BLOG JO: RHOWCH NODDFA I NI, NID CELL!

Yn fy mlog diweddaraf am ddiwygio’r Ddeddf Iechyd Meddwl, rwyf am drafod sut y mae’r heddlu yn delio gyda’r sawl sydd yn profi argyfwng.   

Mae gennyf brofiad personol o ddod i gysylltiad gyda’r heddlu pan oeddwn yn sâl ac roedd hyn wedi fy ysbrydoli i ysgrifennu’r canllaw goroesi’ i bobl ag afiechyd meddwl sydd yn dod i gysylltiad gyda’r system cyfiawnder troseddol.  

Mae llawer o bobl yr wyf wedi siarad gyda hwy wedi codi pryderon am y ffordd y mae’r system cyfiawnder troseddol yn delio ag afiechyd meddwl.    

Y newyddion da yw bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi  cynnal ymgynghoriad ar iechyd meddwl  yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu (sydd wedi cau erbyn hyn). Rydych yn medru darllen ymateb Hafal (mewn partneriaeth gyda Cais ac Academi Morgan) yma.

Mae’n galonogol fod pwyllgor yn ystyried y problemau sydd wedi eu codi gan yr heddlu sydd yn treulio llawer o’u hamser ac adnoddau ar faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl. Mae llawer iawn o’r gweithgarwch yma yn ffocysu ar Adran 136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Er bod yna gynnydd da yn cael ei wneud o ran ymatal rhag defnyddio celloedd i ddal pobl sydd mewn argyfwng, fy mhrif bryder yw bod problem fwy sylfaenol: nid yw llawer o bobl yn cael eu hadnabod gan wasanaethau iechyd meddwl yn y lle cyntaf, ac felly, nid ydynt yn derbyn yr help sydd angen arnynt, a dyna pam eu bod yn profi argyfwng ac yn dod i gysylltiad gyda’r heddlu. 

Mewn blog cynt, rwyf yn dadlau mai’r hyn sydd angen ar bobl ag afiechyd meddwl yw’r hawl i driniaeth gynnar ac ymatebol   sydd yn atal argyfwng a’r defnydd dilynol a wneir wedyn o Adran 136.

Yn ei hanfod, nid yw’r heddlu yn gymwys i ddelio gyda materion iechyd meddwl am nad ydynt yn wasanaeth iechyd. 

Yn ogystal â darparu gwasanaethau iechyd meddwl ar draws Cymru, mae Hafal hefyd yn darparu gwasanaeth oedolion priodol ym mhob ardal heddlu yng Nghymru. Mae oedolion priodol yn cynnig cymorth a chyngor i unigolion bregus sydd wedi eu dal yn y ddalfa. Wedi siarad gyda staff Hafal, ac yn bennaf y tîm oedolion priodol, mae’n eglur yn ein profiad ni  fod yna wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol annigonol ar gael i gefnogi heddweision yng Nghymru i ddargyfeirio pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i ffwrdd o ddalfa’r heddlu.  

Mae yna broblem hefyd gan nad oes yna gyfleusterau noddfa yng Nghymru ac mae’r rhai agosaf i’w canfod ym Mryste. Mae fy nghydweithwyr wedi dweud wrthyf fod ymgais i ddatblygu’r gwasanaeth hwn yng Nghaerdydd wedi ei gefnogi’n eang ond nid oedd modd sicrhau ymrwymiad gan un asiantaeth; y newyddion da yw bod yna brosiectau  eraill ar waith nawr yn Abertawe a  Llanelli, er y bydd hyn ond yn gwasanaethu ardal fach o Gymru.  

Mae diffyg noddfa neu wasanaethau tebyg yn golygu fod rhai unigolion, heb unrhyw opsiwn i fanteisio ar wasanaethau y tu allan i oriau arferol y swyddfa,  yn dod i gysylltiad gyda’r heddlu dro ôl ar ôl tro, ond nid ydynt yn cael eu hystyried fel unigolion sydd mewn argyfwng.    

Canllawiau dedfrydu

O ran cyfiawnder troseddol,  roeddwn yn falch iawn i weld y Cyngor Dedfrydu yn cyhoeddi canllaw newydd arfaethedig yn gynharach eleni i droseddwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl ac anhwylderau.  

Pan fydd y canllaw yn cael  ei gyhoeddi yn ei ffurf derfynol, bydd barnwyr ac ynadon yn Lloegr a Chymru, yn meddu ar strwythur a phroses eglur, am y tro cyntaf, i’w dilyn pan yn dedfrydu pobl  sydd â chyflyrau iechyd meddwl.

Mae’r Cyngor Dedfrydu wedi  lansio ymgynghoriad ar y canllawiau arfaethedig. Wedi bwrw golwg arnynt, mae’r canllawiau yn addawol ac rwyf yn eu croesawu – ond mae angen i ni atgyfnerthu’r neges am degwch i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl sydd yn ymddangos yn y llys, ac felly, rwyf yn gweithio ar hyn o bryd gyda Hafal ar ymateb i’r ymgynghoriad.    

A ydych yn medru ein helpu gyda hyn? Mae diddordeb gennyf i glywed am eich profiadau o dderbyn dedfryd yn y lles – naill ai eich hun neu ynglŷn â rhywun arall yr oeddech yn cefnogi.    Rhannwch yr hyn oedd wedi digwydd a ph’un ai yr ystyriwyd eich iechyd meddwl chi (neu’r person yr ydych yn gofalu amdano).   

Ac os ydych yn medru bwrw golwg ar y canllawiau, rhowch wybod i mi os ydych yn credu eu bod yn taro cydbwysedd rhwng yr angen i ddiogelu’r cyhoedd a  hawliau ac anghenion y troseddwyr? A ydynt yn ddigon clir i farnwyr ac ynadon eu dilyn? A ydynt yn ddigon sensitif i amgylchiadau’r unigolion?


Eich barn chi

Os ydych am rannu eich barn ar yr hyn yr ydych wedi ei ddarllen uchod, rydych yn medru cysylltu gyda mi ar e-bost – josblog@hafal.org neu mae modd i chi ymateb  ar dudalennau Facebook a Twitter Hafal.

Gyda’n gilydd, rydym yn medru ymgyrchu am Ddeddf Iechyd Meddwl sydd yn ffocysu ar anghenion defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, ac sydd yn gweithio yn ein cyd-destun Cymreig unigryw.

Blog Jo