Rhianta a pherthnasau gofalu

Rhianta-a-pherthnasau-gofaluFrank2Yn ystod  cyfnodau o iselder, roeddwn yn troi’n berson ynysig iawn, a oedd yn feirniadol iawn o’i wraig a’i blant ac roedd hyn yn tanseilio fy mherthynas gyda hwy. Roedd y teulu cyfan yn byw o dan straen emosiynol dybryd a oedd yn effeithio’n andwyol ar ein cyraeddiadau ym mhob agwedd o fywyd. Roedd therapïau siarad nid yn unig wedi helpu fy adferiad personol ond wedi helpu i greu sgiliau rhianta adeiladol a chynaliadwy ac mae’r teulu cyfan nawr  yn ymwybodol o hyn ac yn cefnogi iechyd meddwl ei gilydd.” Frank Kitt

I lawer o bobl, bydd yr amcanion Cyfrifoldebau Rhaianta a Gofalu yn cynnwys parhau i fod yn rhiant neu’n ofalw effeithiol a dibynadwy ac i fod mor annibynnol â phosib yn y rôl hon.

 

  1. 1.   Beth ydych am ei gyflawni?

Defnyddiwch y cyfle hwn i gydnabod unrhyw berthynas fel rhiant neu ofalwr yr ydych chi’n ei chynnal ac yn ymdopi â hi yn dda, yn ogystal ag i ofyn am help os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau. Efallai mai eich canlyniad chi fydd cael y gefnogaeth sydd ei angen arnoch chi i gynnal neu wella eich gallu i fod yn rhiant neu’n ofalwr Gallai hyn gynnwys cael cefnogaeth ariannol (gan gynnwys y budd-daliadau priodol) neu ddod o hyd i gyfleoedd i gael seibiant o ofalu.

Ysgrifennu Cyfarwyddyd Ymlaen Llaw/cynllun wrth gefn neu’n ofalwr. Gallai hyn gynnwys cael cefnogaeth ariannol (gan gynnwys y budd-daliadau priodol) neu yn amlinellu’r trefniadau gofal ar gyfer cyfnodau pan ddod o hyd i gyfleoedd i gael seibiant o ofalu.

Gallech drafod materion sy’n ymwneud â bod yn rhiant neu ofalwr gyda’ch meddyg teulu, eich ymwelydd iechyd neu’ch gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol. Neu gallech hefyd chwilio am gyngor gan sefydliadau cynghori lleol neu genedlaethol fel Cyngor ar Bopeth, a byddant yn gallu eich cyfeirio at wahanol ffynonellau cefnogaeth, fel y gall eich Cyngor lleol wneud hefyd. Os ydych chi’n meddwl bod eich salwch meddyliol yn effeithio ar eich plentyn, gallwch ofyn i’r Cyngor lleol asesu eu hanghenion.  Mae’n bosibl y gallent hefyd roi gwasanaethau cefnogi i chi.

Os ydych chi yn yr ysbyty, efallai mai eich canlyniad fydd gwella eich cysylltiad â gartref, neu ailafael yn eich rôl fel rhiant neu ofalwr pan fyddwch chi yn ôl yn y gymuned. Rydym yn argymell eich bod yn ystyried y rhan yma o’ch bywyd fel mater o drefn pan fyddwch chi’n dod at adolygu eich Cynllun, gan fod cyfrifoldebau rhywun yn newid yn aml.

 

2.    Pam gamau sydd angen eu cymryd neu wasanaethau sydd angen eu darparu er mwyn eich helpu i gyflawni eich amcanion?
Nesaf, ewch ati i feddwl am ba gamau yr ydych angen eu cymryd er mwyn cyflawni eich amcanion a pha wasanaethau sydd angen eu darparu er mwyn eich cynorthwyo chi.

Gwasanaethau posibl:
●  
Gwiriad budd-daliadau
●   Arweiniad a chefnogaeth ar fod yn rhiant gan sefydliad cynghori
●   Gwasanaethau cefnogi plant yn eich Cyngor lleol
●   Gwasanaeth cefnogi arbenigol o sefydliad yn y sector gwirfoddol.

Camau posibl:
●   Ymuno â grwp cefnogi gofalwyr
●   Ymuno â chlwb ‘Rhiant a Phlentyn’ lleol
●   Ysgrifennu Cyfarwyddyd Ymlaen Llaw/cynllun wrth gefn yn amlinellu’r trefniadau gofal ar gyfer cyfnodau pan fyddwch chi yn yr ysbyty
●   Rhoi gwybodaeth i’r unigolyn rydych chi’n gofalu amdanynt am eich salwch
●   Rhoi gwybodaeth am eich sefyllfa i ysgol/grðp chwarae eich plentyn
●   Creu rhwydwaith gefnogaeth anffurfiol yn cynnwys perthnasau, ffrindiau, cymdogion neu gydweithwyr
●   Gofyn i’ch meddyg neu weithiwr iechyd meddwl proffesiynol am gymorth a chefnogaeth arbenigol ar gyfer teuluoedd
●   Gosod amser ym mhob diwrnod i chwarae neu wneud gweithgareddau gyda’ch plant
●   Sefydlu cyswllt rheolaidd gyda’ch cartref pan fyddwch chi yn yr ysbyty e.e. drwy alwadau ffôn neu neges testun neu e-bost
●   Gofyn am ystafell bwrpasol ar gyfer ymweliadau teulu fel nad oes rhaid i’ch plant ddod i mewn i ward yr ysbyty.

 


3.    Pwy sydd yn medru eich cefnogi i gyflawni eich amcanion?
Y brif bobl fydd yn cymryd y blaen wrth ddarparu gwasanaethau fydd eich Meddyg Teulu, ymwelydd iechyd neu (os ydych chi yn yr ysbyty) eich Nyrs Enwebedig. Gall eich Cyngor lleol roi cyngor i chi ac mae posib iddynt gynnig gwasanaethau cefnogi.

Mae cefnogwyr eraill yn cynnwys:
   Athrawon
   Gweithiwr cymdeithasol plant
   Cyngor ar Bopeth
   Sefydliadau gwirfoddol

a/neu
   Aelod o’r teulu a/neu ofalwr arall
   Cydlynydd Gofal
●   Chi!

 

Mwy o adnoddau a dolenni ar gael ar Berthnasau Gofalu a Rhianta

[Noder: mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth yn benodol ar gyfer  pobl ag afiechyd meddwl difrifol sydd yn meddu ar gyfrifoldebau gofalu neu rianta. Mae  modd canfod gwybodaeth i bobl sydd yn gofalu am unigolion ag afiechyd meddwl drwy’r ddolen hon http://www.hafal.org/services/carers/ ac mae ein  “Cynllun 10 Pwynt i Ofalwyr” ar gael yma http://www.hafal.org/wp-content/uploads/2015/03/10-Point-Plan.pdf ]

   Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn darparu cyngor yma sy’n ymdrin â phan fydd rhiant yn mynd yn sâl http://www.mentalhealth.org.uk/help-information/mental-health-a-z/P/parents/

   Mae Barnardo’s yn rhoi gwybodaeth yma i bobl ifanc, gan gynnwys y rhai hynny sydd â rhieni sy’n dioddef o afiechyd meddwl http://www.barnardos.org.uk/what_we_do/our_work/young_carers.htm ac yma http://www.barnardos.org.uk/family_minded_report.pdf

●   Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn cynnig gwybodaeth yma am “afiechyd meddwl rhieni” yma http://www.rcpsych.ac.uk/healthadvice/parentsandyouthinfo/parentscarers/parentalmentalillness.aspx