapy (BACP) yw’r prif gorff proffesiynol ar gyfer cwnsela a seicotherapi yn y DU. Mae mwy na 1800 o aelodau gan y BACP yng Nghymru a mwy na 44,000 ar draws y DU. Mae’r BACP yn argymell y dylai’r ganran o gyllid ymchwil  gyfateb i lefel yr afiechyd meddwl yn y boblogaeth. Afiechydon meddwl yw 23 y cant  o’r holl afiechydon yn y DU ond mae’r gyfran o wariant ar ymchwil iechyd  sydd yn ffocysu ar afiechyd meddwl ond yn 5.5 y cant (data 2009/10). O fewn hyn, mae llai na 15 y cant yn cael ei wario ar ymchwilio triniaethau seicolegol.

 

Arsyllfa Canolfan Rhagoriaeth Therapïau Seicolegol

Fel rhan o’r Arsyllfa Canolfan Rhagoriaeth Therapïau Seicolegol,  bydd Aelodau a thîm penodol o ddefnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol yn cefnogi’r broses o ddylunio a datblygu canllawiau hawdd eu defnyddio am therapïau siarad, creu tudalennau gwe penodol a fforwm lle y gall pobl gael gwybodaeth am argaeledd therapïau siarad yn eu hardaloedd, nifer o raglenni hyfforddi i staff a grwpiau perthnasol, a darparu adborth i’r Byrddau Iechyd Lleol am y therapïau y maent yn darparu, a hynny ar y cyd ag astudiaethau achos o’r arferion gorau cyfredol.

 

Cefndir y Map Rhanbarthol

Fel rhan o’r prosiect arloesol hwn, mae ’Gadewch i Ni Siarad’ yn gweithio gyda Byrddau Iechyd Lleol, mudiadau cwnsela a seicotherapi proffesiynol, a defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd, i ddarparu map rhanbarthol sydd yn amlinellu mewn manylder y ffurfiau gwahanol o therapïau siarad sydd ar gael yng Nghymru. Bydd y map rhanbarthol yn cael ei  ddiweddaru bob dydd. Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y mathau o therapïau siarad sydd ar gael yn eich ardal, yna cysylltwch os gwelwch yn dda ag aelod o’r tîm ’Gadewch i Ni Siarad’  drwy e-bostio lets.talk@hafal.org

Mae modd i chi chwarae rhan drwy ddod yn aelod o rwydwaith Arsyllfa Cenedlaethol Therapïau Seicolegol Hafal. Bydd aelodau’r rhwydwaith yn rhoi gwybodaeth i’r arsyllfa am therapïau seicolegol yn eu hardaloedd. Mae hyn yn cynnwys ‘pwy neu beth’ sydd wedi eich helpu chi a’ch teulu i gael mynediad at therapïau siarad, y lleoliad a manylion cyswllt y mathau gwahanol o therapïau sydd ar gael yn lleol.

Cwrdd â’r tîm: MaeGadewch i Ni Siarad am Therapïau Seicolegol’ yn dwyn defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr ynghyd, gan gynnwys eraill sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys  Hafal, Panel Arweinyddiaeth Arbenigol Hafal, a’r tîm Gadewch i Ni Siarad.

 

Sut i chwarae rhan?

Mae yna nifer o ffyrdd i chi chware rhan yn y fenter, Gadewch i Ni Siarad. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dod yn aelod o rwydwaith Arsyllfa Cenedlaethol Therapïau Seicolegol Hafal a rhoi gwybodaeth i’r arsyllfa am therapïau seicolegol yn eu hardaloedd. Mae hyn yn cynnwys ‘pwy neu beth’ sydd wedi eich helpu chi a’ch teulu i gael mynediad at therapïau siarad, nodi’r lleoliad a manylion cyswllt y mathau gwahanol o therapïau sydd ar gael yn lleol.
  • Cymryd rhan mewn fforymau ar-lein am therapïau siarad sydd ar gael drwy wasanaeth CLIC  Hafal
  • Cofrestru ar gyfer hyfforddiant eiriolaeth therapïau siarad. Byddwn yn darparu cyfres o raglenni hyfforddi eiriolaeth er mwyn helpu pobl sydd â phrofiad o afiechyd meddwl a’u teuluoedd i gael mynediad at therapïau siarad yn eu hardaloedd.
  • Cofrestru ar gyfer rhaglen hyfforddi broffesiynol Gadewch i Ni Siarad. Mae hyn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am gael profiad o ddarparu therapïau siarad i bobl ag afiechydon meddwl difrifol a pharhaol.
  • Os oes gennych ddiddordeb mewn therapïau siarad, gallwch ein helpu ni i ddatblygu canllawiau am therapïau siarad sydd yn hawdd eu defnyddio.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach am sut i chwarae rhan yn unrhyw un o’r gweithgareddau fel sydd wedi eu hamlinellu uchod, yna cysylltwch gyda Jason Celia.